2011 Rhif 831 (Cy.125)
Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 19833;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19904;
“ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;
ystyr “gwasanaeth perthnasol” (“relevant service”) yw—
- a
yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989—
- i
gwasanaeth gofal cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community care service” gan adran 46 o Ddeddf 19905,
- ii
gwasanaeth o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (gwasanaethau ar gyfer gofalwyr)6, neu
- iii
gwasanaeth y caiff yr awdurdod cyfrifol7 ei ddarparu drwy arfer swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf 19898 (darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill); neu
- i
- b
yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001, gwasanaeth gofal cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community care service” gan adran 46 o Ddeddf 1990;
- a
mae i “gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano” (“chargeable service”) yr ystyr a bennir yn adran 13 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 20109;
ystyr “P” (“P”) yw person o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4, sy'n dod o fewn is-adran (2)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001 ac is-adran (5A)10 o'r adran honno neu y credir yn rhesymol gan yr awdurdod cyfrifol11 ei fod yn dod o fewn yr is-adran honno;
ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 3 neu 5, sy'n dod o fewn adran 57(2) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(2) o Ddeddf 1989;
ystyr “S” (“S”) yw'r person addas y cyfeirir ato yn rheoliad 9(1);
mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8 neu 9.
Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 – gwasanaethau gofal cymunedol a gwasanaethau i ofalwyr3
At ddibenion adran 57(1) o Ddeddf 2001, mae person yn berson o ddisgrifiad rhagnodedig os—
a
yw'n berson sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol yn alluog i reoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hunan, neu gyda pha bynnag gymorth ag y gallai fod ar gael iddo;
b
nad yw'n berson sy'n dod, neu y credir yn rhesymol gan yr awdurdod cyfrifol ei fod yn dod, o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001; ac
c
nad yw'n berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.
Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 – gwasanaethau gofal cymunedol4
At ddibenion adran 57(1A) o Ddeddf 2001 mae person yn berson o ddisgrifiad rhagnodedig os nad yw'n berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.
Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 17A(1) o Ddeddf 1989 – gwasanaethau plant5
At ddibenion adran 17A(1) o Ddeddf 1989, mae person yn person o ddisgrifiad rhagnodedig os–
a
yw'n berson sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol yn alluog i reoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hunan, neu gyda pha bynnag gymorth ag y gallai fod ar gael iddo; a
b
nad yw'n berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.
Personau a ragnodir fel cynrychiolwyr6
At ddibenion adran 57(5B) o Ddeddf 2001, rhagnodir person fel cynrychiolydd mewn perthynas â pherson arall—
a
os yw'n ddirprwy a benodwyd ar gyfer y person arall hwnnw gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 200512; neu
b
os yw'n dderbyniwr atwrneiaeth arhosol, o fewn yr ystyr a roddir i “lasting power of attorney” gan adran 9 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, a grëwyd gan y person arall hwnnw.
Pwerau a ragnodir ar gyfer lladmeryddion7
At ddibenion adran 57(5C) o Ddeddf 2001 (sy'n darparu mai ystyr “lladmerydd” (“surrogate”), mewn perthynas â pherson, yw person a restrir yn y ddarpariaeth honno ac sydd â phwerau a gyfansoddir gan, neu sy'n cynnwys, pa bynnag bwerau y ceir eu rhagnodi), y pwerau a ragnodir yw pwerau mewn perthynas â phenderfyniadau ynghylch sicrhau darpariaeth o wasanaeth gofal cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community care service” gan adran 46 o Ddeddf 1990.
Taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 19898
1
Os bodlonir yr amodau ym mharagraff (2)–
a
caiff awdurdod cyfrifol, mewn perthynas â pherson rhagnodedig, gyda chydsyniad y person hwnnw, wneud y cyfryw daliadau o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 ag a benderfynir yn unol â rheoliad 10 (“taliadau uniongyrchol”) (“direct payments”) er mwyn i'r person rhagnodedig sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol y mae'r person rhagnodedig o dan rwymedigaeth i'w gael, o ganlyniad i ofyniad a osodwyd o dan ddeddfiad a grybwyllir yn Atodlen 2;
b
caiff awdurdod cyfrifol, mewn perthynas â pherson rhagnodedig y mae amod mewn grym mewn perthynas ag ef, a osodwyd yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3)) o Ddeddf 1983, neu sy'n glaf a ryddhawyd yn amodol o dan adran 193(7) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 200313, wneud taliadau uniongyrchol, gyda chydsyniad y person rhagnodedig, er mwyn i'r person hwnnw sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol; ac
c
ym mhob achos arall, rhaid i awdurdod cyfrifol, mewn perthynas â pherson rhagnodedig, gyda chydsyniad y person rhagnodedig, wneud taliadau uniongyrchol er mwyn i'r person hwnnw sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol.
2
Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw fod yr awdurdod cyfrifol wedi ei fodloni—
a
y gellir diwallu angen y person am y gwasanaeth perthnasol drwy sicrhau darpariaeth ohono gan ddefnyddio taliad uniongyrchol; a
b
yn achos gwasanaeth perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff (a)(iii) o'r diffiniad o'r term hwnnw yn rheoliad 2, y bydd lles y plentyn y mae angen y gwasanaeth ar ei gyfer yn cael ei ddiogelu a'i hyrwyddo drwy sicrhau darpariaeth ohono gan ddefnyddio taliad uniongyrchol.
Taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 20019
1
Rhaid i'r awdurdod perthnasol gymryd y camau ym mharagraff (2) cyn y caiff fodloni ei hunan ei bod yn briodol gwneud taliad o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 i berson addas (“S”) er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i berson sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4 (“P”).
2
Y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw fod rhaid i'r awdurdod cyfrifol—
a
i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol a phriodol, ymgynghori â'r canlynol a chymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth—
i
unrhyw un a enwir gan P fel rhywun i ymgynghori ag ef ynglŷn ag a ddylid gwneud taliad i S er mwyn sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P, neu ynglŷn â materion o'r math hwnnw,
ii
unrhyw un sy'n ymwneud â gofalu am P neu sydd â diddordeb yn lles P, a
iii
unrhyw gynrychiolydd neu ladmerydd i P14;
b
i'r graddau y bo'n rhesymol ganfyddadwy, ystyried y canlynol—
i
dymuniadau a theimladau P, ar y pryd ac yn y gorffennol (ac yn benodol, unrhyw ddatganiad ysgrifenedig perthnasol a wnaed gan P pan oedd galluedd ganddo, o fewn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 200515, i gydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol),
ii
y credoau a'r gwerthoedd a fyddai'n debygol o ddylanwadu ar benderfyniad P pe bai ganddo alluedd o'r fath, a
iii
y ffactorau eraill y byddai P yn debygol o'u hystyried pe gallai wneud hynny;
c
cael tystysgrif cofnod troseddol manylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 199716—
i
mewn perthynas ag S os yw S yn unigolyn ac nad yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff (3) nac yn gyfaill i P sy'n ymwneud â darparu gofal i P, a
ii
os yw S yn gorff corfforaethol neu'n corff anghorfforedig o bersonau, mewn perthynas â'r unigolyn a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol, ar ran y corff hwnnw, am reoli taliadau uniongyrchol P o ddydd i ddydd,
a rhaid i'r cyfryw dystysgrif gynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno17).
3
Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(i) yw—
a
priod neu bartner sifil P;
b
person sy'n byw gyda P fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil P;
c
person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i P—
i
rhiant neu riant-yng-nghyfraith,
ii
mab neu ferch,
iii
mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,
iv
llysfab neu lysferch,
v
brawd neu chwaer,
vi
modryb neu ewythr, neu
vii
tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;
ch
priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c); a
d
person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.
4
Pan fo'r awdurdod cyfrifol, ar ôl cymryd y camau ym mharagraff (2), wedi ei fodloni ynglŷn â'r materion a restrir ym mharagraff (5)—
a
caiff awdurdod cyfrifol, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol18, wneud y cyfryw daliadau o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 ag a benderfynir yn unol â rheoliad 11 (“taliadau uniongyrchol”) (“direct payments”) i S er mwyn i S sicrhau ar gyfer P ddarpariaeth o wasanaeth perthnasol y mae P o dan rwymedigaeth i'w gael, o ganlyniad i ofyniad a osodwyd o dan ddeddfiad a grybwyllir yn Atodlen 2;
b
caiff awdurdod cyfrifol, mewn achos pan fo amod mewn grym mewn perthynas â P, a osodwyd yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3)) o Ddeddf 1983, neu pan fo P yn glaf a ryddhawyd yn amodol o dan adran 193(7) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003, wneud, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol, taliadau uniongyrchol i S er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P; ac
c
ym mhob achos arall, rhaid i awdurdod cyfrifol, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol, wneud taliadau uniongyrchol i S er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P.
5
Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yw—
a
y gellir diwallu angen P am y gwasanaeth perthnasol drwy sicrhau darpariaeth ohono gan ddefnyddio taliad uniongyrchol;
b
bod S—
i
wrth sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas â hwy, yn gweithredu er budd bennaf P, o fewn yr ystyr a roddir i “best interests” gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 200519, a
ii
yn ymddangos yn alluog i reoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hunan, neu gyda pha bynnag gymorth ag y gallai fod ar gael iddo, ac
c
ei bod yn briodol, yn yr holl amgylchiadau, gwneud taliad uniongyrchol i S.
Swm a thalu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 198910
1
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (8), at y diben o wneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), bydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu, gan ystyried modd P, pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i P ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o'r gwasanaeth perthnasol (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno).
3
Nid yw paragraffau (2), (5) ac (8) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd—
a
yn dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 3; a
b
sydd, neu a fydd, yn sicrhau darpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano,
ond mae paragraff (4) yn cael effaith mewn perthynas â pherson o'r fath.
4
At ddibenion gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i'r person rhagnodedig ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno) yn unol â Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011.
5
Pan fo'r gwasanaeth perthnasol yn un a ddarperid, oni bai am y Rheoliadau hyn, o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (ôl-ofal)—
a
rhaid gwneud y taliad yn ôl y gyfradd a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a
b
nid yw is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.
6
Pan wneir taliad uniongyrchol i berson sy'n dod o fewn adran 17A(5) o Ddeddf 1989—
a
rhaid gwneud y taliad yn ôl y gyfradd a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a
b
nid yw is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.
7
Caniateir gwneud y taliad ym mharagraff (1) i–
a
y person rhagnodedig; neu
b
person a enwebwyd gan y person rhagnodedig i gael y taliad ar ei ran.
8
At y diben o wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 er mwyn i'r person rhagnodedig sicrhau darpariaeth o lety preswyl, caiff yr awdurdod cyfrifol wneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) heb ystyried modd y person rhagnodedig.
Swm a thalu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 200111
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid gwneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 fel taliad gros oni fydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu y bydd yn cael ei wneud fel taliad net.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (6), at y diben o wneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), bydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu, gan ystyried modd y person rhagnodedig, pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i'r person rhagnodedig ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o'r gwasanaeth perthnasol (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno).
3
Nid yw paragraffau (2), (5) a (6) yn gymwys i P os yw P yn berson—
a
sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4; a
b
os oes, neu os bydd, darpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano yn cael ei sicrhau ar ei gyfer,
ond mae paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas â pherson o'r fath.
4
At ddibenion gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i P ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno) yn unol â Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011.
5
Pan fo'r gwasanaeth perthnasol yn un a ddarperid, oni bai am y Rheoliadau hyn, o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (ôl-ofal)—
a
rhaid gwneud y taliad yn ôl y gyfradd a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a
b
nid yw is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.
6
At y diben o wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 er mwyn i'r person rhagnodedig sicrhau darpariaeth o lety preswyl, caiff yr awdurdod cyfrifol wneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) heb ystyried modd P.
Amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 198912
1
Mae taliad uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 yn darostyngedig i'r amod na chaniateir sicrhau'r gwasanaeth, y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef, gan berson a grybwyllir ym mharagraff (2) oni fodlonir yr awdurdod cyfrifol bod sicrhau'r gwasanaeth gan berson o'r fath yn angenrheidiol—
a
yn achos gwasanaeth perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff (a)(i) neu (ii) o'r diffiniad o'r term hwnnw yn rheoliad 2, er mwyn diwallu'n foddhaol angen y person rhagnodedig am y gwasanaeth hwnnw; neu
b
yn achos gwasanaeth perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff (a)(iii) o'r diffiniad o'r term hwnnw yn rheoliad 2, er mwyn hyrwyddo lles y plentyn y mae angen y gwasanaeth mewn perthynas ag ef.
