xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1553 (Cy.206) (C.58)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2012

Gwnaed

16 Mehefin 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 44(3), (5) a (10)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2012.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.

Y diwrnod penodedig

2.  19 Mehefin 2012 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym o ran Cymru—

(a)adran 22 (cymorth i ganlyn addysg neu hyfforddiant) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym(2),

(b)adran 23 (estyn yr hawl i gael cynghorydd personol ac i gael cymorth mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym(3),

(c)adran 24 (estyn y pŵer i wneud taliadau mewn arian parod),

(d)adran 25 (seibiannau oddi wrth ofalu am blant anabl) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym(4), ac

(e)adran 42 ac Atodlen 4 (diddymu) i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu darpariaethau canlynol Deddf 1989(5)

(i)y geiriau “in exceptional circumstances” yn adran 17(6),

(ii)is-adrannau (4) i (7) o adran 23B, a

(iii)yn Atodlen 2, ym mharagraff 6(1), y gair “and” yn union cyn paragraff (b).

Darpariaeth drosiannol

3.  Er bod adran 22 o'r Ddeddf yn dod i rym yn unol ag erthygl 2(a), nid yw adran 23CA(1) o Ddeddf 1989 yn gymwys ond pan fo'r hysbysiad y cyfeirir ato yn adran 23CA(1)(c) yn cael ei roi ar neu ar ôl 19 Mehefin 2012.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

16 Mehefin 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r seithfed Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) (“y Ddeddf”) sy'n dod â darpariaethau penodedig yn y Ddeddf i rym o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai 19 Mehefin 2012 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau yn y Ddeddf a restrir isod ddod i rym o ran Cymru:

(i)adrannau 22 a 23 o'r Ddeddf (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym);

(ii)adran 24;

(iii)adran 25 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym); a

(iv)adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â'r diddymiadau a bennir yn yr Atodlen honno mewn perthynas ag adrannau 17(6) a 23B o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) ac Atodlen 2 (yn rhannol) iddi.

Mae adran 22 o'r Ddeddf (cymorth i ganlyn addysg neu hyfforddiant) yn diwygio adran 23B o Ddeddf 1989; mae'n mewnosod adran newydd (adran 23CA) yn Neddf 1989 ac yn mewnosod is-adrannau (1A) i (1E) yn adran 23E o'r Ddeddf honno. Mae'r diwygiadau'n estyn dyletswydd awdurdod lleol i benodi cynghorydd personol ac i adolygu'r cynllun llwybr yn gyson ar gyfer person ifanc sy'n gyn blentyn perthnasol (hynny yw, person sy'n gadael gofal ac sydd dros 18 oed) ac mewn cysylltiad â pherson o'r fath.

Mae adran 23 o'r Ddeddf (estyn yr hawl i gael cynghorydd personol ac i gael cymorth mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant) yn diwygio adrannau 23D(1) a 24B o Ddeddf 1989. Effaith y diwygiadau hyn yw, yn y lle cyntaf, estyn terfyn uchaf yr ystod oedran y mae adran 23D(1) yn gymwys iddo fel y bydd y rheoliadau a wneir o dan yr adran honno yn gallu ei gwneud yn ofynnol penodi cynghorydd personol ar gyfer pobl ifanc gymwys sydd o dan 25 oed; yn ail, estyn terfyn uchaf yr ystod oedran, y mae pwerau awdurdod lleol yn adran 24B o Ddeddf 1989 (darparu cymorth mewn cysylltiad â chyflogaeth, addysg a hyfforddiant) yn gymwys iddo, i 25 oed.

Mae adran 24 yn diwygio adran 17(6) o Ddeddf 1989. Mae'n estyn pŵer awdurdod lleol i wneud taliadau arian parod i blant mewn angen a'u teuluoedd (drwy ddileu'r geiriau “in exceptional circumstances” o adran 17(6)).

Mae adran 25 yn diwygio paragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989. Mae hyn yn ychwanegu'r ddarpariaeth o seibiannau byr i'r rhai sy'n gofalu am blant anabl, a gwasanaethau i helpu teuluoedd i gadw mewn cysylltiad â phlant sy'n cael llety o dan ddeddfwriaeth iechyd neu addysg, at yr ystod o wasanaethau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu darparu ar gyfer plentyn anabl a'i deulu. Mae dyletswydd yr awdurdod lleol yn y paragraff 6 diwygiedig yn Atodlen 2 i'w chyflawni yn unol â'r rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Mae'r diddymiadau sy'n cael eu cychwyn yn unol ag erthygl 2(e) yn ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1989 drwy gychwyn y darpariaethau yn y Ddeddf y cyfeirir atynt yn erthyglau 2(a) i (d).

Mae erthygl 3 yn darparu nad yw adran 23CA(1) o Ddeddf 1989 (cymorth pellach i ganlyn addysg neu hyfforddiant) (a fewnosodir drwy gychwyn adran 22 o'r Ddeddf yn llawn) yn cael effaith ond mewn perthynas â pherson sy'n dod o fewn yr is-adran honno os yw'n hysbysu'r awdurdod lleol perthnasol ar neu ar ôl 19 Mehefin 2012 ei fod yn canlyn rhaglen o addysg neu hyfforddiant neu'n dymuno canlyn rhaglen o'r fath.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynO.S. Rhif
Adran 8(1) (yn rhannol26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 8(2) (yn rhannol) a pharagraff 4 o Atodlen 126 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 8(3) ac Atodlen 231 Mawrth 20102010/749 (Cy.77) (C.51)
Adran 10(1) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 15 (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 15 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)28 Mawrth 20112011/949 (Cy.135) (C.37)
Adran 16(1) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 1928 Mawrth 20112011/949 (Cy.135) (C.37)
Adran 20(3)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 20 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Medi 20112011/949 (Cy.135) (C.37)
Adran 21(2) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 21 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)18 Mawrth 20112011/824 (Cy.123) (C.32)
Adran 22(3) a (5) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 23(1)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 25(4) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 2726 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 2826 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 29 (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 29 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)28 Mawrth 20112011/949 (Cy.135) (C.37)
Adran 306 Ebrill 20092009/728 (Cy.64) (C.47)
Adran 3326 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 3431 Mawrth 20102010/749 (Cy.77) (C.51)
Adran 356 Ebrill 20092009/728 (Cy.64) (C.47)
Adran 361 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 371 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 381 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf 19896 Ebrill 20092009/728 (Cy.64) (C.47)
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) a diddymu'n rhannol adran 91(10) o Ddeddf 19891 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu'n rhannol adran 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200231 Mawrth 20102010/749 (Cy.77) (C.51)
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu'n rhannol adran 104 o Ddeddf 1989 a diddymu'n rhannol adran 21 o Ddeddf Safonau Gofal 200028 Mawrth 20112011/949 (Cy.135) (C.37)

Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynO.S. Rhif
Adran 171 Ebrill 20112010/2981 (C.131)
Adran 18 (yn rhannol)1 Ionawr 20102009/3354 (C.154)
Adran 18 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Ebrill 20112010/2981 (C.131)
Adran 311 Ebrill 20092009/268 (C.11)
Adran 321 Ebrill 20092009/268 (C.11)

Mae darpariaethau amrywiol yn y Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr drwy'r Gorchmynion Cychwyn canlynol a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Gweler hefyd adran 44(1) a (2) o'r Ddeddf am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 13 Tachwedd 2008 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

Gweler hefyd adran 44(9) o'r Ddeddf am y ddarpariaeth a ddaw i rym ar yr un diwrnod ag y daw adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p.16) i rym at ddiben mewnosod adran 17B yn Neddf 1989 o ran Cymru.

(1)

2008 p.23 (“y Ddeddf”).

(2)

Cychwynnwyd adran 22 yn rhannol gan erthygl 2(f) o Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1329 (Cy.112) (C.81)) (“Gorchymyn Cychwyn Rhif 4”).

(3)

Cychwynnwyd adran 23 yn rhannol gan erthygl 2(ff) o Orchymyn Cychwyn Rhif 4.

(4)

Cychwynnwyd adran 25 yn rhannol gan erthygl 2(g) o Orchymyn Cychwyn Rhif 4.

(5)

Yn rhinwedd adran 41 o'r Ddeddf, ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989 (p.41).