RHAN IIPersonau Cofrestredig

Ffitrwydd y darparwr cofrestredig10

1

Rhaid i berson beidio â rhedeg sefydliad neu asiantaeth onid yw'n berson ffit i wneud hynny.

2

Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad neu asiantaeth onid yw'r person hwnnw—

a

yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3); neu

b

yn gorff, ac—

i

y corff hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn yn y corff (sef yr unigolyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”), a'r unigolyn hwnnw'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall y corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth; a

ii

yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a bennir ym mharagraff (3).

3

Y gofynion yw—

a

bod yr unigolyn yn addas o ran ei uniondeb a'i gymeriad da i redeg y sefydliad neu'r asiantaeth neu, yn ôl fel y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth;

b

bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y sefydliad neu'r asiantaeth neu, yn ôl fel y digwydd, i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y sefydliad neu'r asiantaeth; ac

c

bod gwybodaeth neu, yn ôl fel y digwydd, ddogfennaeth lawn a boddhaol, ar gael ynglŷn â'r unigolyn mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 4 i 8 o Atodlen 2.

4

Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad neu asiantaeth—

a

os yw'r person wedi'i farnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac nad yw'r person (yn y naill achos neu'r llall) wedi'i ryddhau, ac nad yw'r gorchymyn methdalwr wedi'i ddirymu na'i ddiddymu neu fod cyfnod o foratoriwm yn gymwys i'r person hwnnw o dan orchymyn rhyddhau o ddyled; neu

b

os yw'r person wedi gwneud compównd neu drefniant gyda chredydwyr y person hwnnw ac nad ydyw wedi'i ryddhau mewn perthynas â hynny.

Penodi rheolwr11

1

Rhaid i'r darparwr cofrestredig benodi unigolyn i reoli y sefydliad neu asiantaeth—

a

os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r sefydliad neu asiantaeth; a

b

os yw'r darparwr cofrestredig—

i

yn gorff;

ii

yn berson nad yw'n ffit i reoli sefydliad neu asiantaeth; neu

iii

yn berson nad yw'r sefydliad neu asiantaeth o dan ei ofal yn llawnamser o ddydd i ddydd, neu nad yw'n bwriadu i'r sefydliad neu'r asiantaeth fod o dan ei ofal felly.

2

Os yw'r darparwr cofrestredig yn penodi person i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth, rhaid i'r darparwr cofrestredig hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol—

a

enw'r person a benodwyd felly; a

b

y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.

3

Os y darparwr cofrestredig sydd i reoli'r sefydliad neu asiantaeth rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ar unwaith o'r dyddiad y mae'r cyfryw reolaeth i ddechrau.

Ffitrwydd y rheolwr12

1

Rhaid i berson beidio â rheoli sefydliad neu asiantaeth onid yw'n berson ffit i wneud hynny.

2

Nid yw person yn ffit i reoli sefydliad neu asiantaeth—

a

onid yw'n berson addas o ran ei uniondeb a'i gymeriad da i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth;

b

o ystyried maint y sefydliad neu asiantaeth, y datganiad o ddiben a niferoedd ac anghenion y cleifion—

i

onid oes gan y person y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth; a

ii

onid yw'r person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny; ac

c

onid oes gwybodaeth neu, yn ôl fel y digwydd, ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglŷn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 4 i 8 o Atodlen 2.

3

Pan fo person yn rheoli mwy nag un sefydliad neu asiantaeth, rhaid iddo dreulio amser digonol ym mhob sefydliad neu asiantaeth i sicrhau y rheolir pob sefydliad neu asiantaeth yn effeithiol.

Y person cofrestredig – gofynion cyffredinol13

1

Rhaid i'r darparwr cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig redeg neu reoli'r sefydliad neu asiantaeth, yn ôl fel y digwydd, gyda gofal, cymhwysedd a sgil digonol, o ystyried maint y sefydliad neu'r asiantaeth, y datganiad o ddiben a niferoedd ac anghenion y cleifion.

2

Os yw'r darparwr cofrestredig—

a

yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu

b

yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,

o bryd i'w gilydd â pha bynnag hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r sgiliau angenrheidiol i redeg y sefydliad neu asiantaeth.

3

Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rheoli'r sefydliad neu asiantaeth ymgymryd, o bryd i'w gilydd, â pha bynnag hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r sgiliau angenrheidiol i reoli'r sefydliad neu'r asiantaeth.

Hysbysu ynghylch tramgwyddau14

1

Os caiff y person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol ei gollfarnu am unrhyw dramgwydd troseddol, pa un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid i'r person a gollfarnwyd hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen ar unwaith, o'r canlynol—

a

dyddiad a lleoliad y gollfarn;

b

y tramgwydd y collfarnwyd y person o'i herwydd; ac

c

y gosb a osodwyd ar y person mewn perthynas â'r tramgwydd.

2

Os cyhuddir y person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol o unrhyw dramgwydd y ceir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (Amddiffyn Plant)17 rhaid i'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru mewn ysgrifen ar unwaith, o'r tramgwydd y'i cyhuddwyd ohono, a dyddiad a lleoliad y cyhuddiad.