Enwi, cychwyn a rhychwantu1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.

2

Mae'r Rheoliadau hyn—

a

yn dod i rym ar 29 Mawrth 2011; a

b

yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20052

Mae'r Atodlen, sy'n darparu ar gyfer diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20053, yn cael effaith.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 20043

Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 20044, yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”), yn lle “Erthygl 1(e) ac (f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff”, rhodder “Erthygl 3(19) a (15) o Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”.

Diwygio Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 20054

1

Mae Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 20055 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 —

a

yn lle is-baragraff (a) o baragraff (1), rhodder—

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff

b

yn lle is-baragraff (c) o baragraff (1), rhodder—

c

mae cyfeiriad at briodweddau peryglus yn gyfeiriad at y priodweddau a osodir yn Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Wastraff.

c

yn lle is-baragraff (b) o baragraff (2), rhodder—

b

ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw'r rhestr wastraffoedd a osodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd ac mae cyfeiriad at y Rhestr Wastraffoedd yn cynnwys cyfeiriad at ei chyflwyniad (“y Cyflwyniad i'r Rhestr”).

3

Yn rheoliad 4—

a

o flaen “H3 i H8”, mewnosoder “peryglus”;

b

hepgorer “o Atodiad III”.

4

Hepgorer paragraffau 1 a 2 o Atodlen 2.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 20055

Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 20056, ym mharagraff (1) yn lle'r diffiniad o “Strategaeth Wastraff Cymru” (“Waste Strategy for Wales”) rhodder—

  • ystyr “Strategaeth Wastraff Cymru” (“Waste Strategy for Wales”) yw'r cynllun cenedlaethol ar reoli gwastraff o fewn ystyr Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, a elwir wrth yr enw hwnnw ac a gafodd ei baratoi gan Weinidogion Cymru;

Diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 20096

Yn Atodlen 2 i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 20097, ym mharagraff 3(1), yn lle'r geiriau o “Chyfarwyddeb 2006/12/EC” hyd at y diwedd, rhodder “Chyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”.

Dirymu Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 20037

Dirymir Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 20038.

Jane DavidsonY Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru