xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 683 (Cy.101)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Benfro (Cymunedau) 2011

Gwnaed

7 Mawrth 2011

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), dyddiedig Ebrill 2010 ar ei adolygiad o gymunedau yn Sir Benfro a'i gynigion ynglŷn â hwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny gydag addasiadau.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno iWeinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 67(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy(2).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Benfro (Cymunedau) 2011.

(2Daw erthyglau 4, 5 a 6 o'r Gorchymyn hwn i rym—

(a)at ddibenion trafodion sy'n rhagarweiniol i ethol cynghorwyr neu sy'n ymwneud ag ethol cynghorwyr ar 15 Hydref 2011;

(b)at bob diben arall, ar ddiwrnod cyffredin ethol cynghorwyr yn 2012.

(3At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2011, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

Newid ardaloedd llywodraeth leol

3.  Gwneir newidiadau yn Sir Benfro yn unol â'r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.

Scleddau a Threcŵn — uno cymunedau presennol i greu cymuned newydd a newidiadau canlyniadol i 213 213 213 213 246 213 r trefniadau etholiadol

4.—(1Mae cymunedau presennol Scleddau a Threcŵn wedi 213 213 213 213 246 213 213 u huno gan ffurfio cymuned newydd o'r enw Scleddau.

(2Mae ardal y gymuned newydd wedi'i hamlinellu ar Fap A ag ymyl coch.

(3Mae cynghorau cymuned Scleddau a Threcŵn wedi'u diddymu.

(4Bydd cyngor i gymuned newydd Scleddau.

(5Mae cymuned newydd Scleddau wedi'i rhannu yn dair ward sef—

(a)Gogledd Scleddau;

(b)De Scleddau; ac

(c)Trecŵn.

(6Ffurfir pob ward o'r ardal a ddynodir ar Fap A drwy gyfeirio at enw'r ward ac fel y'i nodir â llinellau melyn.

(7Etholir tri chynghorydd i bob ward.

(8Mae cymuned newydd Scleddau yn ffurfio rhan o adran etholiadol Scleddau.

Castellmartin a Stackpole — uno cymunedau presennol i greu cymuned newydd a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

5.—(1Mae cymunedau presennol Castellmartin a Stackpole wedi'u huno gan ffurfio cymuned newydd o 213 213 213 213 246 213 213 213 r enw Stackpole a Chastellmartin.

(2Mae ardal y gymuned newydd wedi'i hamlinellu ar Fap B ag ymyl coch.

(3Mae cynghorau cymuned Castellmartin a Stackpole wedi'u diddymu.

(4Bydd cyngor i gymuned newydd Stackpole a Chastellmartin.

(5Mae cymuned newydd Stackpole a Chastellmartin wedi'i rhannu yn ddwy ward sef—

(a)Stackpole; a

(b)Castellmartin.

(6Ffurfir pob ward o'r ardal a ddynodir ar Fap B drwy gyfeirio at enw'r ward ac fel y'i nodir â llinell felen.

(7Yng nghymuned newydd Stackpole a Chastellmartin—

(a)nifer y cynghorwyr cymuned sydd i'w hethol dros ward Stackpole yw 5; a

(b)nifer y cynghorwyr cymuned sydd i'w hethol dros ward Castellmartin yw 2.

(8Mae cymuned newydd Stackpole a Chastellmartin yn ffurfio rhan o adran etholiadol Hundleton.

Uzmaston a Boulston a Slebets — uno cymunedau presennol i greu cymuned newydd a newidiadau canlyniadol i 213 213 213 213 246 213 213 213 213 r trefniadau etholiadol

6.—(1Mae cymunedau presennol Uzmaston a Boulston a Slebets wedi'u huno i ffurfio cymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets.

(2Mae ardal y gymuned newydd wedi'i hamlinellu ar Fap C ag ymyl coch.

(3Mae cynghorau cymuned Uzmaston a Boulston a Slebets wedi'u diddymu.

(4Bydd cyngor i gymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets.

(5Mae cymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets wedi'i rhannu yn ddwy ward sef—

(a)Uzmaston a Boulston; a

(b)Slebets.

(6Ffurfir pob ward o'r ardal a ddynodir ar Fap C drwy gyfeirio at enw'r ward ac fel y'i nodir â llinell felen.

(7Yng nghymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets—

(a)nifer y cynghorwyr cymuned sydd i'w hethol dros ward Uzmaston a Boulston yw 6; a

(b)nifer y cynghorwyr cymuned sydd i'w hethol dros ward Slebets yw 2.

(8Mae cymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets yn ffurfio rhan o adran etholiadol Martletwy.

