- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2012.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o'r pwyllgor fel a nodir yn rheoliad 5;
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11(2) o'r Ddeddf(1);
ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig; Awdurdod Iechyd Strategol; Bwrdd Iechyd Lleol; Ymddiriedolaeth GIG; Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;
ystyr “cydwasanaethau” (“shared services”) yw gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol a thechnegol a ddarperir i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru;
ystyr “cyfarwyddwr gweithredol” (“executive director”) yw, yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3 i'r Ddeddf, cyfarwyddwr sy'n gyflogai i'r Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
ystyr “cynrychiolydd enwebedig” (“nominated representative”) yw, mewn perthynas â phrif swyddog Bwrdd Iechyd Lleol, swyddog-aelod o'i Fwrdd Iechyd Lleol ac, mewn perthynas â phrif swyddog Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, cyfarwyddwr gweithredol o'i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “prif swyddogion” (“chief officers”) yw prif swyddog pob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
ystyr “y pwyllgor” (“the committee”) yw Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre a sefydlwyd gan y Rheoliadau hyn;
ystyr “swyddog-aelod” (“officer member”) yw aelod o Fwrdd Iechyd Lleol sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009;
ystyr “Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd yn unol ag adran 18(1) o'r Ddeddf(2);
ystyr “Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre” (“Velindre National Health Service Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993(3).
Sefydlwyd Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148 (Cy.18)). Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/778 (Cy.66)).
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn unol â phwerau yn adran 5(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p. 19). Yn sgil cydgrynhoi'r awdurdod galluogi, mae eu Gorchmynion Sefydlu bellach yn cael effaith fel petaent wedi eu gwneud o dan adran 18 o'r Ddeddf. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unol ag adran 18(1) o'r Ddeddf.
O.S. 1993/2838, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/2059 (Cy.178) ac O.S. 2012/1262 (Cy.157).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: