Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi pa rai o swyddogaethau awdurdod lleol a swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol sy'n “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” at ddibenion adran 58 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) (“Mesur 2010”). Mae adran 57 o Fesur 2010 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn sefydlu un neu ragor o dimau integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”) yn eu hardal ac yn gwneud yn ofynnol bod Bwrdd Iechyd Lleol yn cymryd rhan yn eu sefydlu. Nid yw'r timau ICiD yn endidau cyfreithiol ar wahân, ond maent yn dwyn yr awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol at ei gilydd i gyflawni rhai swyddogaethau iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn rhoi sylw i faterion teuluoedd y ceir atgyfeirio'u hachosion atynt.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ardaloedd awdurdodau lleol y mae adran 57 wedi cael ei dwyn i rym mewn perthynas â hwy ac y mae ganddynt ddyletswydd i sefydlu tîm ICiD. Ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu dwyn i rym mae adran 57 mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Caerdydd a Bro Morgannwg (gweler Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010 a Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012).

Mae adran 58(2) o Fesur 2010 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi rhai swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol a rhai swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG fel “swyddogaethau cymorth i deuluoedd”. Rhaid i awdurdod lleol, gyda chydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan, benderfynu pa rai o “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” yr awdurdod ei hun a'r Bwrdd Iechyd Lleol i'w dosbarthu i'r tîm ICiD.

Mae is-adrannau (5) i (8) o adran 58 yn nodi'r mathau penodol o achosion y caiff awdurdod lleol eu cyfeirio at dîm ICiD. Mae'r swyddogaethau statudol a nodwyd yn gymwys yn ehangach nag y gallai fod yn ofynnol yn y mathau o achos o dan sylw, ac felly mae'r tablau yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn cynnwys testun sy'n cyfyngu'r ffocws i'r maes perthnasol.

Mae adran 58(12) o Fesur 2010 yn darparu y bydd swyddogaethau sydd wedi eu rhagnodi fel “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” ac wedi eu dosbarthu i dîm ICiD yn parhau i gael eu harfer gan yr awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol y tu allan i'r tîm, yn ogystal â chael eu cyflawni o fewn y tîm.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1701) (Cy.162).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.