Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 29/03/2011.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011, Paragraff 5.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
5. Yn rheoliad 5—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle'r diffiniad o “nodyn traddodi” (“consignment note”), rhodder—
“ystyr “nodyn traddodi ” (“consignment note”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw'r ffurflen ddynodi y mae'n ofynnol iddi fod gyda'r gwastraff peryglus pan drosglwyddir ef yn unol ag Erthygl 19(2) o'r Gyfarwyddeb Wastraff.”,
(ii)mewnosoder yn y man priodol—
“ystyr “gwastraff domestig” (“domestic waste”) yw gwastraff a gynhyrchir gan aelwyd;”,
(iii)yn lle'r diffiniad o “amlgasgliad” (“multiple collection”), rhodder—
“ystyr “amlgasgliad” (“multiple collection”) yw taith a wneir gan gludwr unigol sy'n bodloni'r amodau a ganlyn—
bod y cludwr yn casglu mwy nag un llwyth o wastraff peryglus yn ystod y daith;
bod pob llwyth yn cael ei gasglu o fangreoedd gwahanol;
bod pob mangre y cesglir ohoni yng Nghymru ; a
bod pob llwyth a gesglir yn cael ei gludo gan y cludwr hwnnw yn ystod y daith at yr un traddodai;”,
(iv)hepgorer diffiniad o “nodyn traddodi amlgasgliad” (“multiple collection consignment note”);
(b)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adfer” (“recovery”) yw unrhyw weithrediad a'i brif ganlyniad yw bod gwastraff yn ateb diben defnyddiol drwy ddisodli deunyddiau eraill a fyddai fel arall wedi cael eu defnyddio i gyflawni swyddogaeth benodol, neu wastraff a gaiff ei baratoi i gyflawni'r swyddogaeth honno, ar y safle neu yn yr economi ehangach (mae Atodiad II o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o weithrediadau adfer);
ystyr “brocer” (“broker”) yw ymgymeriad sy'n trefnu i adfer neu waredu gwastraff ar ran eraill, gan gynnwys broceriaid o'r fath nad ydynt yn cymryd meddiant ffisegol o'r gwastraff;
ystyr “casglu” (“collection”) yw crynhoi gwastraff, gan gynnwys sortio cychwynnol a storio cychwynnol o wastraff at ddibenion cludo gwastraff i gyfleuster trin gwastraff;
ystyr “cynhyrchydd” (“producer”) yw unrhyw un y mae ei weithgareddau yn cynhyrchu gwastraff (“y cynhyrchydd gwreiddiol”) neu unrhyw un sy'n gwneud gwaith rhagbrosesu, cymysgu neu weithrediadau eraill sy'n golygu bod newid yn natur neu yng nghyfansoddiad y gwastraff;
ystyr “deiliad” (“holder”) yw cynhyrchydd y gwastraff neu'r person sydd yn ei feddu;
ystyr “deliwr” (“dealer”) yw unrhyw ymgymeriad sy'n gweithredu yn rôl penadur er mwyn prynu ac yna gwerthu gwastraff, gan gynnwys delwyr o'r fath nad ydynt yn cymryd meddiant ffisegol o'r gwastraff;
ystyr “gwaredu” (“disposal”) yw unrhyw weithrediad nad yw'n adfer hyd yn oed os oes canlyniad eilaidd i'r gweithrediad sef adennill sylweddau neu ynni (mae Atodiad I o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o weithrediadau gwaredu);
ystyr “olew gwastraff” (“waste oil”) yw unrhyw iriad mwynol neu synthetig neu olew diwydiannol nad yw bellach yn addas at y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer yn wreiddiol, megis olew sydd wedi ei ddefnyddio a hwnnw'n olew peiriannau hylosgi ac olew gerbocs, olew iro, olew ar gyfer tyrbinau ac olew hydrolig;
ystyr “rheoli” (“management”) yw casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff, gan gynnwys goruchwylio'r gweithrediadau hynny a'r ôl-ofal am safleoedd gwaredu, a chan gynnwys camau a gymerir fel deliwr neu frocer;
ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.”;
(c)ym mharagraff (3)(c), yn lle “, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad”, rhodder “neu atodlen o gludwyr”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 5 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: