Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 658 (Cy.96)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Addysg Uwch 2004 (Awdurdod Perthnasol) (Dynodi) (Cymru) 2011

Gwnaed

7 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mawrth 2011

Yn dod i rym

31 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30 o Ddeddf Addysg Uwch 2004(1) (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 30(3) o'r Ddeddf, mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddiwygio'r Ddeddf fel a nodir yn rheoliad 3, mewn cysylltiad â dynodi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn awdurdod perthnasol o ran Cymru.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg Uwch 2004 (Awdurdod Perthnasol) (Dynodi) (Cymru) 2011 ac maent yn dod i rym ar 31 Mawrth 2011.

Dynodi

2.  Dynodir Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn awdurdod perthnasol o ran Cymru at ddibenion adran 30 o Deddf Addysg Uwch 2004.

Diwygiadau i Ddeddf Addysg Uwch 2004

3.—(1Mae Deddf Addysg Uwch 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl adran 40 mewnosoder—

40A    Provision of reports, information and advice by the relevant authority in relation to Wales

(1) The relevant authority in relation to Wales must provide to the Welsh Ministers as soon as possible after the end of each financial year, a report on how the relevant authority has performed its functions during that year.

(2) The Welsh Ministers may require the relevant authority either in a report under subsection (1) or in a special report, to report to them on such matters related to the promotion of equality of opportunity in connection with access to higher education and the promotion of higher education as the Welsh Ministers may specify.

(3) The relevant authority in relation to Wales—

(a)must provide the Welsh Ministers with such information and advice relating to the promotion of equality of opportunity in connection with access to higher education and the promotion of higher education as the Welsh Ministers may from time to time require;

(b)may provide the Welsh Ministers with such information or advice relating to the promotion of equality of opportunity in connection with access to higher education and the promotion of higher education as it thinks fit.

(4) The relevant authority in relation to Wales may, where it considers it appropriate to do so—

(a)identify good practice relating to the promotion of equality of opportunity in connection with access to higher education (whether full-time or part-time) and the promotion of higher education, and

(b)give advice about such practice to publicly-funded institutions.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

7 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dynodi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“y Cyngor”) yn awdurdod perthnasol o ran Cymru at ddibenion adran 30 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (“y Ddeddf”).

Swyddogaethau'r awdurdod perthnasol o ran Cymru a osodir gan y Ddeddf yw cymeradwyo a gorfodi cynlluniau a gyflwynir gan y sefydliadau hynny yng Nghymru sy'n dymuno codi ffioedd dysgu am gyrsiau gradd llawnamser sy'n uwch na'r swm sylfaenol. Rhagnodir y swm sylfaenol yn Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011.

Mae rheoliad 2 yn dynodi'r Cyngor yn awdurdod perthnasol. Mae rheoliad 3 yn diwygio'r Ddeddf i osod swyddogaethau ychwanegol sy'n ymwneud â darparu adroddiadau, gwybodaeth a chyngor ar faterion sy'n ymwneud â hybu mynediad i addysg uwch a hybu addysg uwch; ac o ran adnabod arferion da.

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol sy'n gymwys i'r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, C10 3NQ.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cyfansoddwyd ef gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).