
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2012
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Mesur 2010” (“the ”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru, y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol, y Cyngor Proffesiynau Iechyd neu ar gofrestr gyffelyb o weithwyr cymdeithasol a gynhelir yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol” (“consultant social worker”) yw gweithiwr cymdeithasol sydd â thair blynedd, o leiaf, o brofiad ar ôl cymhwyso ac yn meddu ar y cyfryw sgiliau, cymwysterau a chymwyseddau ag a bennir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn canllawiau a ddyroddir o dan adran 65 o Fesur 2010;
ystyr “nyrs” (“nurse”) yw person a gofrestrwyd yn rhan y nyrsys o'r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;
ystyr “tîm” (“team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd o dan Ran 3 o Fesur 2010;
ystyr “ymwelydd iechyd” (“health visitor”) yw person a gofrestrwyd yn rhan y nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol o'r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac sydd â'i gofnod yn y rhan honno o'r gofrestr yn cofnodi cymhwysedd mewn gwasanaethau ymwelwyr iechyd.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran yr ardaloedd hynny o Gymru y mae adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd) o Fesur 2010 wedi ei chychwyn mewn perthynas â hwy().
Back to top