YR ATODLENDarpariaethau pellach am y Corff

Deiliadaeth swydd

8.

(1)

Bydd person yn peidio â bod yn ddirprwy gadeirydd pan fydd yn peidio â bod yn aelod.

(2)

Bydd person yn peidio â bod yn aelod anweithredol pan fydd yn dod yn gyflogai i'r Corff.

(3)

Bydd person yn peidio â bod yn aelod gweithredol pan fydd yn peidio â bod yn gyflogai i'r Corff.