(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r pŵer i wneud rheoliadau ynghylch defnyddio ffyrdd arbennig o dan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (ac eithrio ynghylch ffyrdd arbennig yn gyffredinol) yn eiddo i Weinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer uchod, yn gwneud y Rheoliadau hyn sy'n cyflwyno terfynau cyflymder amrywiadwy ar y ffyrdd a bennir yn yr Atodlen.

Pan fo arwyddion terfyn cyflymder amrywiadwy ar waith ni chaniateir gyrru cerbyd ar gyflymder sy'n uwch na'r cyflymder uchaf a ddangosir gan bob arwydd terfyn cyflymder y mae'r cerbyd yn ei basio hyd nes y bydd yn pasio arwydd sy'n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys neu hyd nes y bydd y cerbyd yn ymadael â'r ffyrdd y mae'r Rheoliadau'n berthnasol iddynt. Pan fo terfyn cyflymder yn newid yn llai na 10 eiliad cyn bod cerbyd yn pasio'r arwydd, a phan fo'r arwydd wedi dangos terfyn cyflymder uwch, mae'r Rheoliadau'n caniatáu i yrrwr fynd ar gyflymder hyd at y terfyn cyflymder uchaf sy'n gymwys cyn y newid. Pan fo'r arwydd terfyn cyflymder yn dangos terfyn cyflymder pan gaiff ei basio gan gerbyd ond yn llai na 10 eiliad cyn hynny naill ai nid oedd yn dangos unrhyw derfyn cyflymder neu yr oedd y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys, bernir nad yw'r arwydd yn dangos unrhyw derfyn cyflymder i'r cerbyd sy'n ei basio.

Mae'n dramgwydd i ddefnyddio ffordd arbennig yn groes i reoliadau a wnaed o dan adran 17(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi cael ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn. Mae copïau ar gael gan y Ganolfan Gyhoeddi, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.