Cynnwys cynlluniau4

Rhaid i gynllun gynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu'r sefydliad—

a

ymgymryd â'r mesurau a nodir yn y cynllun er mwyn denu nifer fwy o geisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy'n aelodau o grwpiau nad oes cynrychiolaeth ddigonol iddynt mewn addysg uwch ar yr adeg y cymeradwyir y cynllun, neu sicrhau yr ymgymerir â'r mesurau hynny a nodir yn y cynllun;

b

darparu cymorth ariannol a nodir yn y cynllun ar gyfer myfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs yn y sefydliad, neu sicrhau bod y cymorth ariannol hwnnw yn cael ei ddarparu;

c

gwneud y trefniadau a nodir yn y cynllun i roi ar gael i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs yn y sefydliad a darpar fyfyrwyr sy'n dymuno ymgymryd â chwrs o'r fath wybodaeth ynghylch cymorth ariannol sydd ar gael iddynt o unrhyw ffynhonnell;

ch

gwneud y trefniadau a nodir yn y cynllun i roi gwybod i unrhyw ddarpar fyfyriwr cyn i'r myfyriwr ymrwymo i ymgymryd â chwrs yn y sefydliad am swm agregedig y ffioedd y bydd y sefydliad yn eu codi am gwblhau'r cwrs;

d

monitro, yn y dull a nodir yn y cynllun, gydymffurfiad y corff â darpariaethau'r cynllun a'r cynnydd y mae'n ei wneud tuag at gyflawni ei amcanion a nodir yn y cynllun yn unol â rheoliad 3; ac

dd

darparu i'r awdurdod perthnasol4 yr wybodaeth honno y mae'n rhesymol i'r awdurdod perthnasol ofyn amdani o bryd i'w gilydd.