Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 831 (Cy.125)

GWASANETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011

Gwnaed

16 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Mawrth2011

Yn dod i rym

11 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 57(1), (1A) (3), (5B), (5C), (6) , (7) a (7B) a 64(4A), (6) ac (8) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(1) ac adrannau 17A(1), (3) a (4) a 104(4) a 104A o Ddeddf Plant 1989(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 11 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983(3);

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;

  • ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(4);

  • “ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;

  • ystyr “gwasanaeth perthnasol” (“relevant service”) yw—

    (a)

    yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989

    (i)

    gwasanaeth gofal cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community care service” gan adran 46 o Ddeddf 1990(5),

    (ii)

    gwasanaeth o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (gwasanaethau ar gyfer gofalwyr)(6), neu

    (iii)

    gwasanaeth y caiff yr awdurdod cyfrifol(7) ei ddarparu drwy arfer swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf 1989(8) (darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill); neu

    (b)

    yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001, gwasanaeth gofal cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community care service” gan adran 46 o Ddeddf 1990;

  • mae i “gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano” (“chargeable service”) yr ystyr a bennir yn adran 13 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010(9);

  • ystyr “P” (“P”) yw person o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4, sy'n dod o fewn is-adran (2)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001 ac is-adran (5A)(10) o'r adran honno neu y credir yn rhesymol gan yr awdurdod cyfrifol(11) ei fod yn dod o fewn yr is-adran honno;

  • ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 3 neu 5, sy'n dod o fewn adran 57(2) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(2) o Ddeddf 1989;

  • ystyr “S” (“S”) yw'r person addas y cyfeirir ato yn rheoliad 9(1);

  • mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8 neu 9.

Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 – gwasanaethau gofal cymunedol a gwasanaethau i ofalwyr

3.  At ddibenion adran 57(1) o Ddeddf 2001, mae person yn berson o ddisgrifiad rhagnodedig os—

(a)yw'n berson sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol yn alluog i reoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hunan, neu gyda pha bynnag gymorth ag y gallai fod ar gael iddo;

(b)nad yw'n berson sy'n dod, neu y credir yn rhesymol gan yr awdurdod cyfrifol ei fod yn dod, o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001; ac

(c)nad yw'n berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.

Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 – gwasanaethau gofal cymunedol

4.  At ddibenion adran 57(1A) o Ddeddf 2001 mae person yn berson o ddisgrifiad rhagnodedig os nad yw'n berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.

Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 17A(1) o Ddeddf 1989 – gwasanaethau plant

5.  At ddibenion adran 17A(1) o Ddeddf 1989, mae person yn person o ddisgrifiad rhagnodedig os–

(a)yw'n berson sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol yn alluog i reoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hunan, neu gyda pha bynnag gymorth ag y gallai fod ar gael iddo; a

(b)nad yw'n berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.

Personau a ragnodir fel cynrychiolwyr

6.  At ddibenion adran 57(5B) o Ddeddf 2001, rhagnodir person fel cynrychiolydd mewn perthynas â pherson arall—

(a)os yw'n ddirprwy a benodwyd ar gyfer y person arall hwnnw gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(12); neu

(b)os yw'n dderbyniwr atwrneiaeth arhosol, o fewn yr ystyr a roddir i “lasting power of attorney” gan adran 9 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, a grëwyd gan y person arall hwnnw.

Pwerau a ragnodir ar gyfer lladmeryddion

7.  At ddibenion adran 57(5C) o Ddeddf 2001 (sy'n darparu mai ystyr “lladmerydd” (“surrogate”), mewn perthynas â pherson, yw person a restrir yn y ddarpariaeth honno ac sydd â phwerau a gyfansoddir gan, neu sy'n cynnwys, pa bynnag bwerau y ceir eu rhagnodi), y pwerau a ragnodir yw pwerau mewn perthynas â phenderfyniadau ynghylch sicrhau darpariaeth o wasanaeth gofal cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community care service” gan adran 46 o Ddeddf 1990.

Taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989

8.—(1Os bodlonir yr amodau ym mharagraff (2)–

(a)caiff awdurdod cyfrifol, mewn perthynas â pherson rhagnodedig, gyda chydsyniad y person hwnnw, wneud y cyfryw daliadau o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 ag a benderfynir yn unol â rheoliad 10 (“taliadau uniongyrchol”) (“direct payments”) er mwyn i'r person rhagnodedig sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol y mae'r person rhagnodedig o dan rwymedigaeth i'w gael, o ganlyniad i ofyniad a osodwyd o dan ddeddfiad a grybwyllir yn Atodlen 2;

(b)caiff awdurdod cyfrifol, mewn perthynas â pherson rhagnodedig y mae amod mewn grym mewn perthynas ag ef, a osodwyd yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3)) o Ddeddf 1983, neu sy'n glaf a ryddhawyd yn amodol o dan adran 193(7) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003(13), wneud taliadau uniongyrchol, gyda chydsyniad y person rhagnodedig, er mwyn i'r person hwnnw sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol; ac

(c)ym mhob achos arall, rhaid i awdurdod cyfrifol, mewn perthynas â pherson rhagnodedig, gyda chydsyniad y person rhagnodedig, wneud taliadau uniongyrchol er mwyn i'r person hwnnw sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw fod yr awdurdod cyfrifol wedi ei fodloni—

(a)y gellir diwallu angen y person am y gwasanaeth perthnasol drwy sicrhau darpariaeth ohono gan ddefnyddio taliad uniongyrchol; a

(b)yn achos gwasanaeth perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff (a)(iii) o'r diffiniad o'r term hwnnw yn rheoliad 2, y bydd lles y plentyn y mae angen y gwasanaeth ar ei gyfer yn cael ei ddiogelu a'i hyrwyddo drwy sicrhau darpariaeth ohono gan ddefnyddio taliad uniongyrchol.

Taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001

9.—(1Rhaid i'r awdurdod perthnasol gymryd y camau ym mharagraff (2) cyn y caiff fodloni ei hunan ei bod yn briodol gwneud taliad o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 i berson addas (“S”) er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i berson sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4 (“P”).

(2Y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw fod rhaid i'r awdurdod cyfrifol—

(a)i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol a phriodol, ymgynghori â'r canlynol a chymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth—

(i)unrhyw un a enwir gan P fel rhywun i ymgynghori ag ef ynglŷn ag a ddylid gwneud taliad i S er mwyn sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P, neu ynglŷn â materion o'r math hwnnw,

(ii)unrhyw un sy'n ymwneud â gofalu am P neu sydd â diddordeb yn lles P, a

(iii)unrhyw gynrychiolydd neu ladmerydd i P(14);

(b)i'r graddau y bo'n rhesymol ganfyddadwy, ystyried y canlynol—

(i)dymuniadau a theimladau P, ar y pryd ac yn y gorffennol (ac yn benodol, unrhyw ddatganiad ysgrifenedig perthnasol a wnaed gan P pan oedd galluedd ganddo, o fewn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005(15), i gydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol),

(ii)y credoau a'r gwerthoedd a fyddai'n debygol o ddylanwadu ar benderfyniad P pe bai ganddo alluedd o'r fath, a

(iii)y ffactorau eraill y byddai P yn debygol o'u hystyried pe gallai wneud hynny;

(c)cael tystysgrif cofnod troseddol manylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(16)

(i)mewn perthynas ag S os yw S yn unigolyn ac nad yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff (3) nac yn gyfaill i P sy'n ymwneud â darparu gofal i P, a

(ii)os yw S yn gorff corfforaethol neu'n corff anghorfforedig o bersonau, mewn perthynas â'r unigolyn a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol, ar ran y corff hwnnw, am reoli taliadau uniongyrchol P o ddydd i ddydd,

a rhaid i'r cyfryw dystysgrif gynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno(17)).

(3Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(i) yw—

(a)priod neu bartner sifil P;

(b)person sy'n byw gyda P fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil P;

(c)person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i P—

(i)rhiant neu riant-yng-nghyfraith,

(ii)mab neu ferch,

(iii)mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,

(iv)llysfab neu lysferch,

(v)brawd neu chwaer,

(vi)modryb neu ewythr, neu

(vii)tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;

(ch)priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c); a

(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.

(4Pan fo'r awdurdod cyfrifol, ar ôl cymryd y camau ym mharagraff (2), wedi ei fodloni ynglŷn â'r materion a restrir ym mharagraff (5)—

(a)caiff awdurdod cyfrifol, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol(18), wneud y cyfryw daliadau o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 ag a benderfynir yn unol â rheoliad 11 (“taliadau uniongyrchol”) (“direct payments”) i S er mwyn i S sicrhau ar gyfer P ddarpariaeth o wasanaeth perthnasol y mae P o dan rwymedigaeth i'w gael, o ganlyniad i ofyniad a osodwyd o dan ddeddfiad a grybwyllir yn Atodlen 2;

(b)caiff awdurdod cyfrifol, mewn achos pan fo amod mewn grym mewn perthynas â P, a osodwyd yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3)) o Ddeddf 1983, neu pan fo P yn glaf a ryddhawyd yn amodol o dan adran 193(7) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003, wneud, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol, taliadau uniongyrchol i S er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P; ac

(c)ym mhob achos arall, rhaid i awdurdod cyfrifol, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol, wneud taliadau uniongyrchol i S er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P.

(5Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yw—

(a)y gellir diwallu angen P am y gwasanaeth perthnasol drwy sicrhau darpariaeth ohono gan ddefnyddio taliad uniongyrchol;

(b)bod S—

(i)wrth sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas â hwy, yn gweithredu er budd bennaf P, o fewn yr ystyr a roddir i “best interests” gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(19), a

(ii)yn ymddangos yn alluog i reoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hunan, neu gyda pha bynnag gymorth ag y gallai fod ar gael iddo, ac

(c)ei bod yn briodol, yn yr holl amgylchiadau, gwneud taliad uniongyrchol i S.

Swm a thalu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), gwneir taliad uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 fel taliad gros(20) oni fydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu y bydd yn cael ei wneud fel taliad net(21).

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (8), at y diben o wneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), bydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu, gan ystyried modd P, pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i P ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o'r gwasanaeth perthnasol (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno).

(3Nid yw paragraffau (2), (5) ac (8) yn gymwys i berson rhagnodedig sydd—

(a)yn dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 3; a

(b)sydd, neu a fydd, yn sicrhau darpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano,

ond mae paragraff (4) yn cael effaith mewn perthynas â pherson o'r fath.

(4At ddibenion gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i'r person rhagnodedig ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno) yn unol â Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011.

(5Pan fo'r gwasanaeth perthnasol yn un a ddarperid, oni bai am y Rheoliadau hyn, o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (ôl-ofal)—

(a)rhaid gwneud y taliad yn ôl y gyfradd a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a

(b)nid yw is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.

