RHAN 4Canllawiau a chyhoeddi camau gorfodi
Canllawiau ynghylch defnyddio sancsiynau sifil23.
(1)
Rhaid i'r awdurdod gorfodi gyhoeddi canllawiau ynghylch y modd mae'n defnyddio sancsiynau sifil.
(2)
Rhaid i'r canllawiau gynnwys gwybodaeth ynglŷn ag—
(a)
yr amgylchiadau y mae'n debygol y gosodir sancsiwn sifil o danynt;
(b)
yr amgylchiadau na chaniateir ei gosod o danynt;
(c)
mewn perthynas â chosb ariannol benodedig—
(i)
swm y gosb; a
(ii)
sut y gall y rhwymedigaeth am y gosb gael ei chyflawni ac effaith ei chyflawni;
(ch)
yn achos cosb ariannol newidiol, y materion sy'n debyg o gael eu cymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod gorfodi wrth benderfynu ar swm y gosb (gan gynnwys pan fo'n berthnasol, unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am ddiffyg cydymffurfio);
(d)
hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau; ac
(dd)
hawliau i apelio.
(3)
Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddiwygio'r canllawiau pan fo'n briodol.
(4)
Rhaid i'r awdurdod gorfodi ymgynghori â pha bynnag bersonau yr ystyria'n briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig.
(5)
Rhaid i'r awdurdod gorfodi roi sylw i'r canllawiau neu'r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.