xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 699 (Cy.106)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad a fu'n Derbyn Gofal (Cymru) 2011

Gwnaed

8 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2011

Yn dod i rym

1 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 23ZA(1)(b), (3) a (4), 104(4) a 104A o Ddeddf Plant 1989(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad a fu'n Derbyn Gofal (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i blentyn sy'n blentyn perthnasol at ddibenion adran 23A o Ddeddf 1989(6).

Amgylchiadau rhagnodedig at ddibenion adran 23ZA o Ddeddf 1989

3.  Yr amgylchiadau rhagnodedig at ddibenion adran 23ZA(1)(b) o Ddeddf 1989(7) yw bod y plentyn wedi ei gadw'n gaeth yn unol â gorchymyn llys mewn—

(a)sefydliad troseddwyr ifanc(8),

(b)canolfan hyfforddi ddiogel(9), neu

(c)cartref diogel i blant.

Amlder ymweliadau

4.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod ei gynrychiolydd (“R”) yn ymweld ag A—

(a)o fewn deng niwrnod ar ôl i A gael ei gadw'n gaeth am y tro cyntaf, cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol; a

(b)wedi hynny ar unrhyw adeg pan wneir cais rhesymol i wneud hynny gan—

(i)A,

(ii)aelod o staff y sefydliad lle y mae A wedi ei gadw'n gaeth,

(iii)unrhyw riant i A neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, neu

(iv)y rheolwr achos tîm troseddau ieuenctid perthnasol.

(2Caiff yr awdurdod lleol cyfrifol drefnu i R wneud ymweliadau ychwanegol ag A gan roi sylw i unrhyw argymhelliad a wnaed gan R yn unol â rheoliad 6(1)(b).

Y modd y mae ymweliadau i'w cynnal

5.  Ar bob ymweliad, rhaid i R siarad yn breifat ag A oni bai—

(a)bod A, ac yntau a'i oedran a'i ddealltwriaeth yn ddigonol iddo wneud hynny, yn gwrthod,

(b)bod R o'r farn ei bod yn amhriodol i wneud hyn gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth A, neu

(c)na all R wneud hynny.

Adroddiadau ar ymweliadau

6.—(1Rhaid i R ddarparu adroddiad ysgrifenedig ar bob ymweliad. Rhaid iddo gynnwys—

(a)asesiad R, gan roi sylw i ddymuniadau a theimladau A, o ran bod lles A yn cael ei ddiogelu a'i hybu'n ddigonol tra bo wedi ei gadw'n gaeth,

(b)argymhellion R ynglŷn ag amseriad ac amlder unrhyw ymweliadau pellach gan R,

(c)unrhyw drefniadau eraill y mae R yn ystyried y dylid eu rhoi ar waith er mwyn hybu cyswllt rhwng A a theulu A neu er mwyn diogelu a hybu lles A,

(ch)asesiad R, ynglŷn â sut y dylai lles A gael ei ddiogelu a'i hybu'n ddigonol wedi iddo gael ei ryddhau o gadwad, yn benodol–

(i)os bydd angen i'r awdurdod lleol cyfrifol neu awdurdod lleol arall ddarparu llety ar gyfer A pan ryddheir ef, a

(ii)os dylai'r awdurdod lleol cyfrifol neu awdurdod lleol arall ddarparu unrhyw wasanaeth arall wrth iddynt arfer eu dyletswyddau o dan Ddeddf 1989.

(2Rhaid i R, wrth wneud unrhyw asesiad o dan baragraff (1), onid yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny neu ei fod yn anghyson â lles A, gan gymryd i ystyriaeth farn—

(a)unrhyw riant i A, neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros A, a

(b) aelodau perthnasol o staff y sefydliad lle y mae A wedi ei gadw'n gaeth.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol perthnasol roi copi o'r adroddiad i'r rhai a ganlyn—

(a)A, oni fyddai'n amhriodol i wneud hynny,

(b)person sy'n dod o fewn paragraff (2)(a), oni fyddai gwneud hynny'n niweidio lles pennaf A,

(c)llywodraethwr, cyfarwyddwr neu reolwr cofrestredig(10) y sefydliad lle y mae A yn cael ei gadw'n gaeth,

(ch)y rheolwr achos tîm troseddau ieuenctid perthnasol,

(d)yr awdurdod lleol lle y mae A wedi ei gadw'n gaeth, pan fo hwnnw'n wahanol i'r awdurdod lleol cyfrifol, ac

(dd)unrhyw berson arall a ddylai gael copi o'r adroddiad yn nhyb yr awdurdod lleol cyfrifol, gan roi sylw i asesiad R.

Cyngor, cefnogaeth a chymorth

7.  Pan fo trefniadau yn cael ei gwneud yn unol ag adran 23ZA(2)(b) o Ddeddf 1989 bod cyngor priodol, cefnogaeth briodol a chymorth priodol ar gael i A, rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod—

(a)y trefniadau—

(i)yn briodol, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth A, a

(ii)rhoi ystyriaeth ddyledus i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir ieithyddol a diwylliannol A, ac i unrhyw anabledd a all fod gan A, a