(6Pan wneir taliad uniongyrchol i berson sy'n dod o fewn adran 17A(5) o Ddeddf 1989—

(a)rhaid gwneud y taliad yn ôl y gyfradd a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a

(b)nid yw is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.

(7Caniateir gwneud y taliad ym mharagraff (1) i–

(a)y person rhagnodedig; neu

(b)person a enwebwyd gan y person rhagnodedig i gael y taliad ar ei ran.

(8At y diben o wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 er mwyn i'r person rhagnodedig sicrhau darpariaeth o lety preswyl, caiff yr awdurdod cyfrifol wneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) heb ystyried modd y person rhagnodedig.

Swm a thalu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid gwneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 fel taliad gros oni fydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu y bydd yn cael ei wneud fel taliad net.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (6), at y diben o wneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), bydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu, gan ystyried modd y person rhagnodedig, pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i'r person rhagnodedig ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o'r gwasanaeth perthnasol (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno).

(3Nid yw paragraffau (2), (5) a (6) yn gymwys i P os yw P yn berson—

(a)sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4; a

(b)os oes, neu os bydd, darpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano yn cael ei sicrhau ar ei gyfer,

ond mae paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas â pherson o'r fath.

(4At ddibenion gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu pa swm neu symiau (os oes rhai) y mae'n rhesymol ymarferol i P ei dalu, neu eu talu, tuag at sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano (pa un ai ar ffurf ad-daliad fel a grybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu ar ffurf cyfraniad fel a grybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno) yn unol â Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011.

(5Pan fo'r gwasanaeth perthnasol yn un a ddarperid, oni bai am y Rheoliadau hyn, o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (ôl-ofal)—

(a)rhaid gwneud y taliad yn ôl y gyfradd a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a

(b)nid yw is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.

(6At y diben o wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 er mwyn i'r person rhagnodedig sicrhau darpariaeth o lety preswyl, caiff yr awdurdod cyfrifol wneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) heb ystyried modd P.

Amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989

12.—(1Mae taliad uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 yn darostyngedig i'r amod na chaniateir sicrhau'r gwasanaeth, y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef, gan berson a grybwyllir ym mharagraff (2) oni fodlonir yr awdurdod cyfrifol bod sicrhau'r gwasanaeth gan berson o'r fath yn angenrheidiol—

(a)yn achos gwasanaeth perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff (a)(i) neu (ii) o'r diffiniad o'r term hwnnw yn rheoliad 2, er mwyn diwallu'n foddhaol angen y person rhagnodedig am y gwasanaeth hwnnw; neu

(b)yn achos gwasanaeth perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff (a)(iii) o'r diffiniad o'r term hwnnw yn rheoliad 2, er mwyn hyrwyddo lles y plentyn y mae angen y gwasanaeth mewn perthynas ag ef.

(2Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)priod neu bartner sifil y person rhagnodedig;

(b)person sy'n byw gyda'r person rhagnodedig fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil iddo;

(c)person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i'r person rhagnodedig–

(i)rhiant neu riant-yng-nghyfraith,

(ii)mab neu ferch,

(iii)mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,

(iv)llysfab neu lysferch,

(v)brawd neu chwaer,

(vi)modryb neu ewythr, neu

(vii)tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;

(ch)priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person rhagnodedig; a

(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.

(3Nid yw paragraffau (2)(c)(ii) a (iii) yn gymwys yn achos person a grybwyllir yn adran17A(2)(c) o Ddeddf 1989.

(4Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau eraill (os oes rhai) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cyfrifol.

(5Yn benodol, caiff yr y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) wneud yn ofynnol bod y talai—

(a)yn peidio â sicrhau'r gwasanaeth perthnasol gan berson penodol; a

(b)yn darparu pa bynnag wybodaeth i'r awdurdod cyfrifol a ystyrir yn angenrheidiol gan yr awdurdod, mewn perthynas â'r taliad uniongyrchol.

Amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001

13.—(1Mae taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 yn ddarostyngedig i'r amodau ym mharagraff (2).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff(1) yw—

(a)na chaniateir sicrhau'r gwasanaeth, y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef, gan berson a grybwyllir ym mharagraff (3) oni fodlonir yr awdurdod cyfrifol bod sicrhau'r gwasanaeth gan berson o'r fath yn angenrheidiol er mwyn diwallu'n foddhaol angen P am y gwasanaeth hwnnw; a

(b)rhaid i S —

(i)weithredu er budd gorau P, o fewn yr ystyr a roddir i “best interests” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005, wrth sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef,

(ii)darparu pa bynnag wybodaeth i'r awdurdod cyfrifol a ystyrir yn angenrheidiol gan yr awdurdod, mewn perthynas â'r taliad uniongyrchol,

(iii)os yw S yn unigolyn a grybwyllir yn rheoliad 9(2)(c)(i) neu'n gorff corfforaethol neu gorff anghorfforedig o bersonau, cael tystysgrif cofnod troseddol manylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997, ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno), neu wirio bod tystysgrif foddhaol o dan y Ddeddf honno wedi ei chael, mewn perthynas ag unrhyw berson y sicrheir ganddo wasanaeth y gwnaed taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef,

(iv)hysbysu'r awdurdod cyfrifol os bydd S yn credu, yn rhesymol, nad yw P bellach yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001, a

(v)defnyddio'r taliad uniongyrchol i sicrhau darpariaeth i P o'r gwasanaethau y gwnaed y taliad mewn perthynas â hwy.

(3Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)priod neu bartner sifil P;

(b)person sy'n byw gyda P fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil P;

(c)person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i P–

(i)rhiant neu riant-yng-nghyfraith,

(ii)mab neu ferch,

(iii)mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,

(iv)llysfab neu lysferch,

(v)brawd neu chwaer,

(vi)modryb neu ewythr, neu

(vii)tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;

(ch)priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c), sy'n byw ar yr un aelwyd â P; a

(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.

(4Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau eraill (os oes rhai) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cyfrifol.

Y cyfnodau hwyaf o lety preswyl y caniateir eu sicrhau gan ddefnyddio taliad uniongyrchol

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol, ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 3 neu 4, ar gyfer darparu llety preswyl i'r person hwnnw am gyfnod hwy na 4 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

(2Wrth gyfrifo'r cyfnod o 4 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1), o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis—

(a)ni fydd unrhyw gyfnod cyntaf o lety preswyl sy'n llai na 4 wythnos (cyfnod A) yn cael ei adio at gyfnod olynol (cyfnod B) ac eithrio pan fo'r cyfnod B yn cychwyn o fewn 4 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod A; a

(b)bydd unrhyw gyfnod mewn llety preswyl sy'n dilyn y cyfnod B yn cael ei gynnwys yn y cyfrifiad.

(3Ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 5 ar gyfer darparu llety preswyl—

(a)am unrhyw gyfnod sengl sy'n hwy na 4 wythnos; a

(b)am unrhyw gyfnod o fwy na 120 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

(4Ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol ar gyfer darparu llety preswyl–

(a)pan fo person yn dod o fewn y disgrifiad o berson a ragnodir gan reoliad 3 neu 4; a

(b)pan fo'r person hwnnw'n cael, neu'n mynd i gael, taliad uniongyrchol, neu pan fo taliad uniongyrchol yn cael ei wneud neu'n mynd i gael ei wneud mewn perthynas â'r person hwnnw, at y diben o sicrhau darpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano.

Swyddogaethau dadleoledig a rhwymedigaethau'r awdurdod cyfrifol

15.—(1Ac eithrio fel a ddarperir gan baragraff (2), nid yw'r ffaith bod awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol yn effeithio ar ei swyddogaethau mewn perthynas â darparu, o dan y deddfiad perthnasol, y gwasanaeth y mae'r taliad yn ymwneud ag ef.

(2Pan fo awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol, ni fydd o dan unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â darparu, o dan y deddfiad perthnasol, y gwasanaeth y mae'r taliad yn ymwneud ag ef, cyn belled ag y bo'n fodlon y diwellir yr angen sy'n ysgogi'r ddarpariaeth o wasanaeth—

(a) yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989, gan drefniadau'r talai ei hunan; neu

(b)yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001, gan y trefniadau a wneir gan S.

(3Ym mharagraffau (1) a (2), mae'r cyfeiriadau at y deddfiad perthnasol, mewn perthynas â'r ddarpariaeth o wasanaeth, yn gyfeiriadau at y deddfiad y byddid yn darparu'r gwasanaetho oddi tano, oni bai am y Rheoliadau hyn.

Ad-dalu taliadau uniongyrchol

16.—(1Caiff awdurdod cyfrifol a wnaeth daliad uniongyrchol wneud yn ofynnol bod y taliad neu ran o'r taliad yn cael ei ad-dalu, os bodlonir yr awdurdod—

(a)nad yw'r taliad uniongyrchol neu ran o'r taliad wedi ei ddefnyddio i sicrhau darpariaeth o'r gwasanaeth y mae'r taliad yn ymwneud ag ef; neu

(b)na chydymffurfiwyd ag amod a wnaed o dan reoliad 12 neu 13.

(2Gellir adennill unrhyw swm sy'n agored i'w ad-dalu yn rhinwedd paragraff (1) fel dyled sy'n ddyledus i'r awdurdod cyfrifol.

Adolygu

17.—(1Rhaid i awdurdod cyfrifol adolygu'r modd y gwneir taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001—

(a)o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn gyntaf y gwneir y taliadau uniongyrchol;

(b)fesul cyfnod priodol o ddim mwy na deuddeng mis wedi hynny;

(c)pan fo'r awdurdod cyfrifol o'r farn, yn rhesymol, ar sail gwybodaeth a roddir gan S neu gan unrhyw berson arall, nad y P bellach yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001; ac

(ch)pan hysbysir ef gan unrhyw berson ynghylch pryderon—

(i)nad yw'r taliad uniongyrchol hwyrach wedi ei ddefnyddio i sicrhau'r ddarpariaeth i P o'r gwasanaethau y gwnaed y taliad ar eu cyfer, neu

(ii)a allai olygu na fyddai'r awdurdod wedi ei fodloni mwyach ynglŷn â'r materion a restrir yn rheoliad 9(5)(b) neu (c).

(2Rhaid i awdurdod cyfrifol adolygu'r arfer o wneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 os yw'r awdurdod cyfrifol o'r farn, yn rhesymol, ar sail gwybodaeth a roddir gan unrhyw berson, nad yw P yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf honno.

Terfynu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989—

(a)os yw'r person yn peidio â bod yn berson rhagnodedig; neu

(b)os oes amod a grybwyllir yn rheoliad 8(2) yn peidio â chael ei fodloni.

(2Caiff awdurdod cyfrifol beidio â gwneud y cyfan neu ran o daliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 i berson rhagnodedig—

(a)os na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodwyd o dan reoliad 12 neu y cyfeirir ato yn adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001; neu

(b)os yw'r awdurdod cyfrifol o'r farn ei bod yn briodol, yn yr holl amgylchiadau, peidio â gwneud y taliadau uniongyrchol.

(3Caiff awdurdod cyfrifol barhau i wneud taliadau uniongyrchol i berson sy'n peidio â bodloni rheoliad 3(b) ac a fyddai fel arall yn berson rhagnodedig–

(a)os bodlonir yr awdurdod yn rhesymol mai dros dro y bydd y person heb alluedd i gydsynio;

(b)os oes person arall, sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol yn alluog i reoli taliad uniongyrchol, yn barod i dderbyn a rheoli taliadau o'r fath ar ran y person cyntaf yn ystod cyfnod ei analluedd; ac

(c)os yw'r person y trefnwyd gydag ef i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol yn cydsynio i dderbyn tâl am y gwasanaeth gan y person a grybwyllir yn is-baragraff (b).

Terfynu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001

19.—(1Rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau i S o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001–

(a)os yw'r person y gwneir y taliadau mewn perthynas ag ef (“y buddiolwr”) (“the beneficiary”)—

(i)yn peidio â dod o fewn y disgrifiad o bersonau a ragnodir gan reoliad 4, neu

(ii)yn peidio â dod o fewn adran 57(2)(a) o Ddeddf 2001; neu

(b)os nad yw'r awdurdod cyfrifol wedi ei fodloni mwyach ynglŷn ag unrhyw un o'r materion a restrir yn rheoliad 9(5).

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i S o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 os nad yw'r buddiolwr mwyach yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001 neu os yw'r awdurdod cyfrifol yn credu, yn rhesymol, nad yw mwyach yn dod o fewn yr adran honno.

(3Caiff awdurdod cyfrifol beidio â gwneud y cyfan neu ran o'r taliadau uniongyrchol i S os peidir â chydymffurfio ag unrhyw amod a osodir o dan reoliad 13 neu y cyfeirir ato yn adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001.

(4Caiff awdurdod cyfrifol barhau i wneud taliadau uniongyrchol i S o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 hyd yn oed pan fo'r buddiolwr yn peidio â dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001—

(a)os yw'r awdurdod yn rhesymol fodlon mai dros dro y bydd galluedd gan y buddiolwr i gydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol; a

(b)os gwneir y taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i'r amod ychwanegol y bydd S yn caniatáu i'r buddiolwr reoli'r taliadau uniongyrchol ei hunan, yn ystod unrhyw gyfnod pan fodlonir yr awdurdod cyfrifol y bydd galluedd gan y buddiolwr i gydsynio â gwneud y taliadau uniongyrchol ac y bydd yn alluog i reoli taliadau o'r fath.

(5Pan fo paragraff (2) yn gymwys ac awdurdod cyfrifol o'r farn, yn rhesymol, nad galluedd dros dro i gydsynio sydd gan y buddiolwr, rhaid i'r awdurdod, cyn terfynu taliadau o dan adran 57(1A), ymgynghori â'r buddiolwr ynglŷn ag a yw'r buddiolwr yn cydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), ni chaniateir i daliadau a wneir o dan adran 57(1A) gael eu terfynu o dan baragraff (2) cyn bo taliadau uniongyrchol o dan 57(1) o Ddeddf 2001 yn cael eu gwneud os yw'r buddiolwr, yn unol â pharagraff (5), yn cydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001, ac—

(a)os yw'r yn berson rhagnodedig;

(b)os yw'n dod o fewn adran 57(2)(a) o Ddeddf 2001; ac

(c)os bodlonir yr amod yn rheoliad 8(2)(a) is met.

(7Nid oes dim ym mharagraff (6) sy'n effeithio ar ddisgresiwn yr awdurdod cyfrifol i beidio â gwneud taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001, o dan reoliad 8(1)(a) neu (b).

Dirymu

20.  Dirymir yr offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 3 i'r rheoliadau hyn, i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

16 Mawrth 2011

Rheoliadau 3, 4 a 5

ATODLEN 1PERSONAU NA CHEIR GWNEUD TALIADAU UNIONGYRCHOL IDDYNT

Mae'r Atodlen hon yn gymwys i berson os yw'r person hwnnw—

(a)yn destun gofyniad adsefydlu cyffuriau o fewn ystyr “drug rehabilitation requirement”, fel y'i diffinnir gan adran 209 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(22), a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community order” gan adran 177 o'r Ddeddf honno, neu gan ddedfryd gohiriedig o garchar o fewn yr ystyr a roddir i “suspended sentence of imprisonment” yn adran 189 o'r Ddeddf honno;

(b) yn destun gofyniad triniaeth alcohol o fewn yr ystyr a roddir i “alcohol treatment requirement” fel y'i diffinnir gan adran 212 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn ystyr adran 177 o'r Ddeddf honno neu gan ddedfryd gohiriedig o garchar o fewn ystyr adran 189 o'r Ddeddf honno;

(c)wedi ei ryddhau ar drwydded o dan Ran 2 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991(23), Pennod 6 o Ran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 neu Bennod 2 o Ddeddf (Dedfrydau) Troseddau 1997(24) yn ddarostyngedig i amod trwydded ansafonol sy'n gwneud yn ofynnol bod y tramgwyddwr yn ymgymryd â gwaith ymddygiad troseddol ynglŷn ag ymddygiad sy'n gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol;

