xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2011.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2011.

Cymhwyso

2.  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy, y mae Gweinidogion Cymru yn—

(a)awdurdod trwyddedu priodol(1) ar ei gyfer (a dylid darllen y cyfeiriad yn erthygl 25(2) at “yr awdurdod trwyddedu” yn unol â hynny);

(b)yn awdurdod gorfodi(2) ar ei gyfer (a dylid darllen cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr awdurdod gorfodi” yn unol â hynny).

Dehongli

3.  Yn y Gorchymyn hwn—

(1)

Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth ymgymryd â gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adrannau 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Mae i “rhanbarth glannau Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh inshore region” yn adran 322(1) o'r Ddeddf.

(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardaloedd y mae Gweinidogion Cymru yn Awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer. at ddibenion y Gorchymyn hwn (gweler adran 114(2) o'r Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

(3)

Gweler adran 115(1) o'r Ddeddf ar gyfer diffinad o'r termau hyn.