2
Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
a
priod neu bartner sifil y person rhagnodedig;
b
person sy'n byw gyda'r person rhagnodedig fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil iddo;
c
person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i'r person rhagnodedig–
i
rhiant neu riant-yng-nghyfraith,
ii
mab neu ferch,
iii
mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,
iv
llysfab neu lysferch,
v
brawd neu chwaer,
vi
modryb neu ewythr, neu
vii
tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;
ch
priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person rhagnodedig; a
d
person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.
3
Nid yw paragraffau (2)(c)(ii) a (iii) yn gymwys yn achos person a grybwyllir yn adran17A(2)(c) o Ddeddf 1989.
4
Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau eraill (os oes rhai) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cyfrifol.
5
Yn benodol, caiff yr y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) wneud yn ofynnol bod y talai—
a
yn peidio â sicrhau'r gwasanaeth perthnasol gan berson penodol; a
b
yn darparu pa bynnag wybodaeth i'r awdurdod cyfrifol a ystyrir yn angenrheidiol gan yr awdurdod, mewn perthynas â'r taliad uniongyrchol.
Amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 200113
1
Mae taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 yn ddarostyngedig i'r amodau ym mharagraff (2).
2
Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff(1) yw—
a
na chaniateir sicrhau'r gwasanaeth, y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef, gan berson a grybwyllir ym mharagraff (3) oni fodlonir yr awdurdod cyfrifol bod sicrhau'r gwasanaeth gan berson o'r fath yn angenrheidiol er mwyn diwallu'n foddhaol angen P am y gwasanaeth hwnnw; a
b
rhaid i S —
i
weithredu er budd gorau P, o fewn yr ystyr a roddir i “best interests” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005, wrth sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef,
ii
darparu pa bynnag wybodaeth i'r awdurdod cyfrifol a ystyrir yn angenrheidiol gan yr awdurdod, mewn perthynas â'r taliad uniongyrchol,
iii
os yw S yn unigolyn a grybwyllir yn rheoliad 9(2)(c)(i) neu'n gorff corfforaethol neu gorff anghorfforedig o bersonau, cael tystysgrif cofnod troseddol manylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997, ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno), neu wirio bod tystysgrif foddhaol o dan y Ddeddf honno wedi ei chael, mewn perthynas ag unrhyw berson y sicrheir ganddo wasanaeth y gwnaed taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef,
iv
hysbysu'r awdurdod cyfrifol os bydd S yn credu, yn rhesymol, nad yw P bellach yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001, a
v
defnyddio'r taliad uniongyrchol i sicrhau darpariaeth i P o'r gwasanaethau y gwnaed y taliad mewn perthynas â hwy.
3
Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
a
priod neu bartner sifil P;
b
person sy'n byw gyda P fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil P;
c
person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i P–
i
rhiant neu riant-yng-nghyfraith,
ii
mab neu ferch,
iii
mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,
iv
llysfab neu lysferch,
v
brawd neu chwaer,
vi
modryb neu ewythr, neu
vii
tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;
ch
priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c), sy'n byw ar yr un aelwyd â P; a
d
person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.
4
Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau eraill (os oes rhai) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cyfrifol.
Y cyfnodau hwyaf o lety preswyl y caniateir eu sicrhau gan ddefnyddio taliad uniongyrchol14
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol, ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 3 neu 4, ar gyfer darparu llety preswyl i'r person hwnnw am gyfnod hwy na 4 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
2
Wrth gyfrifo'r cyfnod o 4 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1), o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis—
a
ni fydd unrhyw gyfnod cyntaf o lety preswyl sy'n llai na 4 wythnos (cyfnod A) yn cael ei adio at gyfnod olynol (cyfnod B) ac eithrio pan fo'r cyfnod B yn cychwyn o fewn 4 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod A; a
b
bydd unrhyw gyfnod mewn llety preswyl sy'n dilyn y cyfnod B yn cael ei gynnwys yn y cyfrifiad.
