xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Cosbau ariannol newidiol

Pŵer i osod cosb ariannol newidiol

13.—(1Caiff yr awdurdod gorfodi drwy hysbysiad osod cosb ariannol newidiol ar berson mewn perthynas ag—

(a)tramgwydd o dan adran 85(1) o'r Ddeddf (torri gofyniad i gael, neu dorri amodau, trwydded);

(b)tramgwydd o dan adran 89(1) o'r Ddeddf (gwybodaeth);

(c)tramgwydd o dan adran 92(3)(b) o'r Ddeddf (methiant i gydymffurfio â hysbysiad adfer).

(2Ond cyn gwneud hynny rhaid i'r awdurdod gorfodi fod wedi'i fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni'r tramgwydd.

Hysbysiad o fwriad

14.—(1Pan fo'r awdurdod gorfodi'n bwriadu gosod cosb ariannol newidiol ar berson, rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).

(2Rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth fel a ganlyn—

(a)seiliau'r bwriad i osod y gosb ariannol newidiol;

(b)swm y gosb ariannol newidiol a fwriedir;

(c)yr amgylchiadau pan na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gosb ariannol newidiol; ac

(ch)y cyfnod, y cyfeirir ato yn erthygl 15, y ceir gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau ynddo.

(3Ond ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o fwriad i berson mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anwaith pan fo—

(a)cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw; neu

(b)pan fo'r person wedi cyflawni ei rwymedigaeth am gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw, yn unol ag erthygl 6.

Sylwadau a gwrthwynebiadau

15.  Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r hysbysiad o fwriad i law, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau i'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â'r bwriad i osod y gosb.

Ymrwymiadau i weithredu er budd personau yr effeithir arnynt

16.—(1Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymrwymiad y cymerir camau gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson yr effeithiwyd arno gan y tramgwydd.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi naill ai dderbyn neu wrthod ymrwymiad o'r fath.

Gosod cosb ariannol newidiol

17.—(1Rhaid i'r awdurdod gorfodi, ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, benderfynu a ddylid gosod cosb ariannol newidiol, ac os felly, swm y gosb.

(2Wrth benderfynu felly, rhaid i'r awdurdod gorfodi gymryd i ystyriaeth unrhyw ymrwymiad a dderbyniwyd ganddo o dan erthygl 16(2).

(3Rhaid i'r awdurdod gorfodi beidio â phenderfynu gosod cosb ariannol newidiol ar berson, os yw'r awdurdod wedi'i fodloni na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad a godir gan y person hwnnw, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y bwriedid gosod y gosb mewn cysylltiad ag ef.

(4Pan fo'r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod cosb ariannol newidiol, rhaid i'r hysbysiad sy'n ei gosod (yr “hysbysiad terfynol”) gynnwys gwybodaeth am y canlynol—

(a)y seiliau dros osod y gosb;

(b)swm y gosb;

(c)sut y gellir talu;

(ch)y cyfnod y mae'n rhaid talu ynddo;

(d)hawliau i apelio; ac

(dd)canlyniadau peidio â thalu.

(5Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i erthygl 30.

Dyddiadau talu

18.—(1Os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad i osod cosb ariannol newidiol, rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn cyfnod o 56 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law, neu ba bynnag gyfnod diweddarach a gytunir gan yr awdurdod gorfodi mewn ysgrifen.

(2Pan fo apêl wedi ei gwneud, ond y gosb ariannol newidiol yn parhau'n daladwy ar ôl yr apêl honno, rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y penderfynwyd yr apêl.

Cyfyngiadau ar sancsiynau eraill

19.  Pan fo cosb ariannol newidiol wedi ei gosod ar berson—

(a)ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd y gosodwyd y gosb mewn cysylltiad ag ef, mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb;

(b)ni chaiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith a arweiniodd at y gosb.

Apelau yn erbyn cosbau ariannol newidiol

20.—(1Caiff y person y gosodir cosb ariannol newidiol arno apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gosod neu yn erbyn swm y gosb.

(2Y seiliau apelio yw—

(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;

(c)bod swm y gosb yn afresymol;

(ch)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(d)unrhyw reswm arall a ganiateir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Hysbysiadau adennill costau gorfodi

21.—(1Caiff yr awdurdod gorfodi drwy hysbysiad wneud yn ofynnol bod person y gosodwyd cosb ariannol newidiol arno yn talu'r costau a achoswyd i'r awdurdod gorfodi mewn perthynas â gosod y gost, hyd at yr amser y'i gosodwyd.

(2Rhaid i'r hysbysiad bennu'r swm y mae'n ofynnol ei dalu.

(3Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo wneud yn ofynnol bod yr awdurdod gorfodi'n darparu dadansoddiad manwl o'r swm a bennir yn yr hysbysiad.

(4Nid yw'r person y mae'n ofynnol ei fod yn talu costau dan rwymedigaeth i dalu unrhyw gostau a ddangosir, gan y person hwnnw, eu bod yn gostau a achoswyd yn ddiangen.

(5Yn yr erthygl hon, mae “costau” yn cynnwys yn benodol—

(a)costau ymchwilio;

(b)costau gweinyddu;

(c)costau caffael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

Apelau yn erbyn hysbysiadau adennill costau gorfodi

22.  Caiff y person y mae'n ofynnol iddo dalu costau o dan erthygl 21 apelio yn erbyn y penderfyniad—

(a)i osod y gofyniad i dalu costau;

(b)ynglŷn â swm y costau hynny.