2011 Rhif 985 (Cy.142)
Rheoliadau'r Rhaglen Mesur Plant (Cymru) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt yn adrannau 12, 13, 203 a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 7B o Atodlen 1 iddi1, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhaglen Mesur Plant (Cymru) 2011.
2
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw'r flwyddyn ysgol pan fo mwyafrif y plant ynddi naill ai'n 8 neu'n 9 mlwydd oed;
ystyr “blwyddyn dderbyn” (“reception year”) yw'r flwyddyn ysgol pan fo mwyafrif y plant ynddi naill ai'n 4 neu'n 5 mlwydd oed;
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr ag sydd i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “clorian” (“scales”) yw dyfais electronig y mae person yn sefyll arni i gael ei bwyso;
mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag sydd i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “mesurydd taldra” (“height measure”) yw stadiomedr y mae person yn sefyll arno i gael ei fesur â mesurydd fertigol a rhoden neu badell lithro lorweddol;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw (i) rhiant y plentyn perthnasol, (ii) person a awdurdodir drwy ysgrifen gan riant y plentyn perthnasol, neu (iii) person y mae'r plentyn perthnasol yn dymuno iddo fynd yn gwmni iddo;
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw (i) proffesiynolyn iechyd perthnasol pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau gydag awdurdodau lleol a pherchnogion ysgolion nas cynhelir gan awdurdod lleol, ac (ii) ym mhob achos arall, proffesiynolyn iechyd perthnasol neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;
ystyr “plentyn perthnasol” (“relevant child”) yw plentyn yn y flwyddyn dderbyn neu ym mlwyddyn 4;
ystyr “proffesiynolyn iechyd perthnasol”(“relevant health professional”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig, nyrs gofrestredig, neu fydwraig gofrestredig;
mae “prosesu” a “proseswyd” i'w dehongli yn unol ag ystyr “processing” yn adran 1(1) o Ddeddf Diogelu Data 1998;
ystyr “Rhaglen Mesur Plant Cymru” (“the Child Measurement Programme for Wales”) yw'r rhaglen flynyddol y caiff plant perthnasol eu pwyso a'u mesur oddi tani mewn ysgolion;
mae “rhiant” (“parent”), mewn cysylltiad â phlentyn perthnasol, yn cynnwys unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu ofal, dros y plentyn, ac wrth benderfynu a oes gan berson ofal dros y plentyn, diystyrir unrhyw absenoldeb y plentyn mewn ysbyty neu ysgol breswyl ac unrhyw absenoldeb dros dro arall.
Casglu gwybodaeth am daldra a phwysau gan Fyrddau Iechyd Lleol a'i phrosesu ymhellach3
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) ac i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru, mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan baragraff 7A(1) a (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf, i wneud trefniadau gydag awdurdodau lleol2 a pherchnogion ysgolion nas cynhelir gan awdurdod lleol i bwyso a mesur plant mewn ysgolion, i fod yn arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol mewn cysylltiad ag ysgolion sy'n bodoli yn eu hardal.
2
Caiff pob Bwrdd Iechyd Lleol, yn ôl y ddarpariaeth o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 7A(1) neu (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf, bwyso a mesur plant a phrosesu ymhellach yr wybodaeth sy'n deillio o hynny at ddibenion Rhaglen Mesur Plant Cymru os yw'r amodau a osodir yn rheoliad 5 wedi'u bodloni.
3
Caniateir i'r swyddogaethau ym mharagraffau 7A(1) a (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf sy'n arferadwy gan Fwrdd Iechyd Lleol gael eu harfer, drwy drefniant â'r bwrdd hwnnw ac yn ddarostyngedig i'r fath gyfyngiadau ac amodau ag y gwêl y bwrdd hwnnw'n dda, gan Fwrdd Iechyd Lleol arall.
Casglu gwybodaeth am daldra a phwysau gan Weinidogion Cymru a'i phrosesu ymhellach4
Caiff Gweinidogion Cymru yn ôl y ddarpariaeth o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 7A(1) neu (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf, bwyso a mesur plant a phrosesu ymhellach yr wybodaeth sy'n deillio o hynny at ddibenion Rhaglen Mesur Plant Cymru os yw'r amodau a osodir yn rheoliad 5 wedi'u bodloni.
