Ymateb i ymchwiliad o dan reoliad 23 pan benderfynir bod, neu y gall fod, atebolrwydd cymwys
26.—(1) Pan fo corff GIG Cymru, ar ôl cynnal ymchwiliad o dan reoliad 23, o'r farn bod neu y gall fod, atebolrwydd cymwys, rhaid i'r corff GIG Cymru hwnnw baratoi adroddiad interim, sydd—
(a)yn crynhoi natur a sylwedd y mater neu'r materion a hysbyswyd yn y pryder;
(b)yn disgrifio'r ymchwiliad a ymgymerwyd yn unol â rheoliad 23;
(c)yn disgrifio pam, ym marn y corff GIG Cymru, y mae neu y gall fod atebolrwydd cymwys;
(ch)yn cynnwys copi o unrhyw gofnodion meddygol perthnasol;
(d)yn esbonio bod mynediad at gyngor cyfreithiol ar gael yn ddi-dâl yn unol â darpariaethau rheoliad 32;
(dd)yn esbonio bod gwasanaethau eiriolaeth a chefnogaeth ar gael, a allai fod o gymorth;
(e)yn esbonio'r weithdrefn a ddilynir er mwyn penderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli ai peidio, a'r weithdrefn ar gyfer cynnig iawn os canfyddir bod atebolrwydd cymwys o'r fath yn bodoli;
(f)yn cadarnhau y rhoddir ar gael gopi o adroddiad yr ymchwiliad y cyfeirir ato yn rheoliad 31, pan baratoir ef, yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwnnw i'r person sy'n ceisio iawn;
(ff)yn cynnwys manylion am yr hawl i hysbysu pryder i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(g)yn cynnig cyfle i'r person sy'n ceisio iawn drafod cynnwys yr adroddiad interim gyda'r swyddog cyfrifol neu berson sy'n gweithredu ar ei ran; ac
(ng)wedi ei lofnodi gan y swyddog cyfrifol neu berson sy'n gweithredu ar ei ran.
(2) Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i gorff GIG Cymru gymryd pob cam rhesymol i anfon adroddiad interim at y person a hysbysodd y pryder o fewn cyfnod o ddeg ar hugain o ddiwrnodau gwaith sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafodd y hysbysiad o bryder.
(3) Os na all corff GIG Cymru ddarparu adroddiad interim yn unol â pharagraff (2), rhaid iddo—
(a)hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o hynny, gan esbonio'r rheswm; a
(b)anfon yr adroddiad interim cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac o fewn cyfnod o chwe mis sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafodd yr hysbysiad o bryder.
(4) Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o chwe mis, rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gellir disgwyl cael yr adroddiad interim.
(5) Rhaid darparu adroddiad yr ymchwiliad, y cyfeirir ato yn rheoliad 31, i'r person a hysbysodd y pryder neu i'w gynrychiolydd cyfreithiol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a hynny ddim hwyrach na deuddeng mis ar ôl y dyddiad y cafodd y corff GIG Cymru yr hysbysiad o bryder.
(6) Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o ddeuddeng mis, rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder neu ei gynrychiolydd cyfreithiol o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gellir disgwyl cael adroddiad yr ymchwiliad.