xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 1 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
2. Yn lle rheoliad 2, rhodder—
2.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff;
(b)ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth—
(i)sy'n wastraff o fewn ystyr Erthygl 3(1) o'r Gyfarwyddeb Wastraff; ac
(ii)yn ddarostyngedig i reoliad 15, nad yw wedi ei wahardd o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2(1), (2) neu (3).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gyfeiriad at yr amodau a bennir yn Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb honno, sef sicrhau yr ymgymerir â rheoli gwastraff heb beryglu iechyd dynol, heb niweidio'r amgylchedd ac, yn benodol—
(a)heb risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid;
(b)heb achosi niwsans oherwydd sŵn neu aroglau; ac
(c)heb gael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. para. 2 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
3. Yn lle rheoliad 3, rhodder—
3. Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn —
(a)at Atodiad III yn gyfeiriad at Atodiad III (priodoleddau gwastraff sy'n ei wneud yn beryglus) i'r Gyfarwyddeb Wastraff, fel y gosodir yr Atodiad hwnnw yn Atodlen 3;
(b)at briodoleddau peryglus yn gyfeiriad at y priodoleddau yn Atodiad III.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. para. 3 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
4. Yn rheoliad 4(1), yn y diffiniad o “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”), hepgorer o “, sef y rhestr” hyd at y diwedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. para. 4 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
5. Yn rheoliad 5—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle'r diffiniad o “nodyn traddodi” (“consignment note”), rhodder—
“ystyr “nodyn traddodi ” (“consignment note”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw'r ffurflen ddynodi y mae'n ofynnol iddi fod gyda'r gwastraff peryglus pan drosglwyddir ef yn unol ag Erthygl 19(2) o'r Gyfarwyddeb Wastraff.”,
(ii)mewnosoder yn y man priodol—
“ystyr “gwastraff domestig” (“domestic waste”) yw gwastraff a gynhyrchir gan aelwyd;”,
(iii)yn lle'r diffiniad o “amlgasgliad” (“multiple collection”), rhodder—
“ystyr “amlgasgliad” (“multiple collection”) yw taith a wneir gan gludwr unigol sy'n bodloni'r amodau a ganlyn—
bod y cludwr yn casglu mwy nag un llwyth o wastraff peryglus yn ystod y daith;
bod pob llwyth yn cael ei gasglu o fangreoedd gwahanol;
bod pob mangre y cesglir ohoni yng Nghymru ; a
bod pob llwyth a gesglir yn cael ei gludo gan y cludwr hwnnw yn ystod y daith at yr un traddodai;”,
(iv)hepgorer diffiniad o “nodyn traddodi amlgasgliad” (“multiple collection consignment note”);
(b)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adfer” (“recovery”) yw unrhyw weithrediad a'i brif ganlyniad yw bod gwastraff yn ateb diben defnyddiol drwy ddisodli deunyddiau eraill a fyddai fel arall wedi cael eu defnyddio i gyflawni swyddogaeth benodol, neu wastraff a gaiff ei baratoi i gyflawni'r swyddogaeth honno, ar y safle neu yn yr economi ehangach (mae Atodiad II o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o weithrediadau adfer);
ystyr “brocer” (“broker”) yw ymgymeriad sy'n trefnu i adfer neu waredu gwastraff ar ran eraill, gan gynnwys broceriaid o'r fath nad ydynt yn cymryd meddiant ffisegol o'r gwastraff;
ystyr “casglu” (“collection”) yw crynhoi gwastraff, gan gynnwys sortio cychwynnol a storio cychwynnol o wastraff at ddibenion cludo gwastraff i gyfleuster trin gwastraff;
ystyr “cynhyrchydd” (“producer”) yw unrhyw un y mae ei weithgareddau yn cynhyrchu gwastraff (“y cynhyrchydd gwreiddiol”) neu unrhyw un sy'n gwneud gwaith rhagbrosesu, cymysgu neu weithrediadau eraill sy'n golygu bod newid yn natur neu yng nghyfansoddiad y gwastraff;
ystyr “deiliad” (“holder”) yw cynhyrchydd y gwastraff neu'r person sydd yn ei feddu;
ystyr “deliwr” (“dealer”) yw unrhyw ymgymeriad sy'n gweithredu yn rôl penadur er mwyn prynu ac yna gwerthu gwastraff, gan gynnwys delwyr o'r fath nad ydynt yn cymryd meddiant ffisegol o'r gwastraff;
ystyr “gwaredu” (“disposal”) yw unrhyw weithrediad nad yw'n adfer hyd yn oed os oes canlyniad eilaidd i'r gweithrediad sef adennill sylweddau neu ynni (mae Atodiad I o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o weithrediadau gwaredu);
ystyr “olew gwastraff” (“waste oil”) yw unrhyw iriad mwynol neu synthetig neu olew diwydiannol nad yw bellach yn addas at y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer yn wreiddiol, megis olew sydd wedi ei ddefnyddio a hwnnw'n olew peiriannau hylosgi ac olew gerbocs, olew iro, olew ar gyfer tyrbinau ac olew hydrolig;
ystyr “rheoli” (“management”) yw casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff, gan gynnwys goruchwylio'r gweithrediadau hynny a'r ôl-ofal am safleoedd gwaredu, a chan gynnwys camau a gymerir fel deliwr neu frocer;
ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.”;
(c)ym mharagraff (3)(c), yn lle “, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad”, rhodder “neu atodlen o gludwyr”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. para. 5 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
6. Yn rheoliad 8(1), yn lle “Atodiadau I, II a III”, rhodder “Atodiad III”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. para. 6 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
7. Yn rheoliad 9—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle “Atodiadau I, II a III”, rhodder “Atodiad III”;
(ii)hepgorer “i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus”;
(b)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
“(1A) Nid yw'r pŵer a geir ym mharagraff (1) i benderfynu y caiff gwastraff ei drin fel gwastraff nad yw'n beryglus yn gymwys i wastraff a gafodd ei wanhau neu ei gymysgu gyda'r bwriad o leihau'r crynodiadau cychwynnol o sylweddau peryglus i lefel sy'n is na'r trothwyon ar gyfer diffinio gwastraff yn wastraff peryglus.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. para. 7 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
8. Yn rheoliad 18—
(a)ar ôl y geiriau “wedi'i”, mewnosoder “wanhau neu wedi'i”;
(b)ar ôl paragraff (a), mewnosoder—
“(aa)yn achos gwastraff peryglus sy'n wastraff olew, gwastraff olew o wahanol nodweddion;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. para. 8 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
9. Yn rheoliad 19—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “(2) a (3)”, rhodder “(2), (3) a (4)”;
(b)ym mharagraff (3), hepgorer “neu esemptiad cofrestredig” a “neu'r esemptiad hwnnw”;
(c)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Mae paragraff (1) yn gymwys ar gyfer cymysgu olew gwastraff—
(a)dim ond i'r graddau y mae'r gwaharddiad yn paragraff hwnnw yn ymarferol dechnegol ac yn ddichonadwy'n economaidd; a
(b)dim ond pan fyddai cymysgu o'r fath yn rhwystro trin yr olew gwastraff.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. para. 9 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
10. Yn rheoliad 20(1)(a), hepgorer “neu esemptiad cofrestredig”.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. para. 10 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
11. Yn rheoliad 35—
(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “(3)” rhodder “(2)”;
(b)hepgorer paragraffau (1)(c) a (4);
(c)ym mharagraff (5)—
(i)yn lle “nodyn traddodi, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad”, rhodder “nodyn traddodi neu atodlen o gludwyr”,
(ii)yn lle “Atodlen 4, 5 neu 6”, rhodder “Atodlen 4 neu 5”;
(ch)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(6) Hyd at ddiwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y caiff Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011 eu gwneud—
(a)caiff cludwr ddewis defnyddio'r weithdrefn amlgasgliad a oedd yn gymwys yn union cyn i'r Rheoliadau hynny ddod i rym; a
(b)caniateir defnyddio'r ffurflenni a osodir yn y Rheoliadau hyn fel a ddeddfwyd yn wreiddiol, neu ffurflenni sy'n gofyn am yr un wybodaeth sydd yn sylweddol yn yr un fformat, yn hytrach na'r rhai a amnewidir gan Reoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. para. 11 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
12. Yn rheoliad 36(1), yn lle “38” rhodder “39”.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. para. 12 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
13. Hepgorer rheoliad 38.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. para. 13 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
14. Yn rheoliad 42—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “rheoliadau 43 a 44” rhodder “rheoliad 43”;
(b)ym mharagraff (2), hepgorer “38(6)(b) ac (c),”.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. para. 14 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
15. Yn rheoliad 43(1), hepgorer “ac eithrio mewn achos y mae rheoliad 44 yn gymwys iddo”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. para. 15 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
16. Hepgorer rheoliad 44.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. para. 16 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
17. Yn rheoliad 47—
(a)ar ôl paragraff (5)(b), hepgorer “ac”;
(b)ym mharagraff (5)(c), ar y dechrau, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5A),”;
(c)ar ôl paragraff (5), mewnosoder—
“(5A) Os oes gan y person y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr drwydded gwastraff y gweithredir y safle'n unol â hi, y cyfnod sy'n ofynnol ar gyfer cadw nodyn traddodi yn ôl rheoliad 51(2)(a) yw—
(a)am 5 mlynedd ar ôl dyddodi'r gwastraff; neu
(b)os yw'r drwydded yn awdurdodi gwaredu'r gwastraff drwy dirlenwi, hyd nes y bydd y drwydded wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.
