xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed
29 Ebrill 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mai 2012
Yn dod i rym
4 Mehefin 2012
Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 74, 84 a 89 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1), a pharagraffau 8(1) o Atodlen 8 a 3(1) o Atodlen 10 i'r Ddeddf honno. Mae'r pwerau hyn bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru(2).
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn perthynas â'r cyfan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, ac yn unol â hynny Gweinidogion Cymru yw'r 'appropriate national authority' o ran Cymru o dan adran 92(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.