RHAN 3Cosbau ariannol newidiol

Cyfyngiadau ar sancsiynau eraill19

Pan fo cosb ariannol newidiol wedi ei gosod ar berson—

a

ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd y gosodwyd y gosb mewn cysylltiad ag ef, mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb;

b

ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb.