Rheoliad 2(5)
YR ATODLEN
Rheoliad 2 ac Atodlen 1
“ATODLEN 6Y LEFELAU BRIX GOFYNNOL AR GYFER SUDDOEDD FFRWYTHAU O DDWYSFWYD
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Enw Cyffredin y Ffrwyth | Yr Enw Botanegol | Y lefel gradd Brix ofynnol ar gyfer suddoedd ffrwythau o ddwysfwyd (h.y. ar gyfer sudd ffrwythau ailansoddedig a phiwrî ffrwythau ailansoddedig) |
Nodiadau: 1. Os yw sudd o ddwysfwyd wedi ei weithgynhyrchu o ffrwyth nad yw wedi ei grybwyll yn y rhestr uchod, lefel Brix y sudd fel y'i hechdynnwyd o'r ffrwyth a ddefnyddiwyd i wneud y dwysfwyd fydd lefel Brix ofynnol y sudd ailansoddedig. 2. Yn achos y cynhyrchion hynny sydd wedi eu marcio â seren (*), ac sydd wedi eu cynhyrchu fel sudd, penderfynir dwysedd cymharol ofynnol fel y cyfryw mewn perthynas â dŵr sy'n 20/20°C. 3. Yn achos y cynhyrchion hynny sydd wedi eu marcio â dwy seren (**), ac sydd wedi eu cynhyrchu fel piwrî, dim ond darlleniad Brix gofynnol nas cywirwyd (heb ei gywiro ar gyfer asidedd) a benderfynir. 4. Mewn cysylltiad â chyrains duon, gwafa, mango a ffrwyth y dioddefaint, dim ond i sudd ffrwythau ailansoddedig a phiwrî ffrwythau ailansoddedig sydd wedi eu cynhyrchu yn yr UE y mae'r lefelau gradd Brix gofynnol yn gymwys.” | ||
Afal (*) | Malus domestica Borkh. | 11.2 |
Bricyll (**) | Prunus armeniaca L. | 11.2 |
Banana (**) | Musasp. | 21.0 |
Cyrains duon (*) | Ribes nigrum L. | 11.6 |
Grawnwin (*) | Vitis vinifera L. neu hybridiau ohono Vitis labrusca L. neu hybridiau ohono | 15.9 |
Grawnffrwyth (*) | Citrus x paradise Macfad. | 10.0 |
Gwafa (**) | Psidium guajava L. | 9.5 |
Lemon (*) | Citrus limon (L.) Burm.f. | 8.0 |
Mandarin (*) | Citrus reticulataBlanco | 11.2 |
Mango (**) | Mangifera indica L. | 15.0 |
Oren (*) | Citrus sinensis (L.) Osbeck | 11.2 |
Ffrwyth y Dioddefaint (*) | Passiflora edulis Sims | 13.5 |
Eirin gwlanog (**) | Prunus persica (L.) Batsch var. Persica | 10.0 |
Gellyg (**) | Pyrus communis L. | 11.9 |
Pinafal (*) | Ananas comosus (L.) Merr. | 12.8 |
Mafon (*) | Rubus idaeus L. | 7.0 |
Ceirios Sur (*) | Prunus cerasus L. | 13.5 |
Mefus (*) | Fragaria x ananassa Duch. | 7.0 |