3
Ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 5 ar gyfer darparu llety preswyl—
a
am unrhyw gyfnod sengl sy'n hwy na 4 wythnos; a
b
am unrhyw gyfnod o fwy na 120 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
4
Ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol ar gyfer darparu llety preswyl–
a
pan fo person yn dod o fewn y disgrifiad o berson a ragnodir gan reoliad 3 neu 4; a
b
pan fo'r person hwnnw'n cael, neu'n mynd i gael, taliad uniongyrchol, neu pan fo taliad uniongyrchol yn cael ei wneud neu'n mynd i gael ei wneud mewn perthynas â'r person hwnnw, at y diben o sicrhau darpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano.
Swyddogaethau dadleoledig a rhwymedigaethau'r awdurdod cyfrifol15
1
Ac eithrio fel a ddarperir gan baragraff (2), nid yw'r ffaith bod awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol yn effeithio ar ei swyddogaethau mewn perthynas â darparu, o dan y deddfiad perthnasol, y gwasanaeth y mae'r taliad yn ymwneud ag ef.
2
Pan fo awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol, ni fydd o dan unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â darparu, o dan y deddfiad perthnasol, y gwasanaeth y mae'r taliad yn ymwneud ag ef, cyn belled ag y bo'n fodlon y diwellir yr angen sy'n ysgogi'r ddarpariaeth o wasanaeth—
a
yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989, gan drefniadau'r talai ei hunan; neu
b
yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001, gan y trefniadau a wneir gan S.
3
Ym mharagraffau (1) a (2), mae'r cyfeiriadau at y deddfiad perthnasol, mewn perthynas â'r ddarpariaeth o wasanaeth, yn gyfeiriadau at y deddfiad y byddid yn darparu'r gwasanaetho oddi tano, oni bai am y Rheoliadau hyn.
Ad-dalu taliadau uniongyrchol16
1
Caiff awdurdod cyfrifol a wnaeth daliad uniongyrchol wneud yn ofynnol bod y taliad neu ran o'r taliad yn cael ei ad-dalu, os bodlonir yr awdurdod—
a
nad yw'r taliad uniongyrchol neu ran o'r taliad wedi ei ddefnyddio i sicrhau darpariaeth o'r gwasanaeth y mae'r taliad yn ymwneud ag ef; neu
b
na chydymffurfiwyd ag amod a wnaed o dan reoliad 12 neu 13.
2
Gellir adennill unrhyw swm sy'n agored i'w ad-dalu yn rhinwedd paragraff (1) fel dyled sy'n ddyledus i'r awdurdod cyfrifol.
Adolygu17
1
Rhaid i awdurdod cyfrifol adolygu'r modd y gwneir taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001—
a
o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn gyntaf y gwneir y taliadau uniongyrchol;
b
fesul cyfnod priodol o ddim mwy na deuddeng mis wedi hynny;
c
pan fo'r awdurdod cyfrifol o'r farn, yn rhesymol, ar sail gwybodaeth a roddir gan S neu gan unrhyw berson arall, nad y P bellach yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001; ac
ch
pan hysbysir ef gan unrhyw berson ynghylch pryderon—
i
nad yw'r taliad uniongyrchol hwyrach wedi ei ddefnyddio i sicrhau'r ddarpariaeth i P o'r gwasanaethau y gwnaed y taliad ar eu cyfer, neu
ii
a allai olygu na fyddai'r awdurdod wedi ei fodloni mwyach ynglŷn â'r materion a restrir yn rheoliad 9(5)(b) neu (c).
2
Rhaid i awdurdod cyfrifol adolygu'r arfer o wneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 os yw'r awdurdod cyfrifol o'r farn, yn rhesymol, ar sail gwybodaeth a roddir gan unrhyw berson, nad yw P yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf honno.
Terfynu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 198918
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989—
a
os yw'r person yn peidio â bod yn berson rhagnodedig; neu
b
os oes amod a grybwyllir yn rheoliad 8(2) yn peidio â chael ei fodloni.
