Terfynu taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 198918
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989—
a
os yw'r person yn peidio â bod yn berson rhagnodedig; neu
b
os oes amod a grybwyllir yn rheoliad 8(2) yn peidio â chael ei fodloni.
2
Caiff awdurdod cyfrifol beidio â gwneud y cyfan neu ran o daliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 i berson rhagnodedig—
a
os na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodwyd o dan reoliad 12 neu y cyfeirir ato yn adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001; neu
b
os yw'r awdurdod cyfrifol o'r farn ei bod yn briodol, yn yr holl amgylchiadau, peidio â gwneud y taliadau uniongyrchol.
3
Caiff awdurdod cyfrifol barhau i wneud taliadau uniongyrchol i berson sy'n peidio â bodloni rheoliad 3(b) ac a fyddai fel arall yn berson rhagnodedig–
a
os bodlonir yr awdurdod yn rhesymol mai dros dro y bydd y person heb alluedd i gydsynio;
b
os oes person arall, sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol yn alluog i reoli taliad uniongyrchol, yn barod i dderbyn a rheoli taliadau o'r fath ar ran y person cyntaf yn ystod cyfnod ei analluedd; ac
c
os yw'r person y trefnwyd gydag ef i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol yn cydsynio i dderbyn tâl am y gwasanaeth gan y person a grybwyllir yn is-baragraff (b).