13. Rhaid i glerc y corff llywodraethu cysgodol:
(a)mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu cysgodol a sicrhau bod cofnodion o'r trafodion yn cael eu gwneud a'u llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y corff llywodraethu cysgodol) gan gadeirydd y cyfarfod; a
(b)cyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a benderfynir gan y corff llywodraethu cysgodol o bryd i'w gilydd.