- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Rhaid i awdurdod lleol wahodd D i ofyn am asesiad o'i fodd yn unol â rheoliad 13–
(a)os yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ar yr adeg y mae'r awdurdod yn cynnig gwneud taliad uniongyrchol i D neu, os yw'n berthnasol, i berson addas;
(b)os nad oedd yn rhesymol ymarferol rhoi gwahoddiad fel a grybwyllir yn is-baragraff (a), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y cynnig;
(c)os na roddwyd gwahoddiad o dan is-baragraff (a) neu (b) cyn gwneud y taliad uniongyrchol cyntaf i D neu, os yw'n berthnasol, i berson addas, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y taliad uniongyrchol cyntaf.
(2) Os yw awdurdod lleol o'r farn, yn rhesymol, bod un neu ragor o'r amodau a bennir ym mharagraff (3) yn gymwys, rhaid iddo wahodd D i ofyn am asesiad newydd o'i fodd yn unol â rheoliadau 13 ac 16, gyda golwg ar i'r awdurdod wneud penderfyniad pellach yn unol â rheoliad 17, ynghylch gallu D i wneud taliad.
(3) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)bod cynnydd, neu gynnydd arfaethedig, yn swm y taliad y mae'n ofynnol i D ei wneud, o ganlyniad i newid ym mholisi'r awdurdod lleol ar godi ffioedd;
(b)bod newid yn amgylchiadau ariannol D;
(c)bod newid wedi digwydd yn y gost o ddarparu gwasanaeth, yr aseswyd bod ei angen ar D; neu
(ch)bod camgymeriad wedi ei wneud pan wnaed penderfyniad yn unol â rheoliad 17.
(4) Pan yw'n ofynnol, yn unol â pharagraff (1), bod awdurdod lleol yn rhoi gwahoddiad i D neu, os yw'n berthnasol, i berson addas, ofyn am asesiad o fodd D yn unol â rheoliadau 13 ac 16, neu pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gwneud hynny yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y gwahoddiad yn cynnwys manylion llawn ynglŷn â'r canlynol—
(a)y gwasanaethau yr aseswyd bod eu hangen ar D ac y mae taliad uniongyrchol dan ystyriaeth ar eu cyfer;
(b)polisi'r awdurdod lleol ar godi ffioedd, gan gynnwys y canlynol—
(i)ei bolisi ynglŷn â pha rai, os oes rhai, o'r gwasanaethau y caniateir darparu taliad uniongyrchol ar eu cyfer, y gellir gwneud yn ofynnol bod D yn talu swm tuag at y gost o sicrhau'r gwasanaethau hynny,
(ii)manylion ynghylch y swm safonol y gellir gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu tuag at y gost o sicrhau unrhyw wasanaeth o'r fath,
(iii)manylion ynghylch unrhyw wasanaeth y mae'r awdurdod lleol yn ei sicrhau neu'n ei ddarparu, ac y gall wneud yn ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn talu ffi amdano yn unol ag adran 1(1) o'r Mesur (pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal),
(iv)manylion ynghylch unrhyw wasanaeth y mae'r awdurdod lleol yn gwneud yn ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn talu ffi unffurf amdano, a
(v)manylion ynghylch yr uchafswm rhesymol y caniateir ei wneud yn ofynnol neu geisio'i gael yn unol â rheoliad 5, neu'r uchafswm rhesymol a bennir gan yr awdurdod lleol, os yw'r swm hwnnw'n llai;
(c)proses yr awdurdod lleol ar gyfer asesu modd;
(ch)yr wybodaeth a'r ddogfennaeth y mae'n ofynnol bod D neu, os yw'n berthnasol, berson addas, yn eu darparu er mwyn cynnal asesiad o fodd D;
(d)y cyfnod o amser, fel a bennir yn rheoliad 8, pan yw'n ofynnol bod D neu, os yw'n berthnasol, berson addas, yn cyflenwi'r wybodaeth a'r ddogfennaeth y cyfeirir atynt yn is-baragraff (dd);
(dd)ym mha fformat y bydd yr awdurdod lleol yn fodlon derbyn y wybodaeth a'r ddogfennaeth y cyfeirir atynt yn is-baragraff (ch);
(e)unrhyw gyfleuster ymweliadau cartref a ddarperir gan yr awdurdod lleol o fewn ei ardal;
(f)y canlyniadau os methir ag ymateb i'r gwahoddiad yn unol ag is-baragraff (d);
(ff)enw'r unigolion o fewn yr awdurdod, y dylai D neu, os yw'n berthnasol, berson addas, gysylltu ag ef pe bai angen gwybodaeth neu gymorth ychwanegol ar y person hwnnw ynglŷn ag unrhyw rai o'r prosesau sy'n gysylltiedig â rhoi'r gwahoddiad;
(g)hawl D neu, os yw'n berthnasol, berson addas, i benodi trydydd parti i'w gynorthwyo neu weithredu ar ei ran, mewn perthynas â'r cyfan neu ran o'r broses asesu modd; ac
(ng)manylion cyswllt unrhyw sefydliad o fewn ei ardal sy'n darparu cefnogaeth neu gymorth o'r math y cyfeirir ati neu ato yn is-baragraff (g).
(5) Rhaid i awdurdod lleol ddarparu i D neu, os yw'n berthnasol, i berson addas, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn ysgrifen, neu mewn unrhyw fformat arall sy'n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu'r person hwnnw(1).
Am esboniad o ystyr “unrhyw fformat sy'n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu'r person hwnnw”, gweler y canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, sy'n dwyn yr enw Introducing More Consistency in Local Authority Charging for Non-Residential Social Services.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: