RHAN 3NATUR A CHWMPAS Y TREFNIADAU AR GYFER TRIN PRYDERON
Gofyniad i ystyried pryderon10
Yn ddarostyngedig i reoliad 14, rhaid i gorff cyfrifol drin pryder yn unol â'r trefniadau ar gyfer ymdrin â phryderon a bennir yn y Rheoliadau hyn os hysbysir y pryder ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011—
a
yn unol â rheoliad 11;
b
gan berson fel a bennir yn unol â rheoliad 12;
c
ynghylch mater a bennir yn rheoliad 13; ac
ch
o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 15.
Hysbysu pryderon11
1
Caniateir hysbysu pryder—
a
mewn ysgrifen;
b
yn electronig; neu
c
ar lafar, naill ai dros y teleffon neu'n bersonol, i unrhyw aelod o staff y corff cyfrifol y mae arfer ei swyddogaethau yn destun y pryder.
2
Yn ddarostyngedig i reoliad 14(1)(dd) pan hysbysir pryder ar lafar, rhaid i'r aelod o staff y corff cyfrifol yr hysbysir y pryder iddo—
a
wneud cofnod ysgrifenedig o'r pryder; a
b
darparu copi o'r cofnod ysgrifenedig i'r person a hysbysodd y pryder.
Personau y caniateir iddynt hysbysu pryderon12
1
Caiff y canlynol hysbysu pryder—
a
person sy'n cael, neu sydd wedi cael, gwasanaethau gan gorff cyfrifol, ynglŷn â'r gwasanaethau a gaiff neu y bu'n eu cael;
b
unrhyw berson yr effeithir arno, neu y bo'n debygol yr effeithir arno, gan weithred, anwaith neu benderfyniad corff cyfrifol y mae arfer ei swyddogaethau'n destun y pryder;
c
aelod nad yw'n swyddog neu gyfarwyddwr anweithredol corff cyfrifol;
ch
aelod o staff corff cyfrifol; neu
d
partner mewn corff cyfrifol.
2
Caiff person (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel cynrychiolydd) hysbysu pryder os yw'n gweithredu ar ran person a grybwyllir ym mharagraff (1)—
a
a fu farw;
b
sy'n blentyn;
c
sy'n analluog i hysbysu'r pryder ei hunan oherwydd diffyg galluedd, yn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 20059; neu
ch
sydd wedi gofyn i'r cynrychiolydd weithredu ar ei ran.
3
Pan fo cynrychiolydd yn hysbysu pryder ar ran plentyn, rhaid i'r corff cyfrifol yr hysbyswyd y pryder iddo—
a
peidio ag ystyried y pryder oni fodlonir y corff cyfrifol bod sail ddigonol dros hysbysu'r pryder gan gynrychiolydd yn hytrach na chan y plentyn; a
b
os na fodlonir ef felly, rhaid iddo hysbysu'r cynrychiolydd mewn ysgrifen, gan nodi'r rheswm dros ei benderfyniad.
4
Pan hysbysir pryder gan blentyn, rhaid i'r corff cyfrifol ddarparu pa bynnag gymorth i'r plentyn ag y bydd ei angen ar y plentyn yn rhesymol, er mwyn mynd ymlaen â'r pryder.
5
Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan fo cynrychiolydd yn hysbysu pryder ar ran—
i
plentyn; neu
ii
person sydd â diffyg galluedd, yn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005; a
b
pan fo'r corff cyfrifol, yr hysbyswyd y pryder iddo, wedi ei fodloni bod sail resymol dros ddod i'r casgliad nad yw'r cynrychiolydd yn berson addas i weithredu fel cynrychiolydd, neu nad yw'n bwrw ymlaen â'r pryder er budd gorau'r person yr hysbyswyd y pryder ar ei ran.
6
Pan fo paragraff (5) yn gymwys—
a
ac eithrio pan fo is-baragraff (6)(b) hefyd yn gymwys, caniateir peidio ag ystyried y pryder, neu beidio â'i ystyried ymhellach, yn unol â threfniadau a wnaed o dan y Rheoliadau hyn, a rhaid i'r corff cyfrifol hysbysu'r cynrychiolydd mewn ysgrifen, gan nodi'r rheswm am y penderfyniad;
b
os yw'r corff cyfrifol wedi ei fodloni bod gwneud hynny'n angenrheidiol, caiff barhau i ymchwilio i unrhyw fater a godir gan y pryder a hysbyswyd yn unol â pharagraff (5), ond o dan yr amgylchiadau hynny, nid oes unrhyw rwymedigaeth arno i ddarparu ymateb yn unol â rheoliad 24 onid yw o'r farn y byddai'n rhesymol gwneud hynny.
7
Ac eithrio pan fo paragraff (8) yn gymwys, os hysbysir pryder gan aelod o staff y corff cyfrifol ac os yw ymchwiliad dechreuol y corff cyfrifol yn canfod bod niwed cymedrol neu ddifrifol neu farwolaeth wedi digwydd, rhaid i'r corff cyfrifol hysbysu'r claf y mae'r pryder yn gysylltiedig ag ef, neu ei gynrychiolydd, o'r hysbysiad o bryder, a chynnwys y claf, neu ei gynrychiolydd, yn yr ymchwiliad i'r pryder yn unol â Rhan 5.
8
Os, ym marn y corff cyfrifol, na fyddai er budd y claf pe rhoddid gwybod i'r claf am y pryder, neu pe cynhwysid y claf yn yr ymchwiliad i'r pryder, rhaid i'r corff cyfrifol—
a
gwneud cofnod ysgrifenedig o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto; a
b
cadw'r penderfyniad hwnnw dan arolwg yn ystod yr ymchwiliad i'r pryder.
9
Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at berson sy'n hysbysu pryder neu'n ceisio iawn yn cynnwys cyfeiriad at gynrychiolydd y person hwnnw.
Materion y caniateir hysbysu pryderon yn eu cylch13
Caniateir hysbysu pryder yn unol â'r Rheoliadau hyn—
a
wrth gorff GIG Cymru ynglŷn ag unrhyw fater sy'n gysylltiedig ag arfer ei swyddogaethau;
b
wrth ddarparwr gofal sylfaenol ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau ganddo o dan gontract neu drefniadau gyda chorff GIG Cymru;
c
wrth ddarparwr annibynnol ynglŷn â'r ddarpariaeth o wasanaethau ganddo o dan drefniadau gyda chorff GIG Cymru; neu
ch
ar yr amod y bodlonir y gofynion a bennir yn rheoliad 18, i Fwrdd Iechyd Lleol ynghylch unrhyw fater sy'n gysylltiedig â'r ddarpariaeth o wasanaethau gan ddarparwr gofal sylfaenol o dan gontract neu drefniadau gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol.
Materion a phryderon a eithrir rhag eu hystyried o dan y trefniadau14
1
Mae'r canlynol yn faterion a phryderon sydd wedi eu heithrio o briod faes y trefniadau sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn—
a
pryder a hysbysir gan ddarparwr gofal sylfaenol, sy'n ymwneud â'r contract neu'r trefniadau y mae'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol odano neu odanynt;
b
pryder a hysbysir gan aelod o staff corff cyfrifol ynghylch unrhyw fater sy'n ymwneud â chontract cyflogaeth y person hwnnw;
c
pryder sydd neu a fu'n destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru10;
ch
pryder sy'n codi o fethiant honedig gan gorff cyfrifol i gydymffurfio â chais am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 200011;
d
achos disgyblu y mae corff cyfrifol yn ei ddwyn, neu'n bwriadu ei ddwyn, sy'n ganlyniad, neu sy'n tarddu o, ymchwiliad i bryder a hysbyswyd yn unol â threfniadau i ymdrin â phryderon a wnaed o dan y Rheoliadau hyn;
dd
pryder a hysbysir ar lafar, naill ai'n bersonol neu dros y teleffon, ac a ddatrysir er boddhad i'r person a hysbysodd y pryder, ddim hwyrach na'r diwrnod gwaith nesaf ar ôl y diwrnod y hysbyswyd y pryder;
e
pryder sydd â'r un testun â phryder a hysbyswyd yn flaenorol, ac a ddatryswyd yn unol ag is-baragraff (dd), oni fydd y corff cyfrifol o'r farn y byddai'n rhesymol ailagor ystyriaeth o'r pryder hwnnw a chynnal ymchwiliad yn unol â Rhan 5;
f
pryder yr ystyriwyd ei destun eisoes yn unol â threfniadau a wnaed o dan—
i
y Rheoliadau hyn; neu
ii
unrhyw weithdrefn gwynion berthnasol mewn cysylltiad â chwyn a wnaed cyn 1 Ebrill 2011;
ff
pryder y mae ei destun, neu y daw ei destun, yn destun achos sifil; neu
g
pryder y mae ei destun, neu y daw ei destun, yn bryder mewn perthynas â chais am driniaeth i glaf unigol.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo pryder neu fater yn bryder neu fater a bennir ym mharagraff (1), a chorff cyfrifol yn gwneud penderfyniad i'r perwyl hwnnw, rhaid i'r corff cyfrifol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r person a hysbysodd y pryder neu fater o'i benderfyniad, mewn ysgrifen, gan roi'r rheswm dros y penderfyniad.
3
Nid yw paragraff (2) yn gymwys i fater a bennir yn is-baragraff (dd) o baragraff (1).
4
Pan fo mater a bennir ym mharagraff (1) yn rhan o fater arall nas pennir felly, neu'n gysylltiedig â mater arall o'r fath, nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n rhwystro'r mater arall hwnnw rhag cael ei ystyried fel pryder a hysbyswyd yn unol â threfniadau a wnaed o dan y Rheoliadau hyn.
Terfyn amser ar gyfer hysbysu pryderon15
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid hysbysu pryder ddim hwyrach na deuddeng mis ar ôl—
a
y dyddiad y digwyddodd y mater sy'n destun y pryder; neu
b
os yw'n ddiweddarach, y dyddiad y daeth y mater sy'n destun y pryder i sylw'r person sy'n hysbysu'r pryder.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd y terfyn amser ym mharagraff (1) yn gymwys os bodlonir y corff cyfrifol—
a
bod gan y person sy'n hysbysu'r pryder resymau da dros beidio â hysbysu'r pryder o fewn y terfyn amser hwnnw; a
b
er gwaethaf yr oedi, bod modd o hyd ymchwilio i'r pryder yn effeithiol a theg.
3
Ni chaniateir hysbysu pryder ar ôl cyfnod o dair blynedd neu ragor ar ôl dyddiad y digwyddiad sy'n destun y pryder, neu, os yw'n yn ddiweddarach, cyfnod o dair blynedd neu ragor ar ôl i'r mater sy'n destun y pryder ddod i sylw'r claf.
4
Mewn perthynas â pharagraffau (1) a (2), mae cyfeiriad at y dyddiad y daeth y mater sy'n destun y pryder i sylw'r person sy'n hysbysu'r pryder, pan fo'r claf wedi dewis cael cynrychiolydd i weithredu ar ei ran yn unol â rheoliad 12(2)(ch), yn gyfeiriad at y dyddiad y daeth y mater i sylw'r claf, ac nid y dyddiad y daeth i sylw'r cynrychiolydd sy'n hysbysu'r pryder ar ran y claf.
Tynnu pryderon yn ôl16
1
Caiff y person a hysbysodd bryder dynnu'r pryder yn ôl ar unrhyw adeg, a chaiff wneud hynny—
a
mewn ysgrifen;
b
yn electronig; neu
c
ar lafar, naill ai dros y teleffon neu'n bersonol.
2
Rhaid i'r corff cyfrifol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ysgrifennu at y person a dynnodd y pryder yn ôl ar lafar i gadarnhau bod y pryder wedi ei dynnu yn ôl ar lafar.
3
Pan fo pryder wedi ei dynnu yn ôl, caiff corff cyfrifol barhau, er gwaethaf hynny, i ymchwilio yn unol â Rhan 5 i unrhyw faterion a godwyd gan bryder, os yw'r corff cyfrifol o'r farn bod angen gwneud hynny.