(b)cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth A, fod A yn gwybod sut i gyrchu cyngor, cefnogaeth a chymorth priodol ganddo, fel yr awdurdod lleol cyfrifol.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch gofynion ymweld ar gyfer plant a phobl ifanc a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ond sydd wedi peidio â derbyn y cyfryw ofal o ganlyniad i gael eu cadw'n gaeth mewn sefydliad, naill ai am eu bod wedi eu remandio i'r carchar neu am eu bod wedi cael eu collfarnu a'u dedfrydu gan lys. Bydd y plant a'r bobl ifanc hynny sydd wedi peidio â bod yn blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, yn blant a phobl ifanc yr oedd llety o dan adran 20 o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) yn cael ei ddarparu iddynt a hynny cyn iddynt fynd i'r ddalfa, neu'n blant a phobl ifanc a oedd wedi cael eu remandio dan ddedfryd i ofal awdurdod lleol o dan adran 23(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adran 23ZA o Ddeddf 1989 (mewnosodwyd gan adran 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008) sy'n gosod dyletswydd ar awdurdod lleol (“yr awdurdod lleol cyfrifol”) i sicrhau bod bod cynrychiolydd o'r awdurdod lleol cyfrifol yn ymweld â phlant nad ydynt bellach yn derbyn gofal ganddo, o ganlyniad i amgylchiadau rhagnodedig, ac yn cael mynediad at wybodaeth cefnogaeth a chymorth.

Yr amgylchiadau rhagnodedig at ddibenion adran 23ZA(1)(b) o Ddeddf 1989 yw bod y plentyn wedi ei gadw mewn sefydliad troseddwyr ifanc, canolfan hyfforddi ddiogel neu gartref diogel i blant (rheoliad 3).

Mae Rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch amlder yr ymweliadau; rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol drefnu bod ei gynrychiolydd yn ymweld â'r plentyn o fewn deng niwrnod ar ôl i'r plentyn gael ei gadw'n gaeth am y tro cyntaf ac wedi hynny ar unrhyw adeg pan wneir cais rhesymol gan bersonau penodedig, er enghraifft, y plentyn, rhieni'r plentyn neu'n unol â'r awgrymiadau a wneir gan y cynrychiolydd.

Mae Rheoliad 5 yn darparu fod rhaid i'r cynrychiolydd, yn ystod pob ymweliad, siarad â'r plentyn yn breifat oni bai ei bod yn amhriodol i wneud hynny, neu fod y plentyn yn gwrthod.

Mae rheoliad 6 yn gosod dyletswydd ar y cynrychiolydd i ddarparu adroddiad ar bob ymweliad gan nodi beth fydd yn rhaid ei gynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Mae hefyd yn darparu bod rhaid rhoi copi o'r adroddiad i'r plentyn, oni bai ei bod yn amhriodol i wneud hynny, ac i bersonau penodol eraill.

Mae Rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â dyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan adran 23ZA(2)(b) o Ddeddf 1989 i drefnu bod cyngor, cefnogaeth a chymorth ar gael i'r plentyn.

(1)

1989 p.41; mae adran 23ZA wedi cael ei mewnosod gan adran 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) (“Deddf 2008”); mae adran 104(4)wedi ei diwygio gan adrannau 39 a 42 o Ddeddf 2008; mae adran 104A wedi cael ei mewnosod gan adran 39 o Ddeddf 2008 a pharagraffau 1 a 26 o Atodlen 3 iddi. Mynegir fod y pwerau yn arferadwy gan yr “appropriate national authority” a ddiffinir yn adran 30A o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”), i olygu Gweinidogion Cymru, o ran Cymru. Gweler adran 105(1) o Ddeddf 2008 am ddiffiniad o “prescribed”.

(2)

Er mwyn canfod ystyr plentyn “looked after” gweler adran 22(1) o Ddeddf 1989, fel y'i diwygiwyd gan adran 107 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a pharagraff 19 o Atodlen 5 iddi (p.22), adran 2 o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35) a chan adran 116(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Mae “Local authority” yn cael ei ddiffinio gan adran 105(1) o Ddeddf 1989 fel “the council of a county or county borough”, o ran Cymru.

(4)

O dan adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37) mae dyletswydd gan awdurdod lleol i sefydlu un neu fwy o dimau troseddau ieuenctid ar gyfer ei ardal.

(6)

Mae adran 23A(2) yn darparu bod “relevant child” yn blentyn: (a) nad yw'n derbyn gofal gan unrhyw awdurdod lleol; (b) a oedd, cyn y tro diwethaf i'r gofal a ddarperir iddo ddod i ben, yn blentyn cymwys at ddibenion paragraff 19B o Atodlen 2 i Ddeddf 1989; ac (c) yn 16 neu 17 mlwydd oed. Mae adran 23B o Ddeddf 1989 yn disgrifio swyddogaethau ychwanegol yr awdurdod cyfrifol mewn perthynas â phlant perthnasol.

(7)

Mae adran 23ZA(2) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau bod cynrychiolydd o'r awdurdod yn ymweld â pherson ac yn trefnu bod cyngor priodol, cefnogaeth briodol a chymorth priodol ar gael iddo os gofynnir amdano; mae adran 23ZA(1)(b) yn darparu bod yr adran yn gymwys i blentyn a fu'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond sy'n peidio â derbyn gofal ganddo o ganlyniad i amgylchiadau a ragnodwyd.

(8)

Mae sefydliad troseddwyr ifanc yn cael ei ddiffinio gan adran 43(1)(aa) o Deddf Carcharu 1953 (p.52) fel y'i diwygiwyd gan adran 170 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 a pharagraff 11 o Atodlen 15 iddi (p.33), ac adran 18(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (c. 33) ac adran 148(1) o Deddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 a pharagraff 3 o Ran 2 i Atodlen 26 iddi.

(9)

Mae canolfan hyfforddi ddiogel yn cael ei diffinio gan adran 43(1)(d) o Deddf Carcharu 1953 (p.52) fel y'i diwygiwyd gan adran 5(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.3) a Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p.6).

(10)

Hynny yw, person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000 fel rheolwr cartref diogel i blant.