xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
26 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw ardal ddaearyddol o Gymru y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
2.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae'r darpariaethau hynny o Fesur 2010 a nodir yn Atodlen 1, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
3.—(1) Mae paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdod lleol canlynol—
(a)Caerdydd; a
(b)Bro Morgannwg.
(2) Daw'r darpariaethau hynny o Fesur 2010 a nodir yn Atodlen 2 i rym ar 28 Chwefror 2012.
4.—(1) Mae paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdod lleol canlynol—
(a)Sir Gaerfyrddin;
(b)Ceredigion;
(c)Sir Benfro; ac
(ch)Powys.
(2) Daw'r darpariaethau hynny o Fesur 2010 a nodir yn Atodlen 2 i rym ar 31 Mawrth 2012.
5.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys o ran Cymru.
(2) Daw adran 12 o Fesur 2010 i rym ar 31 Ionawr 2012.
Gwenda Thomas
Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2012
Erthygl 2(2)
1. Adran 58(2) (swyddogaethau cymorth i deuluoedd);
2. Adran 60(1) (personau rhagnodedig);
3. Adran 62(2) (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
4. Adran 63 (rheoliadau ynghylch timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd).
Erthyglau 3(2) a 4(2)
Yr holl ddarpariaethau yn Rhan 3 o Fesur 2010 sydd ar ôl, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac eithrio paragraffau (b), (c) a (d) o adran 58(6).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i Ran 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“Mesur 2010”) mewn perthynas â dwy set bellach o ardaloedd awdurdod lleol (ac eithrio rhan o adran 58(6)).
Mae hefyd yn cychwyn rhai pwerau i wneud rheoliadau mewn perthynas â phob rhan o Gymru lle nad ydynt eisoes wedi cychwyn. Mae Rhan 3 (ac eithrio adran 58(6)) eisoes wedi cael ei dwyn i rym gan Orchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010, ond dim ond mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig, sef Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn y darpariaethau yn Atodlen 1. Mae'r darpariaethau'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau penodol i roi effaith i Ran 3 o'r Mesur ac mae'n cael eu dwyn i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud. Effaith erthygl 2 yw dwyn y pwerau hyn i rym mewn perthynas ag ardaloedd lle nad yw'r pwerau hynny eisoes wedi cychwyn.
Mae erthygl 3 a 4 yn cychwyn y darpariaethau a restrir yn Atodlen 2. Mae'r darpariaethau yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol Caerdydd a Bro Morgannwg ar 28 Chwefror 2012 ac mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys ar 31 Mawrth 2012. Mae'r darpariaethau yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu un neu ragor o dimau integredig cymorth i deuluoedd yn eu hardal. Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol y mae ei ardal yn cyfateb i ardal awdurdod lleol gymryd rhan wrth sefydlu'r tîm. Mae adran 58 yn nodi'r mathau o achosion a allai gael eu hatgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”) ac mae adran 58(6) yn nodi'r categorïau o oedolion a all fod yn destun atgyfeiriad teulu. Dim ond paragraff (a) o adran 58(6) sydd wedi ei gychwyn, felly dim ond atgyfeiriadau mewn perthynas â theuluoedd lle y mae rhiant yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau sy'n gallu cael eu derbyn gan dîm ICiD. Mae adrannau 61 a 62 yn darparu ar gyfer sefydlu byrddau ICiD i arolygu timau ICiD.
Mae erthygl 5 yn cychwyn adran 12 o Fesur 2010 ar 31 Ionawr 2012. Mae adran 12 yn ymwneud â phlant yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi cael eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn sydd wedi eu gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 57 | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
Adrannau 58 (1)-(5), (6)(a), (7)-(14) | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
Adrannau 59-65 | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
Adrannau 19-56 | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
Adran 72 ac Atodlen 1 paragraffau 1-18, paragraffau 21-28 | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
Adran 73 ac Atodlen 2 (i'r graddau y maent yn ymwneud â Deddf Plant 1989, Deddf Addysg 2002 a Deddf Gofal Plant 2006) | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
Adran 2 (i'r graddau y mae'n gymwys i awdurdodau Cymreig) | 10 Ionawr 2011 | O.S 2010/2994 (Cy.248) (C.134) |
Adrannau 4, 5, 6, 17, 18 | 10 Ionawr 2011 | O.S 2010/2994 (Cy.248) (C.134) |