Deiliadaeth swydd
9.—(1) Caniateir i berson sy'n peidio â bod yn aelod, ac aelod sy'n peidio â bod yn ddirprwy gadeirydd, gael eu hailbenodi i'r swyddi hynny.
(2) Ond ni chaniateir i berson sydd wedi ei ddiswyddo ar sail camymddygiad a nodir ym mharagraff 7(3)(d) gael ei ailbenodi.