Hwlffordd a Rudbaxton— newid yn yr ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

7.  mdash;

(1Mae'r rhan o gymuned Rudbaxton a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap D—

(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Hwlffordd;

(b)yn ffurfio rhan o ward Prendergast yng nghymuned Hwlffordd; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Hwlffordd: Prendergast.

(2Nid oes wardiau bellach yng nghymuned Rudbaxton.

(3Nifer y cynghorwyr cymuned sydd i'w hethol dros Rudbaxton yw 10.

Cilgerran ac Eglwyswrw — newid yn yr ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

8.  Mae'r rhan o gymuned Cilgerran a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap E—

(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Eglwyswrw; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Crymych.

Cas-mael a Chwm Gwaun ac Eglwyswrw — newid yn yr ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

9.  Mae'r rhan o gymuned Eglwyswrw a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap F—

(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Cas-mael;

(b)yn ffurfio rhan o ward Castellhenri yng nghymuned Cas-mael; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Dinas.

Freystrop a Llangwm — newid yn yr ardaloedd cymunedol

10.  Mae'r rhannau o gymuned Llangwm a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap G ac a ddangosir â llinellau rhesog croes ar Fap H wedi'u trosglwyddo i gymuned Freystrop.

Freystrop a Rosemarket — newid yn yr ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i 213 213 213 213 246 213 213 213 213 213 r trefniadau etholiadol

11.  Mae'r rhan o gymuned Rosemarket a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap H—

(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Freystrop; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llangwm.

Freystrop a Hook — newid yn yr ardaloedd cymunedol

12.  Mae'r rhan o gymuned Freystrop a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap I wedi'i throsglwyddo i gymuned Hook.

Burton a Rosemarket — newid yn yr ardaloedd cymunedol

13.  Mae'r rhan o gymuned Rosemarket a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap J wedi'i throsglwyddo i gymuned Burton.

Angle a Hundleton — newid yn yr ardaloedd cymunedol

14.  Mae'r rhan o gymuned Hundleton a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap K wedi'i throsglwyddo i gymuned Angle.

Llanrhian a Mathri — newid yn yr ardaloedd cymunedol

15.  Mae'r rhan o gymuned Mathri a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap L wedi'i throsglwyddo i gymuned Llanrhian.

Camros a Hwlffordd — newid yn yr ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

16.  Mae'r rhannau o gymuned Camros a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap M—

(a)wedi'u trosglwyddo i gymuned Hwlffordd;

(b)yn rhan o ward Portfield yng nghymuned Hwlffordd; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Hwlffordd: Portfield.

Camros a Nolton a'r Garn — newid yn yr ardaloedd cymunedol

17.  Mae'r rhan o gymuned Nolton a'r Garn a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap N wedi'i throsglwyddo i gymuned Camros.

Johnston a Tiers Cross — newid yn yr ardaloedd cymunedol

18.  Mae'r rhan o gymuned Tiers Cross a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap O wedi'i throsglwyddo i gymuned Johnston.

Amroth a Chilgeti/Begeli — newid yn yr ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i 213 213 213 213 246 213 213 213 213 213 213 r trefniadau etholiadol

19.  Mae'r rhan o gymuned Cilgeti/Begeli a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap P—

(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Amroth;

(b)yn ffurfio rhan o ward Amroth yng nghymuned Amroth; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Amroth.

East Williamston a Chilgeti/Begeli — newid yn yr ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

20.  Mae'r rhannau o gymuned Cilgeti/Begeli a ddangosir â llinellau rhesog ar Fapiau Q ac R—

(a)wedi'u trosglwyddo i gymuned East Williamston;

(b)yn rhan o ward Pentlepoir yng nghymuned East Williamston; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol East Williamston.

Treuliau cychwynnol etc cynghorau cymuned newydd

21.—(1Yn yr erthygl hon—

(2Mae adran 41 o Ddeddf 1992 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) yn cael effaith—

(a)o ran y cyngor cymuned newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol; a

(b)o ran y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac sy'n dod i ben yn union cyn y diwrnod y dyroddir gan y gymuned newydd braesept am y flwyddyn ariannol berthnasol,

drwy roi yn lle is-adran (3) yr is-adran ganlynol—

(3) In making calculations in accordance with section 32 above (originally or by way of substitute) the billing authority must take into account for the purposes of its estimate under section 32(2)(a) above an amount equal to that notified to the billing authority in accordance with article 21(6) of the Pembrokeshire (Communities) Order 2011..