(ch)o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gorchymyn adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community rehabilitation order” gan adran 41 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(25) neu orchymyn cosbi ac adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community punishment and rehabilitation order” gan adran 51 o'r Ddeddf honno;

(d)yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau a osodwyd o dan adran 52 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(26);

(dd)naill ai —

(i)

o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad mewn gorchymyn prawf o fewn yr ystyr a roddir i “probation order” gan adrannau 228 i 230 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(27);

(ii)

yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau o fewn yr ystyr a roddir i “drug treatment and testing order” gan adran 234B o'r Ddeddf honno; neu

(iii)

yn destun gorchymyn talu'n ôl i'r gymuned yn yr ystyr a roddir i “community payback order” gan adran 227A o'r Ddeddf honno sy'n gosod gofynion o ran triniaeth mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol; neu

(e)wedi ei ryddhau ar drwydded o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989(28) neu o dan adran 1 neu 1AA o Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (Yr Alban) 1993(29) ac yn ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth am ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.

Rheoliadau 8 a 9

ATODLEN 2DEDDFIADAU Y GELLIR GOSOD RHWYMEDIGAETH ODANYNT I DDERBYN GWSANAETHAU PERTHNASOL, Y CANIATEIR GWNEUD TALIADAU UNIONGYRCHOL MEWN PERTHYNAS Å HWY

Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 8(1)(a) a 9(4)(a) yw—

(a)Rhan 1 o Atodlen 1A i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Gorffwylltra) 1964(30);

(b)adran 8, 17 neu 17B o Ddeddf 1983 neu adran 40(2) a ddarllenir ar y cyd ag adran 8 o'r Ddeddf honno(31);

(c)adran 57A o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(32) neu Atodlen 4 i'r Ddeddf honno;

(ch)adran 41, 53, 127, 179, 221 neu 224 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (yr Alban) 2003 neu adran 66 a ddarllenir ar y cyd ag adran 64 neu 65 o'r Ddeddf honno(33);

(d)adran 177 neu 189 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(34) i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sy'n destun gofyniad triniaeth iechyd meddwl o fewn yr ystyr a roddir i “mental health treatment requirement” gan adran 207 o'r Ddeddf honno;

(dd)adran 41 neu 51 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sydd o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(35);

(e)adrannau 228 i 230 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sydd o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(36);

(f)adran 22 neu 26 o Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sy'n ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(37);

(ff)adran 12 Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (Yr Alban) 1993(38);

(g)adran 37(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 i'r graddau y mae'n ymwneud â pherson sy'n ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(39).

Rheoliad 20

ATODLEN 3DIRYMIADAU

Offeryn StatudolRhif yr Offeryn StatudolMaint y dirymiad
Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 20042004/1748 (Cy.185)Yr holl Reoliadau
Gorchymyn Deddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003 (Darpariaethau Canlyniadol) 20052005/2078Paragraff 27 o Atodlen 2
Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 20052005/3302 (Cy. 256)Paragraff 28 o'r Atodlen
Gorchymyn Deddf Iechyd Meddwl 2007 (Diwygiadau Canlyniadol) 20082008/2828Erthygl 19

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol er mwyn i berson sicrhau darpariaeth o rai gwasanaethau gofal cymdeithasol. Wrth wneud hynny, maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004.

Y gwasanaethau dan sylw yw'r rheini y byddid yn eu darparu o dan y deddfiadau gofal cymunedol a grybwyllir yn adran 46(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990, i ofalwyr o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 neu wasanaethau o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989 (darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill).

Mae rheoliadau 3, 4 a 5 yn rhagnodi disgrifiadau o bersonau y caniateir iddynt gael taliadau uniongyrchol.

Mae rheoliad 6 yn rhagnodi personau y caniateir iddynt weithredu fel cynrychiolwyr i bersonau sydd heb alluedd i gydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol, o fewn yr ystyr a roddir i “persons lacking capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005.

Mae rheoliad 7 yn rhagnodi'r pwerau y mae'n rhaid i ddirprwy neu dderbyniwr eu cael er mwyn gweithredu ar ran person heb alluedd.

Mae rheoliad 8 yn pennu'r amgylchiadau pan fo rhaid, neu pan ganiateir, i awdurdod cyfrifol (“awdurdod”) wneud taliadau uniongyrchol i bersonau sydd â galluedd i gydsynio â gwneud taliad uniongyrchol.

Mae rheoliad 9 yn pennu'r amgylchiadau pan fo rhaid, neu pan ganiateir, i awdurdod wneud taliadau uniongyrchol i bersonau heb alluedd.

Mae rheoliadau 10 ac 11 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â swm taliadau uniongyrchol ac ynglŷn â'u talu i bersonau sydd â galluedd i gydsynio ac i bersonau sydd heb alluoedd, yn eu trefn. Rhaid i daliadau uniongyrchol fod naill ai'n daliadau gros neu'n daliadau net o ba bynnag swm yn penderfyna'r awdurdod sy'n ddyledus fel cyfraniad gan y person mewn perthynas â'r gwasanaeth. Mewn rhai achosion, taliad gros yn unig a ganiateir. Yn achos taliadau uniongyrchol i bersonau sydd â galluedd i gydsynio, ceir gwneud taliad naill ai i'r person rhagnodedig neu i ba bynnag berson arall a enwebir gan y person hwnnw. Maent yn pennu'r amgylchiadau pan fo'n ofynnol i awdurdod benderfynu modd person yn unol â Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011.

Mae rheoliadau 12 a 13 yn pennu amodau y mae'n rhaid, neu y caniateir, eu gosod ynglŷn â thaliadau uniongyrchol i bersonau sydd â galluedd i gydsynio neu i bersonau heb alluoedd, yn eu trefn. Yn benodol, gwaherddir defnyddio taliad uniongyrchol i sicrhau gwasanaeth gan bersonau penodol, ac eithrio mewn amgylchiadau penodedig.

Mae rheoliad 14 yn pennu'r cyfnodau hwyaf o lety preswyl y caniateir eu sicrhau gan ddefnyddio taliad uniongyrchol a'r amgylchiadau pan na chaniateir defnyddio taliad uniongyrchol i sicrhau llety o'r fath.

Mae rheoliad 15 yn darparu bod awdurdod, pan yw'n gwneud taliad uniongyrchol, yn cadw ei swyddogaethau mewn perthynas â darparu'r gwasanaeth. Mae'n darparu hefyd nad yw awdurdod o dan unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â darparu'r gwasanaeth, ar yr amod y bodlonir ef y bydd anghenion y person yn cael eu diwallu gan y trefniadau a wneir gan y person ei hunan.

Mae rheoliad 16 yn pennu'r amgylchiadau pan gaiff awdurdod wneud yn ofynnol bod taliad uniongyrchol yn cael ei ad-dalu.

Mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer adolygu'r trefniant taliadau uniongyrchol gan yr awdurdod mewn rhai amgylchiadau.

Mae rheoliadau 18 a 19 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan fo rhaid, neu pan ganiateir, i awdurdod roi'r gorau i wneud taliadau uniongyrchol i bersonau sydd â galluedd i gydsynio ac i bersonau sydd heb alluoedd, yn eu trefn.

Mae rheoliad 20 ac Atodlen 3 yn darparu ar gyfer dirymu rheoliadau penodedig.

(1)

2001 p.15 (“y Ddeddf”). Diwygiwyd adran 57 o'r Ddeddf gan adran 146 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14) (“Deddf 2008”). Mewnosodwyd adrannau 57(1A), (5B) a (5C) o'r Ddeddf gan adran 146(2) a (6) o Ddeddf 2008 a mewnosodwyd adran 57(7B) gan adran 16 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010 (mccc 2). Gweler adran 57(8) o'r Ddeddf am y diffiniad o “prescribed” ac adran 66 am y diffiniadau o “regulations” a “the relevant authority”. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Ddeddf i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

1989 p.41. Amnewidiwyd 17A gan adran 58 o'r Ddeddf, a diwygiwyd hi gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) (“DPPhI”). Diwygiwyd adran 104 gan baragraff 25 o Atodlen 3 i DPPhI a mewnosodwyd adran 104A gan baragraff 26 o Atodlen 3 i DPPhI. Gweler adran 17A(6) am y diffiniad o “prescribed” ac adran 30A (fel y'i mewnosodwyd gan baragraff 22 o Atodlen 3 i DPPhI) am y diffiniad o “appropriate national authority”.

(5)

Diwygiwyd adran 46 gan baragraff 14 o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) a chan baragraffau 128 a 129 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43).

(7)

Gweler adran 17A(2) o Ddeddf Plant 1989 (p.41) am y diffiniad o “awdurdod cyfrifol”.

(8)

Diwygiwyd adran 17 gan adran 7(1) a (2) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35), gan baragraffau 15 a 16 o Atodlen 3 i Ddeddf Credydau Treth 2002 (p.21), gan adran 116(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38), gan adran 53(1) o Ddeddf Plant 2004 (p.31), gan baragraff 6 o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (c. 5), gan adran 24 o Ddeddf plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) a chan baragraff 1 o Atodlen 1, paragraffau 1 a 2 o Atodlen 3 a chan Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.

(9)

2010 mccc 2. Mae adran 13(2) yn cynnwys y rhestr o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt, sef —

(a)

gwasanaeth a ddarperir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (p.29) oni bai bod y gwasanaeth yn un y caniateir ei gwneud yn ofynnol codi tâl amdano o dan adran 22 neu 26 o'r Ddeddf honno;

(b)

gwasanaeth a ddarperir o dan adran 45(1) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (p. 46);

(c)

gwasanaeth a ddarperir o dan Atodlen 15 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

(d)

gwasanaeth a ddarperir o dan baragraff 1 o Ran II o Atodlen 9 i Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41) oni bai bod y gwasanaeth yn un y gall fod taliad yn ofynnol amdano o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948;

(e)

gwasanaeth a ddarperir o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p. 16) oni bai i'r gwasanaeth gael ei ddarparu ar ffurf gofal preswyl.

  • Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r rhestr o wasanaethau a ragnodir gan adran 13(2).

(10)

Mewnosodwyd adran 57A o'r Ddeddf gan adran 146(6) o Ddeddf 2008.

(11)

Gweler adran 57(2) o'r Ddeddf am y diffiniad o “awdurdod cyfrifol”.

(12)

2005 p.9.

(14)

Gweler adran 57(5B) o Ddeddf 2001 a rheoliad 6 am y diffiniad o “representative”. Gweler adran 57(5C) o Ddeddf 2001 a rheoliad 7 am y diffiniad o “surrogate”.

(15)

2005 p.9. Gweler adran 1 o'r Ddeddf honno am yr egwyddorion allweddol sy'n gymwys i benderfyniadau a gweithredoedd a wneir o dan y Ddeddf honno, gan gynnwys rhagdybio galluedd. Gweler adran 2 o'r Ddeddf honno am y diffiniad o berson sydd heb alluedd.

