RHAN 3Cosbau ariannol newidiol
Apelau yn erbyn cosbau ariannol newidiol20
1
Caiff y person y gosodir cosb ariannol newidiol arno apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gosod neu yn erbyn swm y gosb.
2
Y seiliau apelio yw—
a
bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
b
bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
c
bod swm y gosb yn afresymol;
ch
bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
d
unrhyw reswm arall a ganiateir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf.