Search Legislation

Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1674 (Cy.215)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012

Gwnaed

26 Mehefin 2012

Yn dod i rym

28 Mehefin 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 6(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989(1).

Y rhain yw'r rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan baragraff 6(2) o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, sy'n rhagnodi, at ddibenion paragraff 6(1)(c) o Atodlen 2, sut y mae'r ddyletswydd i'w harfer.

Yn unol ag adran 104A(3)(2) o'r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mehefin 2012.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “anabl” yr ystyr a roddir i “disabled” yn adran 17(11) o Ddeddf 1989(3);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989; ac

ystyr “gofalwr” (“carer”) yw person sy'n darparu gofal ar gyfer plentyn anabl ac sy'n—

(a)

rhiant i'r plentyn, neu

(b)

yn berson nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant(4) am y plentyn hwnnw.

Dyletswydd i wneud darpariaeth

3.  Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff 6(1)(c) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989(5), rhaid i awdurdod lleol roi sylw i anghenion y gofalwyr hynny—

(a)na allent barhau i ddarparu gofal ar gyfer y plentyn anabl oni bai bod seibiannau oddi wrth ofalu yn cael eu rhoi iddynt; a

(b)a allai ddarparu gofal ar gyfer y plentyn anabl yn fwy effeithiol pe bai seibiannau oddi wrth ofalu yn cael eu rhoi iddynt er mwyn caniatáu iddynt—

(i)ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu unrhyw weithgaredd hamdden rheolaidd,

(ii)diwallu anghenion plant eraill yn y teulu yn fwy effeithiol, neu

(iii)cyflawni tasgau o ddydd i ddydd y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni er mwyn rhedeg eu haelwyd.

Mathau o wasanaethau y mae'n rhaid eu darparu

4.—(1Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff 6(1)(c) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989, rhaid i awdurdod lleol ddarparu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, ystod o wasanaethau sy'n ddigonol i gynorthwyo gofalwyr i barhau i ddarparu gofal neu i wneud hynny yn fwy effeithiol.

(2Rhaid i'r ddarpariaeth y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei darparu yn unol â pharagraff (1) gynnwys, fel y bo'n briodol, ystod o'r canlynol—

(a)gofal yn ystod y dydd yng nghartrefi plant anabl neu rywle arall,

(b)gofal dros nos yng nghartrefi plant anabl neu rywle arall,

(c)gweithgareddau addysgol neu weithgareddau hamdden ar gyfer plant anabl y tu allan i'w cartrefi, a

(d)gwasanaethau sydd ar gael i gynorthwyo gofalwyr gyda'r nos, ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau ysgol.

5.—(1Rhaid i awdurdod lleol, erbyn 27 Medi 2012, baratoi datganiad ar gyfer gofalwyr yn ei ardal (“datganiad gwasanaethau seibiannau byr”) sy'n nodi manylion ynghylch—

(a)yr ystod o wasanaethau a ddarperir yn unol â rheoliad 4,

(b)unrhyw feini prawf a ddefnyddir i asesu cymhwysedd ar gyfer y gwasanaethau hynny, a

(c)sut y mae'r ystod o wasanaethau wedi ei chynllunio i ddiwallu anghenion gofalwyr yn ei ardal.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi ei ddatganiad gwasanaethau seibiannau byr, gan roi copi ohono ar ei wefan.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol adolygu ei ddatganiad gwasanaethau seibiannau byr yn gyson, a'i ddiwygio pan fo'n briodol.

(4Wrth baratoi a diwygio ei ddatganiad gwasanaethau seibiannau byr, rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i farn gofalwyr yn ei ardal.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

26 Mehefin 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Y Rheoliadau hyn yw'r rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o ran Cymru o dan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989, sy'n gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol, fel rhan o'r ystod o wasanaethau y maent yn eu darparu i deuluoedd, i ddarparu seibiannau oddi wrth ofalu i gynorthwyo rhieni ac eraill sy'n darparu gofal ar gyfer plant anabl.

Mewnosodwyd is-baragraffau (1)(c) a (2) o baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (adran 25).

Mae'r Rheoliadau, a ddaw i rym ar 28 Mehefin 2012, yn rhagnodi'r modd y mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud darpariaeth ar gyfer seibiannau byr i ofalwyr plant anabl yn eu hardal hwy. Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i—

(a)anghenion y gofalwyr hynny a allai ddarparu gofal yn fwy effeithiol pe byddent yn cael seibiannau oddi wrth ofalu, a

(b)anghenion y gofalwyr hynny na allent barhau i ddarparu gofal oni bai bod seibiant yn cael ei gynnig iddynt (rheoliad 3).

Maent yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu ystod o wasanaethau seibiannau byr (rheoliad 4), ac i awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â gofalwyr yn eu hardal, baratoi, cyhoeddi ac adolygu'n gyson “ddatganiad gwasanaethau seibiannau byr” sy'n nodi pa wasanaethau sydd ar gael, y categorïau o ofalwr a allai fod yn gymwys i'w defnyddio, a sut y maent wedi eu cynllunio i ddiwallu anghenion gofalwyr yn yr ardal (rheoliad 5).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1989 p.41. Mewnosodwyd paragraff 6(2) gan adran 25 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) (“Deddf 2008”). Mynegir bod y pŵer ym mharagraff 6(2) yn arferadwy gan yr “appropriate national authority”. Diffinnir “appropriate national authority” gan adran 30A o Ddeddf Plant 1989 i olygu, o ran Cymru, Weinidogion Cymru. Mewnosodwyd adran 30A gan adran 39 o Ddeddf 2008 a pharagraffau 1 a 22 o Atodlen 3 iddi.

(2)

Mewnosodwyd adran 104A(3) gan adran 39 o Ddeddf 2008 a pharagraffau 1 a 26 o Atodlen 3 iddi.

(3)

Sef bod plentyn yn anabl “if he is blind, deaf or dumb or suffers from mental disorder of any kind or is substantially and permanently handicapped by illness, injury or congenital deformity or such other disability as may be prescribed”.

(4)

Diffinnir “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p.41).

(5)

Mae paragraff 6(1)(c) (a fewnosodwyd gan adran 25 o Ddeddf 2008) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau sydd wedi eu cynllunio i gynorthwyo unigolion sy'n darparu gofal ar gyfer plant anabl i barhau i wneud hynny, neu i wneud hynny yn fwy effeithiol, drwy roi seibiannau oddi wrth ofalu iddynt.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources