YR ATODLENGOFYNION CYMHWYSTRA

Rheoliad 7(1)

Gofynion cymhwystra i aelodau

Gofynion cyffredinol1

1

Mae'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra personau i'w penodi yn aelodau o'r pwyllgor.

2

Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), nid yw person yn gymwys i gael ei benodi'n aelod o'r pwyllgor os yw'r person hwnnw—

a

wedi ei gollfarnu yn ystod y pum mlynedd blaenorol yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw drosedd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw'n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod o ddim llai na thri mis heb y dewis o dalu dirwy;

b

yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr;

c

wedi ei ddiswyddo, heblaw oherwydd bod y swydd wedi ei dileu, o unrhyw gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd; neu

d

wedi cael terfynu ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr o gorff gwasanaeth iechyd, heblaw oherwydd bod y swydd wedi ei dileu, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu oherwydd i gyfnod y swydd y penodwyd y person iddi ddod i ben.

3

At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu fydd y dyddiad y mae'r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwnaed apêl neu gais o'r fath, y dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais neu'r dyddiad pan roddir y gorau iddynt neu os metha oherwydd na chaiff yr apêl ei herlyn neu'r cais ei erlyn.

4

At ddibenion paragraff (2)(c), ni fernir bod person wedi bod mewn cyflogaeth am dâl yn unig oherwydd iddo ddal swydd aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.

5

Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(b)—

a

os dirymir methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod ar ddyddiad y dirymiad;

b

os caiff person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod ar ddyddiad y rhyddhau;

c

os telir dyledion person yn llawn ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod ar y dyddiad y talwyd y dyledion hynny'n llawn; a

d

os bydd person wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod pan ddaw pum mlynedd i ben o'r dyddiad pan gyflawnwyd telerau'r weithred gompowndio neu drefniant.

6

Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(c), caiff y person hwnnw, wedi i ddwy flynedd ar ôl dyddiad y diswyddo ddod i ben, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo y bydd yr anghymhwystra hwnnw yn dod i ben.

7

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach hyd nes i ddwy flynedd ddod i ben gan ddechrau â dyddiad y cais, a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.

8

Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(d), daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi yn aelod pan fydd dwy flynedd o ddyddiad terfyniad yr aelodaeth yn dod i ben neu'r cyfnod hirach y caiff y corff a derfynodd yr aelodaeth ei bennu, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt yn ysgrifenedig gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymwystra.