Cyngor, cefnogaeth a chymorth
7. Pan fo trefniadau yn cael ei gwneud yn unol ag adran 23ZA(2)(b) o Ddeddf 1989 bod cyngor priodol, cefnogaeth briodol a chymorth priodol ar gael i A, rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod—
(a)y trefniadau—
(i)yn briodol, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth A, a
(ii)rhoi ystyriaeth ddyledus i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir ieithyddol a diwylliannol A, ac i unrhyw anabledd a all fod gan A, a
(b)cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth A, fod A yn gwybod sut i gyrchu cyngor, cefnogaeth a chymorth priodol ganddo, fel yr awdurdod lleol cyfrifol.