Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch gofynion ymweld ar gyfer plant a phobl ifanc a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ond sydd wedi peidio â derbyn y cyfryw ofal o ganlyniad i gael eu cadw'n gaeth mewn sefydliad, naill ai am eu bod wedi eu remandio i'r carchar neu am eu bod wedi cael eu collfarnu a'u dedfrydu gan lys. Bydd y plant a'r bobl ifanc hynny sydd wedi peidio â bod yn blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, yn blant a phobl ifanc yr oedd llety o dan adran 20 o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) yn cael ei ddarparu iddynt a hynny cyn iddynt fynd i'r ddalfa, neu'n blant a phobl ifanc a oedd wedi cael eu remandio dan ddedfryd i ofal awdurdod lleol o dan adran 23(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adran 23ZA o Ddeddf 1989 (mewnosodwyd gan adran 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008) sy'n gosod dyletswydd ar awdurdod lleol (“yr awdurdod lleol cyfrifol”) i sicrhau bod bod cynrychiolydd o'r awdurdod lleol cyfrifol yn ymweld â phlant nad ydynt bellach yn derbyn gofal ganddo, o ganlyniad i amgylchiadau rhagnodedig, ac yn cael mynediad at wybodaeth cefnogaeth a chymorth.

Yr amgylchiadau rhagnodedig at ddibenion adran 23ZA(1)(b) o Ddeddf 1989 yw bod y plentyn wedi ei gadw mewn sefydliad troseddwyr ifanc, canolfan hyfforddi ddiogel neu gartref diogel i blant (rheoliad 3).

Mae Rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch amlder yr ymweliadau; rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol drefnu bod ei gynrychiolydd yn ymweld â'r plentyn o fewn deng niwrnod ar ôl i'r plentyn gael ei gadw'n gaeth am y tro cyntaf ac wedi hynny ar unrhyw adeg pan wneir cais rhesymol gan bersonau penodedig, er enghraifft, y plentyn, rhieni'r plentyn neu'n unol â'r awgrymiadau a wneir gan y cynrychiolydd.

Mae Rheoliad 5 yn darparu fod rhaid i'r cynrychiolydd, yn ystod pob ymweliad, siarad â'r plentyn yn breifat oni bai ei bod yn amhriodol i wneud hynny, neu fod y plentyn yn gwrthod.

Mae rheoliad 6 yn gosod dyletswydd ar y cynrychiolydd i ddarparu adroddiad ar bob ymweliad gan nodi beth fydd yn rhaid ei gynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Mae hefyd yn darparu bod rhaid rhoi copi o'r adroddiad i'r plentyn, oni bai ei bod yn amhriodol i wneud hynny, ac i bersonau penodol eraill.

Mae Rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â dyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan adran 23ZA(2)(b) o Ddeddf 1989 i drefnu bod cyngor, cefnogaeth a chymorth ar gael i'r plentyn.