Amodau5
1
Yr amodau at ddibenion rheoliad 3(2) a 4 yw–
a
bod y plentyn sydd i gael ei bwyso a'i fesur yn blentyn perthnasol sy'n abl i sefyll, ac yn fodlon sefyll, heb gynhorthwy ar glorian ac oddi tan fesurydd taldra;
b
nad yw rhiant i'r plentyn perthnasol wedi tynnu'r plentyn yn ôl o gymryd rhan yn yr ymarfer pwyso a mesur;
c
bod yr ymarfer pwyso a mesur yn cael ei gynnal mewn ystafell neu fan wedi'i amgylchynu â gwahanlen lle mae'r wybodaeth am y mesuriadau yn ddiogel ac na all unrhyw un nad yw'n cynorthwyo i gynnal yr ymarfer neu'n ei oruchwylio ei gweld na'i chlywed; ac
ch
bod y trefniadau yn cael eu rheoli gan berson perthnasol.
2
At ddibenion rheoliad 5(1)(c) bernir bod person awdurdodedig sy'n mynd yn gwmni i'r plentyn perthnasol yn 'cynorthwyo' i gynnal yr ymarfer.
Cyfranogiad rhieni6
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru, wrth gynnal ymarfer pwyso a mesur at ddibenion Rhaglen Mesur Plant Cymru o dan drefniadau a wnaed o dan baragraff 7A(1) neu (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf, gymryd camau i roi i bob rhiant i blentyn perthnasol y mae'r cyfryw ymarfer yn ymwneud ag ef gyfle rhesymol i dynnu ei blentyn yn ôl o gymryd rhan yn yr ymarfer.
Dibenion ychwanegol y caniateir prosesu gwybodaeth ar eu cyfer7
1
Caniateir prosesu ymhellach wybodaeth a gesglir yn unol â'r Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan neu gan Fwrdd Iechyd Lleol neu ar ei ran gyda golwg ar —
a
ei rhyddhau, ynghyd â deunydd cynghorol ynghylch pwysau plant, i riant plentyn perthnasol y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef;
b
rhoi cyngor i riant plentyn perthnasol ynghylch gwybodaeth o'r fath;
c
rhyddhau'r wybodaeth i broffesiynolyn iechyd perthnasol i'w defnyddio yn unol ag arferion da i ddarparu gofal a thriniaeth i blentyn penodol;
ch
rhyddhau'r wybodaeth, ar ffurf nad yw'n caniatáu i'r plentyn gael ei adnabod, i'w defnyddio yn unol ag arferion da ar gyfer gwaith cadw golwg, ymchwilio, monitro neu archwilio ac ar gyfer cynllunio gwasanaethau iechyd.
2
Caniateir rhyddhau gwybodaeth a gesglir ac a brosesir ymhellach yn unol â'r Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan i Fwrdd Iechyd Lleol gyda golwg ar —
a
ei rhyddhau, ynghyd â deunydd cynghorol ynghylch pwysau plant i riant plentyn perthnasol y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef;
b
rhoi cyngor i riant plentyn perthnasol ynghylch gwybodaeth o'r fath;
c
rhyddhau'r wybodaeth i broffesiynolyn iechyd perthnasol i'w defnyddio yn unol ag arferion da i ddarparu gofal a thriniaeth i blentyn penodol;
ch
rhyddhau'r wybodaeth, ar ffurf nad yw'n caniatáu i'r plentyn gael ei adnabod, i'w defnyddio yn unol ag arferion da ar gyfer gwaith cadw golwg, ymchwilio, monitro neu archwilio ac ar gyfer cynllunio gwasanaethau iechyd.
Canllawiau8
Rhaid i unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag unrhyw bwyso neu fesur y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo neu mewn cysylltiad â gwybodaeth sy'n deillio o bwyso a mesur o'r fath roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)