Amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 200113
1
Mae taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 yn ddarostyngedig i'r amodau ym mharagraff (2).
2
Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff(1) yw—
a
na chaniateir sicrhau'r gwasanaeth, y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef, gan berson a grybwyllir ym mharagraff (3) oni fodlonir yr awdurdod cyfrifol bod sicrhau'r gwasanaeth gan berson o'r fath yn angenrheidiol er mwyn diwallu'n foddhaol angen P am y gwasanaeth hwnnw; a
b
rhaid i S —
i
weithredu er budd gorau P, o fewn yr ystyr a roddir i “best interests” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005, wrth sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef,
ii
darparu pa bynnag wybodaeth i'r awdurdod cyfrifol a ystyrir yn angenrheidiol gan yr awdurdod, mewn perthynas â'r taliad uniongyrchol,
iii
os yw S yn unigolyn a grybwyllir yn rheoliad 9(2)(c)(i) neu'n gorff corfforaethol neu gorff anghorfforedig o bersonau, cael tystysgrif cofnod troseddol manylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997, ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno), neu wirio bod tystysgrif foddhaol o dan y Ddeddf honno wedi ei chael, mewn perthynas ag unrhyw berson y sicrheir ganddo wasanaeth y gwnaed taliad uniongyrchol mewn perthynas ag ef,
iv
hysbysu'r awdurdod cyfrifol os bydd S yn credu, yn rhesymol, nad yw P bellach yn dod o fewn adran 57(5A) o Ddeddf 2001, a
v
defnyddio'r taliad uniongyrchol i sicrhau darpariaeth i P o'r gwasanaethau y gwnaed y taliad mewn perthynas â hwy.
3
Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
a
priod neu bartner sifil P;
b
person sy'n byw gyda P fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil P;
c
person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i P–
i
rhiant neu riant-yng-nghyfraith,
ii
mab neu ferch,
iii
mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,
iv
llysfab neu lysferch,
v
brawd neu chwaer,
vi
modryb neu ewythr, neu
vii
tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;
ch
priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c), sy'n byw ar yr un aelwyd â P; a
d
person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.
4
Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliad uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau eraill (os oes rhai) a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod cyfrifol.