xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “asesiad anghenion” (“assessment of needs”) yw asesiad gan awdurdod lleol o angen defnyddiwr gwasanaeth am wasanaethau gofal cymunedol a ymgymerir yn unol ag adran 47 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(1) neu adran 1 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000(2), a rhaid darllen “aseswyd bod arno angen” (“assessed as needing”) yn unol â hynny;
ystyr “asesiad modd” (“means assessment”) yw asesiad o fodd ariannol defnyddiwr gwasanaeth, a gynhelir yn unol ag adran 5(1) o'r Mesur a rheoliad 14, a rhaid darllen “asesiad o fodd defnyddiwr gwasanaeth” (“assessment of a service user’s means”) yn unol â hynny;
ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw—
cymhorthdal incwm; neu
lwfans cyflogaeth a chymorth; neu
credyd gwarant;
mae i “credyd cynilion” (“savings credit”) yr ystyr a roddir i “savings credit” yn adrannau 1 a 3 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(3);
rhaid dehongli “credyd gwarant” (“guarantee credit”) yn unol â'r ystyr a roddir i “guarantee credit” yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002;
ystyr “cyfleuster ymweliadau cartref” (“home visiting facility”) yw ymweliad (neu ymweliadau) gan swyddog priodol awdurdod lleol â phreswylfa gyfredol y defnyddiwr gwasanaeth, neu ba bynnag fan cyfarfod arall a fynnir yn rhesymol gan y defnyddiwr gwasanaeth, at y dibenion o gasglu gwybodaeth i oleuo asesiad modd ar gyfer y person hwnnw ac o ddarparu gwybodaeth a chynnig cymorth mewn perthynas â'r broses honno;
ystyr “cymhorthdal incwm” (“income support”) yw cymhorthdal incwm a delir yn unol ag adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4);
ystyr “darpariaeth ddeuol” (“dual provision”) yw fod anghenion asesedig defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu bodloni —
yn rhannol gan awdurdod lleol sy'n darparu neu'n sicrhau gwasanaeth neu wasanaethau i'r person hwnnw, a
yn rhannol drwy fod y person hwnnw'n cael taliad uniongyrchol er mwyn sicrhau darpariaeth o wasanaeth arall neu o wasanaethau eraill;
mae “darparwyd” (“provided”), yn y Rheoliadau hyn, yn cynnwys gwneud trefniadau ar gyfer darparu;
ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw oedolyn y cynigiwyd iddo, neu sy'n cael, gwasanaeth a ddarperir gan awdurdod lleol;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl Banc o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(5);
ystyr “ffi unffurf” (“flat-rate charge”) yw ffi yn ôl cyfradd sefydlog am wasanaeth y mae defnyddiwr gwasanaeth yn ei gael ac y caniateir codi ffi amdano, a osodir gan awdurdod lleol heb ystyried modd y defnyddiwr gwasanaeth;
ystyr “gwasanaeth” (“service”) yw gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano(6), ac os yw'r cyd-destun yn mynnu, gwasanaethau neu gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt, a rhaid dehongli “gwasanaethau” (“services”) a “cyfuniad o wasanaethau” (“combination of services”) yn unol â hynny;
ystyr “gwasanaeth dydd” (“day service”) yw gwasanaeth sy'n cael ei darparu gan awdurdod lleol sy'n bodloni rhan o anghenion asesedig defnyddiwr gwasanaeth, sy'n digwydd y tu allan i gartref y person hwnnw, ac y bwriedir iddo gynorthwyo'r person hwnnw i gwrdd ag eraill, mabwysiadu diddordebau newydd neu ymarfer ei ddiddordebau presennol, ac y mae'n cynnwys cyfleoedd gwaith;
ystyr “hawlogaeth sylfaenol” (“basic entitlement”) yw—
mewn perthynas â chymhorthdal incwm —
y lwfans personol ac unrhyw bremiymau y mae hawl gan ddefnyddiwr gwasanaeth i'w cael, ond nid oes raid cynnwys y premiwm anabledd difrifol (“PAD”) os telir ef, ac os yw'r defnyddiwr gwasanaeth yn ofalwr, mae'n cynnwys unrhyw bremiwm gofalwr y mae'r person hwnnw'n ei gael,
mewn perthynas â lwfans cyflogaeth a chymorth —
y lwfans personol ac unrhyw bremiymau a chydrannau y mae hawl gan ddefnyddiwr gwasanaeth i'w cael, ond nid oes raid cynnwys y PAD os telir ef, ac os yw'r defnyddiwr gwasanaeth yn ofalwr, mae'n cynnwys unrhyw bremiwm gofal y mae'r person hwnnw'n ei gael,
mewn perthynas â chredyd gwarant—
y lwfans personol ac unrhyw swm ychwanegol y mae hawl gan ddefnyddiwr gwasanaeth i'w gael, ond nid oes raid cynnwys y swm a ychwanegir am anabledd difrifol os telir ef, ac os yw'r defnyddiwr gwasanaeth yn ofalwr, mae'n cynnwys unrhyw swm ychwanegol, cymwys i ofalwyr, y mae'r person hwnnw'n ei gael;
ystyr “incwm asesadwy” (“assessable income”) yw'r rhan honno o incwm defnyddiwr gwasanaeth y caniateir i awdurdod lleol wneud penderfyniad mewn perthynas â hi yn unol ag adran 7 o'r Mesur; nid yw'n cynnwys yr incwm y mae'n ofynnol bod awdurdod lleol yn ei ddiystyru yn unol â'r rheoliad 14;
ystyr “incwm net” (“net income”) yw'r incwm sydd, neu a fyddai, yn weddill gan ddefnyddiwr gwasanaeth, ar ôl didynnu, allan o incwm asesadwy'r person hwnnw, y ffi safonol (neu unrhyw ffi arall) a osodir o dan y Rheoliadau hyn, am wasanaeth a gynigiwyd neu a ddarparwyd i'r person hwnnw;
ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth” (“employment and support allowance”) yw naill ai lwfans cyflogaeth a chymorth seiliedig ar gyfraniadau neu lwfans cyflogaeth a chymorth seiliedig ar incwm yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(7);
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010;
ystyr “mewn ysgrifen” (“in writing”) yw unrhyw fynegiant sydd wedi ei gyfansoddi o eiriau a ffigurau y gellir eu darllen, eu hatgynhyrchu a'u cyfleu drachefn, a gall gynnwys gwybodaeth a drawsyrrir ac a gedwir drwy ddulliau electronig;
mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir i'r term yn rheoliadau 8 a 9 o Reoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau i Ofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011.