(16)

1997 p.50. Mewnosodwyd adran 113B gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15) a diwygiwyd hi gan baragraff 14 o Atodlen 9 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47), gan paragraff 149 o Atodlen 16 i Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p.52), gan adrannau 79(1) a 80 of the Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007 (dsa 14) a chan O.S. 2009/203.

(18)

Gweler adran 57(1B) o Ddeddf 2001 Act am y diffiniad o “requisite consent”. Mewnosodwyd adran 57(1B) gan adran 146(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14).

(19)

2005 p.9. Gweler adran 4 o'r Ddeddf honno, ynglŷn ag egwyddor y budd pennaf.

(20)

Gweler adran 57(4) o Ddeddf 2001, fel y'i diwygiwyd gan adran 146(4) o Ddeddf 2008, am y diffiniad o “gross payment”.

(21)

Gweler adran 57(5) o Ddeddf 2001, fel y'i diwygiwyd gan adran 146(5) o Ddeddf 2008, am y diffiniad o “net payment”.

(22)

2003 p.44 (“Deddf 2003”). Diwygiwyd adran 209 gan baragraff 88 o Atodlen 4 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p.4) a chan O.S. 2008/912. Diwygiwyd adran 177 gan baragraff 82 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 189 gan O.S. 2005/643.

(23)

1991 p.53.

(24)

1997 p.43.

(25)

2000 p.6. Diddymwyd adrannau 41 a 51, gydag arbedion, gan adran 37 o Ddeddf 2003.

(26)

Diddymwyd adran 52, gydag arbediad, gan Atodlen 37 i Ddeddf 2003.

(27)

1995 p.46. Diwygiwyd adran 228 gan baragraff 21 o Atodlen 1 i Ddeddf Trosedd a Chosb (Yr Alban) 1997 (p.48), gan baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37), gan baragraff 122 o Atodlen 7 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p.43), gan adrannau 42(11) a 89 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003 (dsa 7) a chan O.S. 1998/2327, 2001/919, 2002/1149 (C.28), 2003/288 a 2008/912. Diwygiwyd adran 229 gan adran 49(4) o Ddeddf Achosion Troseddol etc. (Diwygio) (Yr Alban) 2007 (dsa 6). Mewnosodwyd adran 229A gan adrannau 12(2) a 24 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr etc. (Yr Alban) 2005 (dsa 14) a diwygiwyd hi gan O.S.A. 2006/48. Diwygiwyd adran 230 gan Atodlen 6 i Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 (dsa 4), gan adrannau 135, 331 a 333 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003 (dsa 13) a pharagraff 8 o Atodlen 4 a Rhan 1 o Atodlen 5 i'r Ddeddf honno a chan O.S.A. 2005/161 ac O.S. 2009/1182. Mewnosodwyd adran 234B gan adran 89 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a diwygiwyd hi gan O.S. 1998/2327. Mewnosodwyd adran 227A yn Neddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 gan adran 14 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 (dsa 13). Mae adran 227A(2)(g) ac (h) yn darparu ar gyfer gosod gofynion i dderbyn triniaeth ar gyfer cyffuriau ac alcohol, yn eu trefn.

(28)

Diddymwyd adrannau 22 a 26, gydag arbedion, gan Atodlen 7 i Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (Yr Alban) 1993 (p.9).

(29)

Diwygiwyd adran 1 gan baragraff 98 o Atodlen 8 i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, gan adran 1(2) o Ddeddf Hawliau Confensiwn (Cydymffurfio) (Yr Alban) 2001 (dsa 7) a chan adran 15(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr etc (Yr Alban) 2005 (dsa 14). Mewnosodwyd adran 1AA gan adran 15(3) of o'r Ddeddf honno.

(30)

1964 p.84.

(31)

1983 p.20 (diffinnir “Deddf 1983” yn rheoliad 2). Diwygiwyd adran 8 gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p.12) (“Deddf 2007”). Diwygiwyd adran 17 gan adran 3(3) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Cleifion yn y Gymuned) 1995 (p.52) a chan adrannau 9(3) a 33(2) o Ddeddf 2007. Mewnosodwyd adran 17B gan adran 33(2) o Ddeddf 2007.

(32)

1995 p.46. Mewnosodwyd adran 57A gan adran 133 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003. Diwygiwyd adran 57A gan O.S.A. 2005/465. Diwygiwyd Atodlen 4 gan baragraff 21 o Atodlen 1 i Ddeddf Trosedd a Chosb (Yr Alban) 1997 a chan O.S.A. 2005/465.

(33)

2003 dsa 13. Diwygiwyd adrannau 127 a 179 gan O.S.A. 2005/465.

(34)

2003 p.44. Diwygiwyd adran 207 gan O.S. 2009/1182.

(35)

Gweler y troednodyn ar baragraff (ch) o Atodlen 1.

(36)

Gweler y troednodyn ar baragraff (dd) o Atodlen 1.

(37)

Gweler y troednodyn ar baragraff (e) o Atodlen 1.

(38)

1993 p.9. Diddymwyd adran 12 gan Atodlen 5 i Ddeddf Dedfrydau o Garchar ac Arfau (Yr Alban) 2007 (dsa 17) o ddyddiad sydd i'w bennu.

(39)

1991 p.53. Diddymwyd adran 37 gydag arbedion gan Atodlen 37 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44).