Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

9.—(1Pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd hwnnw wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod, ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu mewn unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd, a bydd yn agored i'w erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei fusnes gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.