2
Caiff awdurdod cyfrifol beidio â gwneud y cyfan neu ran o daliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 i berson rhagnodedig—
a
os na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodwyd o dan reoliad 12 neu y cyfeirir ato yn adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001; neu
b
os yw'r awdurdod cyfrifol o'r farn ei bod yn briodol, yn yr holl amgylchiadau, peidio â gwneud y taliadau uniongyrchol.
3
Caiff awdurdod cyfrifol barhau i wneud taliadau uniongyrchol i berson sy'n peidio â bodloni rheoliad 3(b) ac a fyddai fel arall yn berson rhagnodedig–
a
os bodlonir yr awdurdod yn rhesymol mai dros dro y bydd y person heb alluedd i gydsynio;
b
os oes person arall, sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol yn alluog i reoli taliad uniongyrchol, yn barod i dderbyn a rheoli taliadau o'r fath ar ran y person cyntaf yn ystod cyfnod ei analluedd; ac
c
os yw'r person y trefnwyd gydag ef i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol yn cydsynio i dderbyn tâl am y gwasanaeth gan y person a grybwyllir yn is-baragraff (b).
Terfynu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 200119
1
Rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau i S o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001–
a
os yw'r person y gwneir y taliadau mewn perthynas ag ef (“y buddiolwr”) (“the beneficiary”)—
i
yn peidio â dod o fewn y disgrifiad o bersonau a ragnodir gan reoliad 4, neu
ii
yn peidio â dod o fewn adran 57(2)(a) o Ddeddf 2001; neu
b
os nad yw'r awdurdod cyfrifol wedi ei fodloni mwyach ynglŷn ag unrhyw un o'r materion a restrir yn rheoliad 9(5).
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i S o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 os nad yw'r buddiolwr mwyach yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001 neu os yw'r awdurdod cyfrifol yn credu, yn rhesymol, nad yw mwyach yn dod o fewn yr adran honno.
3
Caiff awdurdod cyfrifol beidio â gwneud y cyfan neu ran o'r taliadau uniongyrchol i S os peidir â chydymffurfio ag unrhyw amod a osodir o dan reoliad 13 neu y cyfeirir ato yn adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001.
4
Caiff awdurdod cyfrifol barhau i wneud taliadau uniongyrchol i S o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 hyd yn oed pan fo'r buddiolwr yn peidio â dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001—
a
os yw'r awdurdod yn rhesymol fodlon mai dros dro y bydd galluedd gan y buddiolwr i gydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol; a
b
os gwneir y taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i'r amod ychwanegol y bydd S yn caniatáu i'r buddiolwr reoli'r taliadau uniongyrchol ei hunan, yn ystod unrhyw gyfnod pan fodlonir yr awdurdod cyfrifol y bydd galluedd gan y buddiolwr i gydsynio â gwneud y taliadau uniongyrchol ac y bydd yn alluog i reoli taliadau o'r fath.
5
Pan fo paragraff (2) yn gymwys ac awdurdod cyfrifol o'r farn, yn rhesymol, nad galluedd dros dro i gydsynio sydd gan y buddiolwr, rhaid i'r awdurdod, cyn terfynu taliadau o dan adran 57(1A), ymgynghori â'r buddiolwr ynglŷn ag a yw'r buddiolwr yn cydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001.
6
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), ni chaniateir i daliadau a wneir o dan adran 57(1A) gael eu terfynu o dan baragraff (2) cyn bo taliadau uniongyrchol o dan 57(1) o Ddeddf 2001 yn cael eu gwneud os yw'r buddiolwr, yn unol â pharagraff (5), yn cydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001, ac—
a
os yw'r yn berson rhagnodedig;
b
os yw'n dod o fewn adran 57(2)(a) o Ddeddf 2001; ac
c
os bodlonir yr amod yn rheoliad 8(2)(a) is met.
7
Nid oes dim ym mharagraff (6) sy'n effeithio ar ddisgresiwn yr awdurdod cyfrifol i beidio â gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001, o dan reoliad 8(1)(a) neu (b).
Dirymu20
Dirymir yr offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 3 i'r rheoliadau hyn, i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno.
