2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw'r flwyddyn ysgol pan fo mwyafrif y plant ynddi naill ai'n 8 neu'n 9 mlwydd oed;
ystyr “blwyddyn dderbyn” (“reception year”) yw'r flwyddyn ysgol pan fo mwyafrif y plant ynddi naill ai'n 4 neu'n 5 mlwydd oed;
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr ag sydd i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “clorian” (“scales”) yw dyfais electronig y mae person yn sefyll arni i gael ei bwyso;
mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag sydd i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “mesurydd taldra” (“height measure”) yw stadiomedr y mae person yn sefyll arno i gael ei fesur â mesurydd fertigol a rhoden neu badell lithro lorweddol;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw (i) rhiant y plentyn perthnasol, (ii) person a awdurdodir drwy ysgrifen gan riant y plentyn perthnasol, neu (iii) person y mae'r plentyn perthnasol yn dymuno iddo fynd yn gwmni iddo;
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw (i) proffesiynolyn iechyd perthnasol pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau gydag awdurdodau lleol a pherchnogion ysgolion nas cynhelir gan awdurdod lleol, ac (ii) ym mhob achos arall, proffesiynolyn iechyd perthnasol neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;
ystyr “plentyn perthnasol” (“relevant child”) yw plentyn yn y flwyddyn dderbyn neu ym mlwyddyn 4;
ystyr “proffesiynolyn iechyd perthnasol”(“relevant health professional”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig, nyrs gofrestredig, neu fydwraig gofrestredig;
mae “prosesu” a “proseswyd” i'w dehongli yn unol ag ystyr “processing” yn adran 1(1) o Ddeddf Diogelu Data 1998;
ystyr “Rhaglen Mesur Plant Cymru” (“the Child Measurement Programme for Wales”) yw'r rhaglen flynyddol y caiff plant perthnasol eu pwyso a'u mesur oddi tani mewn ysgolion;
mae “rhiant” (“parent”), mewn cysylltiad â phlentyn perthnasol, yn cynnwys unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu ofal, dros y plentyn, ac wrth benderfynu a oes gan berson ofal dros y plentyn, diystyrir unrhyw absenoldeb y plentyn mewn ysbyty neu ysgol breswyl ac unrhyw absenoldeb dros dro arall.