Taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 20019
1
Rhaid i'r awdurdod perthnasol gymryd y camau ym mharagraff (2) cyn y caiff fodloni ei hunan ei bod yn briodol gwneud taliad o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 i berson addas (“S”) er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i berson sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4 (“P”).
2
Y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw fod rhaid i'r awdurdod cyfrifol—
a
i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol a phriodol, ymgynghori â'r canlynol a chymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth—
i
unrhyw un a enwir gan P fel rhywun i ymgynghori ag ef ynglŷn ag a ddylid gwneud taliad i S er mwyn sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P, neu ynglŷn â materion o'r math hwnnw,
ii
unrhyw un sy'n ymwneud â gofalu am P neu sydd â diddordeb yn lles P, a
iii
unrhyw gynrychiolydd neu ladmerydd i P14;
b
i'r graddau y bo'n rhesymol ganfyddadwy, ystyried y canlynol—
i
dymuniadau a theimladau P, ar y pryd ac yn y gorffennol (ac yn benodol, unrhyw ddatganiad ysgrifenedig perthnasol a wnaed gan P pan oedd galluedd ganddo, o fewn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 200515, i gydsynio â gwneud taliadau uniongyrchol),
ii
y credoau a'r gwerthoedd a fyddai'n debygol o ddylanwadu ar benderfyniad P pe bai ganddo alluedd o'r fath, a
iii
y ffactorau eraill y byddai P yn debygol o'u hystyried pe gallai wneud hynny;
c
cael tystysgrif cofnod troseddol manylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 199716—
i
mewn perthynas ag S os yw S yn unigolyn ac nad yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff (3) nac yn gyfaill i P sy'n ymwneud â darparu gofal i P, a
ii
os yw S yn gorff corfforaethol neu'n corff anghorfforedig o bersonau, mewn perthynas â'r unigolyn a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol, ar ran y corff hwnnw, am reoli taliadau uniongyrchol P o ddydd i ddydd,
a rhaid i'r cyfryw dystysgrif gynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno17).
3
Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(i) yw—
a
priod neu bartner sifil P;
b
person sy'n byw gyda P fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil P;
c
person sy'n dwyn y berthynas ganlynol i P—
i
rhiant neu riant-yng-nghyfraith,
ii
mab neu ferch,
iii
mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith,
iv
llysfab neu lysferch,
v
brawd neu chwaer,
vi
modryb neu ewythr, neu
vii
tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;
ch
priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c); a
d
person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw.
4
Pan fo'r awdurdod cyfrifol, ar ôl cymryd y camau ym mharagraff (2), wedi ei fodloni ynglŷn â'r materion a restrir ym mharagraff (5)—
a
caiff awdurdod cyfrifol, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol18, wneud y cyfryw daliadau o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989 ag a benderfynir yn unol â rheoliad 11 (“taliadau uniongyrchol”) (“direct payments”) i S er mwyn i S sicrhau ar gyfer P ddarpariaeth o wasanaeth perthnasol y mae P o dan rwymedigaeth i'w gael, o ganlyniad i ofyniad a osodwyd o dan ddeddfiad a grybwyllir yn Atodlen 2;
b
caiff awdurdod cyfrifol, mewn achos pan fo amod mewn grym mewn perthynas â P, a osodwyd yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3)) o Ddeddf 1983, neu pan fo P yn glaf a ryddhawyd yn amodol o dan adran 193(7) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003, wneud, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol, taliadau uniongyrchol i S er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P; ac
c
ym mhob achos arall, rhaid i awdurdod cyfrifol, gyda'r cydsyniad sy'n ofynnol, wneud taliadau uniongyrchol i S er mwyn i S sicrhau darpariaeth o wasanaeth perthnasol i P.
5
Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yw—
a
y gellir diwallu angen P am y gwasanaeth perthnasol drwy sicrhau darpariaeth ohono gan ddefnyddio taliad uniongyrchol;
b
bod S—
i
wrth sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau y gwneir y taliad uniongyrchol mewn perthynas â hwy, yn gweithredu er budd bennaf P, o fewn yr ystyr a roddir i “best interests” gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 200519, a
ii
yn ymddangos yn alluog i reoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hunan, neu gyda pha bynnag gymorth ag y gallai fod ar gael iddo, ac
c
ei bod yn briodol, yn yr holl amgylchiadau, gwneud taliad uniongyrchol i S.