Hysbysiad o fwriad
5.—(1) Pan fo'r awdurdod gorfodi'n bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn y bwriedir ei wneud (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i'r hysbysiad gynnig cyfle i'r person gyflawni ei rwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig drwy dalu 50% o swm y gosb o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'n cael yr hysbysiad o fwriad.
(3) Rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth hefyd am—
(a)seiliau'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig;
(b)swm y gosb ariannol benodedig y bwriedir ei gosod;
(c)effaith talu'r swm y cyfeirir ato yn erthygl 6;
(ch)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau;
(d)yr amgylchiadau pan na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gosb ariannol benodedig;
(dd)y cyfnod, y cyfeirir ato yn erthygl 6, y ceir cyflawni'r rhwymedigaeth am y gosb ariannol benodedig ynddo;
(e)y cyfnod, y cyfeirir ato yn erthygl 7(1), y ceir gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau ynddo.
(4) Ond ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad i berson mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anwaith pan fo—
(a)cosb ariannol newidiol wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw;
(b)hysbysiad stop(1) wedi ei gyflwyno i'r person hwnnw mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.
Gweler adran 115(1) o'r Ddeddf ar gyfer y diffiniad o'r term hwn.