Gosod cosb ariannol newidiol
17.—(1) Rhaid i'r awdurdod gorfodi, ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, benderfynu a ddylid gosod cosb ariannol newidiol, ac os felly, swm y gosb.
(2) Wrth benderfynu felly, rhaid i'r awdurdod gorfodi gymryd i ystyriaeth unrhyw ymrwymiad a dderbyniwyd ganddo o dan erthygl 16(2).
(3) Rhaid i'r awdurdod gorfodi beidio â phenderfynu gosod cosb ariannol newidiol ar berson, os yw'r awdurdod wedi'i fodloni na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad a godir gan y person hwnnw, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y bwriedid gosod y gosb mewn cysylltiad ag ef.
(4) Pan fo'r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod cosb ariannol newidiol, rhaid i'r hysbysiad sy'n ei gosod (yr “hysbysiad terfynol”) gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)y seiliau dros osod y gosb;
(b)swm y gosb;
(c)sut y gellir talu;
(ch)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo;
(d)hawliau i apelio; ac
(dd)canlyniadau peidio â thalu.
(5) Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i erthygl 30.