RHAN 3Cosbau ariannol newidiol
Gosod cosb ariannol newidiol17
1
Rhaid i'r awdurdod gorfodi, ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, benderfynu a ddylid gosod cosb ariannol newidiol, ac os felly, swm y gosb.
2
Wrth benderfynu felly, rhaid i'r awdurdod gorfodi gymryd i ystyriaeth unrhyw ymrwymiad a dderbyniwyd ganddo o dan erthygl 16(2).
3
Rhaid i'r awdurdod gorfodi beidio â phenderfynu gosod cosb ariannol newidiol ar berson, os yw'r awdurdod wedi'i fodloni na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad a godir gan y person hwnnw, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y bwriedid gosod y gosb mewn cysylltiad ag ef.
4
Pan fo'r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod cosb ariannol newidiol, rhaid i'r hysbysiad sy'n ei gosod (yr “hysbysiad terfynol”) gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
a
y seiliau dros osod y gosb;
b
swm y gosb;
c
sut y gellir talu;
ch
y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo;
d
hawliau i apelio; ac
dd
canlyniadau peidio â thalu.
5
Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i erthygl 30.