(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn atodol i Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (“Rheoliadau Cymru a Lloegr”). Maent yn gwneud diwygiadau i nifer o offerynnau statudol Cymru at ddibenion trosi, o ran Cymru, Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3). Maent hefyd, at yr un diben, yn dirymu un offeryn statudol Cymru.

Mae asesiad llawn, o'r effaith a gaiff darpariaethau'r Rheoliadau Cymru a Lloegr a'r Rheoliadau hyn ar fusnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus, ar gael gan y Rhaglen Wastraff, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Ergon House, Horseferry Road, Llundain, SW1P 2AL.