(3O ran y cyngor cymuned newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol—

(a)mae adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau bilio) yn cael effaith gan hepgor is-adran (6);

(b)mae adran 41(4) o Ddeddf 1992 yn cael effaith drwy roi yn lle'r geiriau “March in the financial year preceding that for which it is issued” y geiriau “October in the financial year for which it is issued”; ac

(c)mae'r cyfeiriad yn adran 52X(1) (cyfrifiadau i fod yn net o braeseptau) a 52Y(2) (gwybodaeth at ddibenion Pennod 4A) o Ddeddf 1992 at swm agregedig praeseptau a ragwelir gan awdurdod bilio yn unol â rheoliadau o dan adran 41 yn cael effaith fel petai'r swm agregedig yn cynnwys y swm a hysbyswyd i'r cyngor cymuned yn unol â pharagraff (6) o'r erthygl hon.

(4O ran y swm a gymerir i ystyriaeth at ddibenion adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992 yn rhinwedd paragraff (2) uchod, bydd Pennod III o Ran I o Ddeddf 1992 (pennu'r dreth gyngor) yn cael effaith fel petai—

(a)y swm yn eitem a grybwyllwyd yn adran 35(1) o Ddeddf 1992 (eitemau arbennig) a oedd yn ymwneud â'r gymuned newydd; a

(b)ardal yr awdurdod bilio arfaethedig yn cynnwys y gymuned newydd.

(5Rhaid i'r cyngor cymuned newydd wneud y cyfrifiadau sy'n ofynnol gan adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau praeseptio lleol) am y flwyddyn ariannol berthnasol er mwyn sicrhau na fydd y swm a gaiff ei gyfrifo fel ei angen cyllideb am y flwyddyn honno yn fwy na'r swm a hysbyswyd i'r cyngor cymuned yn unol â pharagraff (6) o'r erthygl hon.

(6Rhaid i'r swm sydd i'w hysbysu yn unol â'r paragraff hwn gael ei hysbysu mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru i'r awdurdod bilio a'r cyngor cymuned newydd.

(7O ran y cyngor cymuned newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol, mae Rheoliadau 1995 yn cael effaith—

(a)fel petai—

(i)rheoliad 5 (gwybodaeth am amserlennitalu), a

(ii)yn is-baragraffau (1), (2) a (3) o baragraff 8 o Ran II o'r Atodlen (rheolau i benderfynu'r cyfnodau amser ar gyfer rhandaliadau) ym mhob achos yr ail “or” a'r geiriau sy'n dilyn hyd at ddiwedd pob is-baragraff,

wedi'u hepgor; a

(b)yn is-baragraff (1) o'r paragraff 8 hwnnw, drwy roi “May” yn lle “April”.

Cynghorau cymuned newydd

22.  Rhaid i swyddog priodol Cyngor Sir Penfro gynnull cyfarfod cyntaf pob un o'r cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan erthyglau 4, 5 a 6.

Cynghorau cymuned newydd — olynwyr gweddilliol

23.  At ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau sy'n cyfeirio at olynydd gweddilliol awdurdod a ddiddymwyd—

(a)o ran cynghorau cymuned presennol Scleddau a Threcŵn, pennir cyngor cymuned newydd Scleddau yn olynydd gweddilliol;

(b)o ran cynghorau cymuned presennol Castellmartin a Stackpole, pennir cyngor cymuned newydd Stackpole a Chastellmartin yn olynydd gweddilliol; ac

(c)o ran cynghorau cymuned presennol Uzmaston a Boulston a Slebets, pennir cyngor cymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets yn olynydd gweddilliol.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

7 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'n rhoi effaith i gynigion gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”) a gyflwynodd adroddiad ym mis Ebrill 2010 ar ei adolygiad o ffiniau cymunedol yn Sir Benfro. Yr oedd adroddiad y Comisiwn yn argymell newid ffiniau cymunedau yn Sir Benfro a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn gydag addasiadau.

Mae printiau o'r mapiau sy'n dangos y ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Penfro yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (O.S. Rhif 1976/246) y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynglŷn ag effaith a gweithredu gorchmynion fel hwn.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol, sef diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i 213 r offeryn statudol hwn).

(4)

1992 p.14. Diwygiwyd adrannau 32 a 35, o ran Cymru, gan baragraffau 4 a 6 yn y drefn honno o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19). Diwygiwyd adran 50 gan Ran 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26). Mewnosodwyd adrannau 52X a 52Y gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Lywodraeth Leol 1999 (p.27).

(5)

O.S. 1995/2562 (fel y 213 213 i diwygiwyd gan O.S. 2001/3649).