12.—(1) Caiff y person y gosodir cosb ariannol benodedig arno apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gosod(1).
(2) Y seiliau apelio yw—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(ch)unrhyw reswm arall a ganiateir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf.
Gweler erthygl 28 am ddarpariaethau pellach ynglŷn ag apelau.