11. Yn rheoliad 35—
(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “(3)” rhodder “(2)”;
(b)hepgorer paragraffau (1)(c) a (4);
(c)ym mharagraff (5)—
(i)yn lle “nodyn traddodi, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad”, rhodder “nodyn traddodi neu atodlen o gludwyr”,
(ii)yn lle “Atodlen 4, 5 neu 6”, rhodder “Atodlen 4 neu 5”;
(ch)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(6) Hyd at ddiwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y caiff Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011 eu gwneud—
(a)caiff cludwr ddewis defnyddio'r weithdrefn amlgasgliad a oedd yn gymwys yn union cyn i'r Rheoliadau hynny ddod i rym; a
(b)caniateir defnyddio'r ffurflenni a osodir yn y Rheoliadau hyn fel a ddeddfwyd yn wreiddiol, neu ffurflenni sy'n gofyn am yr un wybodaeth sydd yn sylweddol yn yr un fformat, yn hytrach na'r rhai a amnewidir gan Reoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 11 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)