RHAN 1 —CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 1 Hydref 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i'r ymadrodd “asesiad iechyd meddwl sylfaenol” (“primary mental health assessment”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 51(1) o'r Mesur;

ystyr “cynllun” (“scheme”) yw cynllun y mae'n rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno arno yn unol ag adran 2 o'r Mesur;

mae i'r ymadrodd “darparydd gofal sylfaenol” (“primary care provider”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 51(1) o'r Mesur;

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1);

mae i'r ymadrodd “gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol” (“local primary mental health support services”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 5 o'r Mesur;

ystyr “gwasanaethau meddygol sylfaenol” (“primary medical services”) yw—

(a)

gwasanaethau meddygol a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf 2006 p'un ai gan—

(i)

contractiwr y gwnaeth Bwrdd Iechyd Lleol gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol ag ef o dan adran 42 o'r Ddeddf honno;

(ii)

person y gwnaeth Bwrdd Iechyd Lleol drefniadau ag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno;

(iii)

ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir at ddibenion adran 41(2)(a) o'r Ddeddf honno gan Fwrdd Iechyd Lleol; neu

(iv)

ymarferydd meddygol cofrestredig y gwnaeth Bwrdd Iechyd Lleol drefniadau ag ef o dan adran 41(2)(b) o'r Ddeddf honno; neu

(b)

gwasanaethau meddygol a ddarperir gan—

(i)

ymarferydd meddygol cofrestredig o dan drefniadau a wnaed rhwng ymarferydd meddygol cofrestredig a pherson sy'n gyfrifol am ddarparu neu redeg carchar sydd wedi ei gontractio allan (o fewn ystyr adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991(2)) yng Nghymru; neu

(ii)

ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir gan Wasanaeth Carchardai ei Mawrhydi yng Nghymru;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010(3);

ystyr “partner iechyd meddwl lleol perthnasol” (“relevant local mental health partner”) yw'r partner iechyd meddwl lleol sy'n gyfrifol am ddarparu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o dan y Cynllun y cytunwyd arno o dan adran 2 o'r Mesur. Os na chytunir ar Gynllun o dan adran 2 o'r Mesur, y partner iechyd meddwl lleol perthnasol yw'r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer yr ardal awdurdod lleol o dan sylw;

mae i'r ymadrodd “partneriaid iechyd meddwl lleol” (“local mental health partners”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 1 o'r Mesur.

RHAN 2 —ATGYFEIRIADAU GOFAL SYLFAENOL

Personau y caniateir i ddarparydd gofal sylfaenol eu hatgyfeirio i wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol

3.—(1Yn ddarostyngedig i adran 8(1) o'r Mesur(4), caiff darparydd gofal sylfaenol atgyfeirio unrhyw berson—

(a)sydd â'r hawl i dderbyn gwasanaethau meddygol sylfaenol, a

(b)yr ymddengys fod angen asesiad iechyd meddwl sylfaenol arno,

i gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol.

(2Yn unol ag adran 7(5) o'r Mesur, rhaid i'r darparydd gofal sylfaenol, os yw'n penderfynu gwneud atgyfeiriad ar gyfer asesiad iechyd meddwl sylfaenol, wneud atgyfeiriad o'r fath i'r partner iechyd meddwl lleol ar gyfer yr ardal awdurdod lleol lle y mae'r darparydd gofal sylfaenol yn cynnal y rhan fwyaf o'i fusnes neu ei weithgareddau.

RHAN 3 —GOFYNION CYMHWYSTRA AR GYFER PERSONAU Y CANIATEIR IDDYNT GYNNAL ASESIADAU IECHYD MEDDWL SYLFAENOL

Gofynion cymhwystra ar gyfer personau y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol

4.—(1Mae person yn gymwys i gyflawni swyddogaethau partner iechyd meddwl lleol i gynnal asesiad iechyd meddwl sylfaenol os yw'r person hwnnw—

(a)yn bodloni un neu fwy o'r gofynion proffesiynol yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn; a

(b)wedi dangos er boddhad y partner iechyd meddwl lleol perthnasol fod ganddo brofiad, sgiliau neu hyfforddiant priodol, neu gyfuniad priodol o brofiad, sgiliau a hyfforddiant.

(2Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (1)(b) rhaid rhoi sylw i'r safonau mewn unrhyw Godau Ymarfer a ddyroddwyd o dan adran 44 (codau ymarfer) o'r Mesur, ac unrhyw ganllawiau a ddyroddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Mai 2012