Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2012

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1905 (Cy.232)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed

18 Gorffennaf 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Gorffennaf 2012

Yn dod i rym

1 Medi 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9(1)(a), 140(7) ac (8), 142(4) a (5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1)(2) yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:

(1)

2002 p.38. I gael ystyr “regulations” gweler adran 144(1).

(2)

Trosglwyddwyd y pŵ er a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i Weinidogion Cymru o dan adran 162(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.