ATODLEN 1PERSONAU NA CHEIR GWNEUD TALIADAU UNIONGYRCHOL IDDYNT
Mae'r Atodlen hon yn gymwys i berson os yw'r person hwnnw—
a
yn destun gofyniad adsefydlu cyffuriau o fewn ystyr “drug rehabilitation requirement”, fel y'i diffinnir gan adran 209 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 200322, a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community order” gan adran 177 o'r Ddeddf honno, neu gan ddedfryd gohiriedig o garchar o fewn yr ystyr a roddir i “suspended sentence of imprisonment” yn adran 189 o'r Ddeddf honno;
b
yn destun gofyniad triniaeth alcohol o fewn yr ystyr a roddir i “alcohol treatment requirement” fel y'i diffinnir gan adran 212 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn ystyr adran 177 o'r Ddeddf honno neu gan ddedfryd gohiriedig o garchar o fewn ystyr adran 189 o'r Ddeddf honno;
c
wedi ei ryddhau ar drwydded o dan Ran 2 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 199123, Pennod 6 o Ran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 neu Bennod 2 o Ddeddf (Dedfrydau) Troseddau 199724 yn ddarostyngedig i amod trwydded ansafonol sy'n gwneud yn ofynnol bod y tramgwyddwr yn ymgymryd â gwaith ymddygiad troseddol ynglŷn ag ymddygiad sy'n gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol;
ch
o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gorchymyn adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community rehabilitation order” gan adran 41 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 200025 neu orchymyn cosbi ac adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community punishment and rehabilitation order” gan adran 51 o'r Ddeddf honno;
d
yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau a osodwyd o dan adran 52 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 200026;
dd
naill ai —
- i
o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad mewn gorchymyn prawf o fewn yr ystyr a roddir i “probation order” gan adrannau 228 i 230 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 199527;
- ii
yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau o fewn yr ystyr a roddir i “drug treatment and testing order” gan adran 234B o'r Ddeddf honno; neu
- iii
yn destun gorchymyn talu'n ôl i'r gymuned yn yr ystyr a roddir i “community payback order” gan adran 227A o'r Ddeddf honno sy'n gosod gofynion o ran triniaeth mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol; neu
e
ATODLEN 2DEDDFIADAU Y GELLIR GOSOD RHWYMEDIGAETH ODANYNT I DDERBYN GWSANAETHAU PERTHNASOL, Y CANIATEIR GWNEUD TALIADAU UNIONGYRCHOL MEWN PERTHYNAS Å HWY
Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 8(1)(a) a 9(4)(a) yw—
a
Rhan 1 o Atodlen 1A i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Gorffwylltra) 196430;
b
adran 8, 17 neu 17B o Ddeddf 1983 neu adran 40(2) a ddarllenir ar y cyd ag adran 8 o'r Ddeddf honno31;
c
adran 57A o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 199532 neu Atodlen 4 i'r Ddeddf honno;
ch
adran 41, 53, 127, 179, 221 neu 224 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (yr Alban) 2003 neu adran 66 a ddarllenir ar y cyd ag adran 64 neu 65 o'r Ddeddf honno33;
d
adran 177 neu 189 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 200334 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sy'n destun gofyniad triniaeth iechyd meddwl o fewn yr ystyr a roddir i “mental health treatment requirement” gan adran 207 o'r Ddeddf honno;
dd
adran 41 neu 51 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sydd o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol35;
e
adrannau 228 i 230 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sydd o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol36;
f
adran 22 neu 26 o Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sy'n ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol37;
ff
adran 12 Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (Yr Alban) 199338;
g
adran 37(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 i'r graddau y mae'n ymwneud â pherson sy'n ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol39.
ATODLEN 3DIRYMIADAU
Offeryn Statudol | Rhif yr Offeryn Statudol | Maint y dirymiad |
---|---|---|
Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004 | Yr holl Reoliadau | |
Gorchymyn Deddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003 (Darpariaethau Canlyniadol) 2005 | Paragraff 27 o Atodlen 2 | |
Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005 | Paragraff 28 o'r Atodlen | |
Gorchymyn Deddf Iechyd Meddwl 2007 (Diwygiadau Canlyniadol) 2008 | Erthygl 19 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)