(5B) Ym mharagraff (5A), mae i “tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff, ond nid yw'n cynnwys unrhyw weithrediad sy'n cael ei eithrio o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 3(2).”.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. para. 17 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
18. Yn rheoliad 48—
(a)ym mharagraff (3)(c), yn lle “Atodiad IIA neu IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff”, rhodder “Atodiad I neu II o'r Gyfarwyddeb Wastraff (yn ôl y digwydd)”;
(b)ym mharagraff (6)(a), hepgorer “a”;
(c)ym mharagraff (6)(b), ar y dechrau, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (6A),”;
(ch)ar ôl paragraff (6), mewnosoder—
“(6A) Os oes gan y person y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr drwydded gwastraff y gweithredir y safle'n unol â hi, y cyfnod sy'n ofynnol ar gyfer cadw nodyn traddodi yn ôl rheoliad 51(2)(a) yw—
(a)am 5 mlynedd ar ôl gwaredu neu adfer y gwastraff; neu
(b)os yw'r drwydded yn awdurdodi gwaredu'r gwastraff drwy dirlenwi (yn ogystal a thriniaeth arall), hyd nes y bydd y drwydded wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.
(6B) Ym mharagraff (6A), mae i “tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff, ond nid yw'n cynnwys unrhyw weithrediad sy'n cael ei eithrio o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 3(2).”.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. para. 18 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
19. Yn rheoliad 49—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “traddodwr gwastraff peryglus”, rhodder “traddodwr, neu frocer neu ddeliwr mewn, gwastraff peryglus”;
(b)yn lle paragraff (3), rhodder—
“(3) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan baragraff (1) ei gadw—
(a)tra bo'r person yn ddeiliad y gwastraff neu (os nad yw'n ddeiliad) tra bo ganddo reolaeth o'r gwastraff; a
(b)am 3 blynedd ar ôl y dyddiad y trosglwyddir y gwastraff i berson arall.”;
(c)ym mharagraff (4)—
(i) ar ôl “deiliad”, mewnosoder “, deliwr, brocer”;
(ii)ar ôl “chofnodi”, mewnosoder “yn gronolegol”;
(ch)ym mharagraff (5)—
(i)ar ôl y tro cyntaf mae “deiliad” yn ymddangos, mewnosoder “, deliwr, brocer”,
(ii)yn is-baragraff (b), o flaen “draddodwr”, mewnosoder “ddeliwr, brocer neu”.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. para. 19 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
20. Yn rheoliad 50(3), ar ôl “chofnodi”, mewnosoder “yn gronolegol”.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. para. 20 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
21. Yn rheoliad 51(2)(a)—
(a)hepgorer “nodiadau amldraddodi a phan” ac yn ei le rhodder “, pan”;
(b)hepgorer “neu 44”.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. para. 21 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
22. Yn rheoliadau 52(1) a 55(3), yn lle “Atodiad IIA neu Atodiad IIB”, rhodder “Atodiad I neu Atodiad II”.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. para. 22 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
23. Hepgorer rheoliad 57.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. para. 23 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
24. Yn rheoliad 60—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 5”, rhodder “Erthygl 16”;
(b)hepgorer paragraff (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. para. 24 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
25. Yn rheoliad 65(c), yn lle “44” rhodder “43”.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. para. 25 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
26. Yn y tabl yn rheoliad 65A(1), hepgorer y rhes sy'n dechrau “rheoliad 44”.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. para. 26 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
27. Yn rheoliad 69(1)(d), yn lle “44” rhodder “43”.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. para. 27 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
28. Hepgorer Atodlenni 1, 2 a 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. para. 28 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
29. Yn lle Atodlen 3, rhodder yr Atodlen a osodir yn Rhan 2.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. para. 29 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
30. Yn lle Atodlen 4, rhodder yr Atodlen a osodir yn Rhan 3.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. para. 30 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
31. Ym mharagraff 4(3)(a) o Atodlen 7, yn lle “43 neu 44” rhodder “36 neu 43”.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. para. 31 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
32. Ym mharagraff 1 o Atodlen 7, yn lle “pharagraff 7” rhodder “pharagraff 6”.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. para. 32 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
33. Ym mharagraff 6 o Atodlen 7—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “rheoliad 38(1)”, rhodder “y diffiniad o “amlgasgliad” (“multiple collection”) yn rheoliad 5(1)”;
(b)ym mharagraff (2), hepgorer yr holl eiriau ar ôl “y Rheoliadau hyn”;
(c)hepgorer paragraff (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. para. 33 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
34. Yn Atodlen 11, hepgorer paragraffau 5 i 8 a 11 i 25.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. para. 34 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
O.S. 2005/1806 (Cy.138) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/937, 2007/3538, 2009/2861 (Cy.250) a 2010/675.