Grant cymorth arbennig — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyrwyr carfan 2011
45.—(1) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2011 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,600.
(2) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2011 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £5,600;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i M−A, pan fo M yn £5,600 ac A yn £1 am bob £3.77 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £3,444 ac A yn £1 am bob £4.315 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;
(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae'r myfyriwr cymwys yn cael swm sy'n hafal i SM−A pan fo SM yn £1,706 ac A yn £1 am bob £9.67 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;
(d)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae'r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac
(dd)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.