Search Legislation

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau ) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 923 (Cy.132)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

LLYGRU MOROL, CYMRU

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau ) (Cymru) 2011

Gwnaed

22 Mawrth2011

Yn dod i rym

6 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 108 o'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 316(6)(b) a (7)(f) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Cymhwyso

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy, y mae Gweinidogion Cymru—

(a)yn awdurdod trwyddedu priodol(2) ar ei gyfer (a rhaid darllen cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr awdurdod trwyddedu” yn unol â hynny);

(b)yn awdurdod gorfodi(3) ar ei gyfer (a rhaid darllen cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr awdurdod gorfodi” yn unol â hynny).

Apelau yn erbyn amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded forol

3.—(1Caiff person y dyroddwyd hysbysiad iddo o dan adran 72 o Ddeddf 2009 (hysbysiad yn amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded forol neu estyn cyfnod ataliad) apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf(4) yn erbyn yr hysbysiad.

(2Atelir hysbysiad, y cyfeirir ato ym mharagraff (1) sy'n amrywio trwydded forol, mewn perthynas â'r amrywiad hwnnw, hyd nes penderfynir yr apêl.

(3Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf atal unrhyw hysbysiad arall y cyfeirir ato ym mharagraff (1), yn gyfan gwbl neu'n rhannol, hyd nes penderfynir yr apêl.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi, hysbysiadau stop a hysbysiadau diogelwch brys

4.—(1Caiff person y dyroddwyd iddo unrhyw un o'r hysbysiadau ym mharagraff (2) apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn yr hysbysiad.

(2Yr hysbysiadau yw—

(a)hysbysiad cydymffurfio;

(b)hysbysiad adfer;

(c)hysbysiad stop;

(ch)hysbysiad diogelwch brys(5).

(3Atelir hysbysiad cydymffurfio ac unrhyw ofyniad mewn unrhyw hysbysiad o'r fath, hyd nes penderfynir apêl yn erbyn yr hysbysiad.

(4Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf atal unrhyw hysbysiad adfer, hysbysiad stop neu hysbysiad diogelwch brys, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, hyd nes penderfynir yr apêl.

Apelau — darpariaethau pellach

5.—(1Mewn unrhyw apêl, mae'r baich prawf ar yr awdurdod trwyddedu neu'r awdurdod gorfodi, (fel y bo'n briodol), ac—

(a)os yw'r apêl yn ymwneud â'r honiad o gyflawni tramgwydd, rhaid i'r awdurdod brofi y cyflawnwyd y tramgwydd, y tu hwn i amheuaeth resymol, a

(b)mewn unrhyw achos arall, rhaid i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf benderfynu'r safon o brawf.

(2Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—

(a)tynnu'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad sydd ynddo yn ôl;

(b)cadarnhau'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad sydd ynddo;

(c)amrywio'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad sydd ynddo;

(ch)cymryd unrhyw gamau y gallai'r awdurdod trwyddedu neu'r awdurdod gorfodi (fel y bo'n briodol) eu cymryd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gofyniad neu'r hysbysiad;

(d)cyfeirio'r penderfyniad a ddylid cadarnhau'r hysbysiad, neu unrhyw fater arall ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw, yn ôl at yr awdurdod trwyddedu neu'r awdurdod gorfodi (fel y bo'n briodol).

Adfer symiau taladwy

6.—(1Rhaid talu unrhyw swm sy'n daladwy yn unol â phenderfyniad y Tribiwnlys Haen Gyntaf o fewn 56 diwrnod ar ôl y penderfyniad hwnnw.

(2Bydd unrhyw swm o'r fath nas telir o fewn y cyfnod hwnnw —

(a)yn adenilladwy fel dyled sifil;

(b)yn adenilladwy ar orchymyn llys, fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys.

Jane Davidson

Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

22 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud apelau i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn rhai hysbysiadau a roddir o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”).

Yr hysbysiadau yw—

(a)hysbysiad sy'n amrywio, yn atal dros dro neu'n dirymu trwydded forol, neu'n estyn cyfnod ataliad, a ddyroddir o dan adran 72 o Ddeddf 2009, y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag ef (rheoliadau 2(a) a 3);

(b)hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, hysbysiad stop, neu hysbysiad diogelwch brys, y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ef (rheoliadau 2(b) a 4). Gweler adran 115 o Ddeddf 2009 am ddiffiniadau o'r hysbysiadau hyn .

Mae rheoliad 5 yn pennu pwerau Tribiwnlys yr Haen Gyntaf, a rheoliad 6 yn pennu darpariaeth ar gyfer adennill unrhyw swm sy'n daladwy yn unol â phenderfyniad o'r Tribiwnlys hwnnw.

Mae asesiad llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus ar gael o'r Uned Caniatadau Morol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn www.cymru.gov.uk.

(2)

Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth ymgymryd â gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Gweler adran 322(1) am ddiffiniad o'r rhanbarth hwnnw.

(3)

Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei chyfer yn rhinwedd adran 114(2) o Ddeddf 2009.

(4)

Neilltuir apelau i Siambr Reoleiddio Gyffredinol Tribiwnlys yr Haen Gyntaf yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn Tribiwnlys yr Haen Gyntaf a'r Uwch Dribiwnlys (Siambrau) 2010 (O.S. 2010/2655). Pennir y rheolau trefniadol mewn perthynas ag apelau o'r fath yn Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (O.S. 2009/1976).

(5)

Ynglŷn â'r hysbysiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) (a) i (d), gweler adrannau 90, 91, 102 a 104 o Ddeddf 2009.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources